Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cytuno i dderbyn a gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y grŵp llywio For the Assessment of Individualised Risk (FAIR) a’r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau (SaBTO) y dylid dileu cwestiynau sy’n benodol i ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion (MSM) mewn asesiadau risg ar gyfer rhoddion meinweoedd a chelloedd pobl fyw a phobl sydd wedi marw.

Ar 14 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd y cyn Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod Cymru wedi cytuno i godi’r cyfyngiadau a oedd wedi atal dynion sy’n cael rhyw gyda dynion rhag rhoi gwaed. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd gweithredu argymhellion FAIR III yn ymestyn hyn i gynnwys rhoddion meinwe a chelloedd.

Bydd yr argymhellion newydd hyn yn newid y cwestiynau a ofynnir i roddwyr MSM a rhoddwyr sy’n bartneriaid i unigolion MSM, er mwyn gweithredu proses yng Nghymru sy’n seiliedig ar risg, yn niwtral o ran rhywedd ac yn fwy cynhwysol.

Rwyf wedi cyfarwyddo Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, Gwasanaeth Gwaed Cymru, a sefydliadau eraill yng Nghymru sy’n ymwneud â rhoi a thrawsblannu, i baratoi ar gyfer hyn ac i wneud newidiadau i’r cwestiynau a ofynnir yn ystod y prosesau rhoi meinweoedd a chelloedd. Byddwn wedyn yn gallu defnyddio asesiadau sy’n briodol i’r unigolyn er mwyn canfod a yw’r rhoddwr mewn perygl o fod â haint feirws sy’n cael ei gario yn y gwaed, waeth beth yw ei ryw, ei rywedd neu ei gyfeiriadedd rhywiol.   

Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod asesiadau risg tecach a mwy cyfoes yn cael eu defnyddio ar gyfer ein holl roddwyr.  

Rwy’n disgwyl i’r newidiadau hyn gael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl o fewn gallu sefydliadau.