Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r Aelodau bod y swm o gyfalaf y gall unigolyn sy'n derbyn gofal preswyl ei gadw heb orfod ei ddefnyddio i dalu am ei ofal yn cynyddu o £24,000 i £30,000 o heddiw ymlaen. Bydd unigolion mewn gofal yn elwa ar hyn yn syth. Bydd hefyd o fudd i'r unigolion hynny a fydd yn symud i gartref gofal yn y dyfodol, gan y byddant yn gallu cadw mwy o'u harian i'w ddefnyddio'n ôl eu dymuniad.

O heddiw ymlaen hefyd, bydd taliadau iawndal y mae cyn-filwyr y lluoedd arfog yn eu cael ar ffurf y Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael eu diystyru'n llwyr mewn asesiadau ariannol ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol. Golyga hyn y bydd y cyn-filwyr yn cael cadw swm llawn eu pensiynau i’w ddefnyddio fel y maent yn dymuno.

Mae'r diwygiadau hyn yn gam cadarnhaol ymlaen wrth wireddu dau o'n prif addewidion i bobl Cymru sydd wedi'u nodi yn ein cynllun pum mlynedd “Symud Cymru Ymlaen”.

Yr addewid cyntaf oedd cynyddu’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol sy’n codi tâl am ofal preswyl o £24,000 i £50,000. Diben y terfyn hwn yw pennu p'un a fydd unigolyn yn talu am gost lawn ei ofal preswyl ei hun, neu a fydd yn cael cymorth ariannol tuag at y gost honno gan ei awdurdod lleol. Mae hyd at 4,000 o breswylwyr cartrefi gofal yn talu cost lawn eu gofal ar hyn o bryd ac mae’n bosibl y bydd hyd at 1,000 o'r rhain yn elwa ar y cynnydd i £50,000, yn ddibynnol ar werth y cyfalaf sydd ganddynt.

Ar ôl trafod gyda rhanddeiliaid y sector, fe wnes i gyhoeddi'r llynedd y byddem yn cyflwyno'r cynnydd hwn yn raddol, gan ddechrau drwy godi'r terfyn i £30,000 yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd hyn yn golygu mai terfyn cyfalaf Cymru fydd yr uchaf drwy'r DU yn gyfan. Mae gwerth £4.5 miliwn o gyllid wedi cael ei roi i'r awdurdodau lleol drwy setliad 2017-18 i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cynnydd hwn.

Yr ail addewid oedd penderfynu diystyru'r Pensiwn Anabledd Rhyfel yn gyfan gwbl wrth wneud asesiadau ariannol i godi tâl am ofal cymdeithasol. Ar hyn o bryd caiff £25 yr wythnos ei ddiystyru. Bydd y newid hwn yn sicrhau na fydd cyn-filwyr y lluoedd arfog yn gorfod defnyddio'r arian hwn i dalu am gost eu gofal. Mae tua 6,500 o unigolion yn cael y pensiwn hwn yng Nghymru, a tua 150 o'r rhain yn cael gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae £0.3 miliwn o gyllid hefyd wedi cael ei roi i lywodraeth leol yn setliad eleni i gefnogi'r gwaith o weithredu'r newid hwn.

Fe wnes i osod rheoliadau diwygio i roi effaith i'r ddau newid gerbron y Cynulliad fis Chwefror. Ar y cyd â'r rheoliadau, cyflwynwyd cod ymarfer diwygiedig y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei ddilyn wrth godi tâl am ofal cymdeithasol. Daw'r rhain i rym heddiw.  

Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf er mwyn ein helpu wrth ystyried codi'r terfyn cyfalaf eto. Diben hyn yw gwireddu ein haddewid i sicrhau gwell bargen i unigolion mewn gofal preswyl yng Nghymru, drwy eu galluogi i gadw hyd at £50,000 o'r cyfalaf y maen nhw wedi gweithio'n galed amdano.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.