Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r Aelodau fy mod wedi gwneud dau offeryn statudol mewn cysylltiad â gweithredu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ('Deddf 2022') a dwyn i rym swyddogaethau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ('Medr'), sef:

  • Rheoliadau Addysg (Cyrsiau Addysg Uwch Penodedig) (Cymru) 2025 (“Rheoliadau adran 89”), a
  • Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2025 (“y Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau”).

Ar ôl i Medr ddod yn weithredol y llynedd, mae ei swyddogaethau fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2022 wedi cael eu dwyn i rym fesul cam, gyda'r cam diweddaraf yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill eleni. 

Wrth edrych ymlaen, rwy'n bwriadu gwneud is-ddeddfwriaeth bellach i ddwyn i rym, ar 1 Ebrill 2026, cam nesaf swyddogaethau Medr; yn bennaf mewn perthynas â sicrhau, cyllido ac arolygu addysg bellach a hyfforddiant, ynghyd â darpariaeth yn adran 89 o Ddeddf 2022 sy'n galluogi Medr i gyllido cyrsiau addysg uwch cymwys. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law.

Mae Rheoliadau adran 89 yn pennu cyrsiau addysg uwch cymwys at ddibenion adran 89(3) o Ddeddf 2022, gan alluogi Medr i ddarparu cyllid i ddarparwyr mewn cysylltiad â:

  • cyrsiau i baratoi at arholiad proffesiynol, y mae ei safon yn uwch nag arholiadau Safon Uwch neu'r arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol y Cyngor Addysg Fusnes a Thechnegol (“BTEC”) (paragraff 1(g)),
  • cyrsiau sy'n darparu addysg pan fo safon y cyrsiau hynny yn uwch na safon y cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi at arholiadau o'r fath (paragraff 1(h)), a
  • cyrsiau ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC a nodir o fewn fframwaith prentisiaethau a gyhoeddir o dan adran 19(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

Mae'r bwriad polisi wrth wneud y Rheoliadau hyn yn ddeublyg.

Yn gyntaf, bydd y Rheoliadau yn sicrhau bod gan Medr swyddogaethau digonol i ddarparu cyllid ar gyfer cyrsiau addysg uwch o natur debyg i'r rhai a gyllidir ar hyn o bryd gan Weinidogion Cymru drwy raglenni fel prentisiaethau uwch, y rhaglen cyfrif dysgu personol a'r ddarpariaeth addysg bellach brif ffrwd sy'n cynnwys cyrsiau sydd ar lefel i'w hystyried yn addysg uwch. 

Yn ail, bydd y Rheoliadau yn galluogi Medr i gyllido cyrsiau sy'n dod o fewn paragraff 1(g) neu (h) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn barhaus, gan adlewyrchu swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel y'u nodir yn adran 92 o Ddeddf 2022.

Gan droi at y Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau, mae'r rhain yn mynd i'r afael â'r ddyletswydd yn adran 79(3) o Ddeddf 2022 lle mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad â'r trefniadau mewn perthynas ag adolygu penderfyniad penodol a wneir gan Medr. Pan fo Medr yn dewis cyhoeddi hysbysiad neu gyfarwyddyd yn unol â rhai o'i bwerau rheoleiddio fel y'u nodir yn Neddf 2022, caiff y darparwr sy'n cael yr hysbysiad neu'r cyfarwyddyd ofyn am adolygiad o'r penderfyniad gan berson neu banel annibynnol a benodir gan Weinidogion Cymru. 

Mae'r Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau yn gwneud y ddarpariaeth angenrheidiol i sicrhau eglurder ynghylch y broses ar gyfer adolygu penderfyniadau perthnasol a wneir gan Medr, rhoi cyfle digonol i'r darparwr gyflwyno tystiolaeth a sicrhau y gellir cwblhau'r broses mewn modd amserol.

Y Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau yw'r trydydd o bum offeryn statudol sy'n ofynnol i gwblhau'r fframwaith deddfwriaethol a fydd yn galluogi Medr i sefydlu'r gofrestr mewn perthynas â darparwyr addysg uwch yng Nghymru. 

Cafodd y ddau offeryn cyntaf (Rheoliadau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru a Dadgofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024 a Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Dynodi Darparwyr) 2024) eu gwneud gennyf ym mis Tachwedd 2024 ac yn y flwyddyn newydd rwy'n bwriadu gwneud y ddau offeryn statudol olaf. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau maes o law.