Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddydd Mercher, 23 Mawrth yn amlinellu’r cynlluniau diwygiedig ar gyfer symud plant sydd ym mlwyddyn 10 neu’n iau ar hyn o bryd i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol, rwyf heddiw yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y cynlluniau i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 (Deddf ADY) mewn perthynas â phobl ifanc ôl-16. 

Bydd gweithredu’r Ddeddf ar gyfer pobl ifanc ôl-16 yn galw am system sianelu, lle bydd y rheini sydd ym mlwyddyn 10 neu’n iau ar hyn o bryd, sy’n cael eu symud i’r system ADY gan eu hysgol neu eu hawdurdod lleol yn ystod y cyfnod gweithredu, yn cael eu sianelu’n naturiol i addysg bellach â chynllun datblygu unigol (CDU) eisoes yn ei le (lle bo angen cynllun o’r fath). Bydd unrhyw berson ifanc nad yw eto’n rhan o’r system ADY ar ddiwedd blwyddyn ysgol 2024/25 yn symud draw i’r system bryd hynny.

Mae’r dull gweithredu hwn yn adlewyrchu sut bydd y system ADY yn gweithio yn y tymor hir. Bydd sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol yn dechrau mynd ati i gynnal cynlluniau datblygu unigol ar gyfer pobl ifanc mewn ffordd raddol, ofalus, gan sicrhau eu bod yn gwbl barod i ymgymryd â’u dyletswyddau, a bod y broses o lunio’r cynlluniau yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn hefyd yn osgoi gosod baich rhy drwm ar sefydliadau addysg bellach, ysgolion ac awdurdodau lleol ar adeg o bwysau eithafol yn sgil effeithiau’r pandemig a’r agenda i ddiwygio addysg yn ehangach.  

Hyd nes y bydd y Ddeddf ADY yn berthnasol i berson ifanc, bydd Deddf Addysg 1996 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn parhau i fod yn weithredol, a bydd yn dal i dderbyn y gefnogaeth sydd ar gael drwy’r system Anghenion Addysgol Arbennig ar y naill law, a’r system Anawsterau ac Anableddau Dysgu ar y llall.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am sicrhau darpariaeth ôl-16 arbenigol i bobl ifanc nad oes modd cyflawni eu hanghenion addysg a hyfforddiant drwy ddarpariaeth y brif ffrwd, o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000. Fel rhan o’r Ddeddf ADY, bydd y cyfrifoldeb hwn yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. O dan y trefniadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw, bydd hyn yn digwydd yn raddol, a bydd awdurdodau lleol yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y sawl sydd wedi’u symud i’r system ADY o 2022/23 (sydd ym mlwyddyn 10 neu’n iau ar hyn o bryd). Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau a chyllido lleoliadau ôl-16 arbenigol i’r bobl ifanc hynny nad ydynt eto wedi’u symud i’r system ADY (sydd ym mlwyddyn 11 neu’n hŷn ar hyn o bryd).   

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu sicrwydd i bobl ifanc sydd mewn darpariaeth arbenigol. Gallaf gadarnhau heddiw, felly, y bydd unrhyw gyllid ar gyfer lleoliadau a gytunir gan Weinidogion Cymru cyn diwedd blwyddyn ysgol 2024-25 yn dal i fod ar gael i bobl ifanc hyd nes iddynt gwblhau’r rhaglen astudio a gytunwyd.  

Er mwyn cefnogi sefydliadau addysg bellach i barhau i baratoi ar gyfer y system newydd a’u helpu i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i bobl ifanc ag ADY, gallaf gadarnhau hefyd y bydd rôl Arweinydd Trawsnewid y System ADY o fewn addysg bellach yn cael ei hymestyn o 31 Mawrth 2022 i 31 Mawrth 2023, a gwn y bydd y sector yn croesawu hyn.

Bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at randdeiliaid allweddol yn amlinellu manylion pellach y trefniadau hyn yn ystod y dyddiau nesaf.