Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae sicrhau rhagoriaeth, tegwch a llesiant i bob plentyn a pherson ifanc yn un o ddibenion craidd ein diwygiadau ym maes addysg. Mae'n galonogol felly gweld bod y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fywydau dysgwyr a'u teuluoedd.  

Adroddir am gynnydd cyson a chadarnhaol tuag at weithredu'r system ADY ac mae partneriaid yn dweud bod ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gwella ymgysylltu a’r cymorth y mae dysgwyr ag ADY a'u teuluoedd yn ei gael. Mae’n braf clywed am yr arferion ADY da sy'n cael eu rhoi ar waith gan ysgolion.   

Fodd bynnag, dros y chwe mis diwethaf, mae Cydlynwyr ADY, awdurdodau lleol, ysgolion arbennig, penaethiaid, darparwyr trydydd sector ac ymarferwyr addysg eraill wedi dweud wrthym bod angen mwy o amser i wreiddio newid effeithiol. Maent wedi dangos y pwysau cynyddol sydd wedi’u creu yn sgil ymateb, er enghraifft, i bwysau parhaus y pandemig ar blant a phobl ifanc sydd angen cymorth oherwydd materion cymdeithasol ac emosiynol, tra’n symud plant a phobl ifanc o’r system AAA i’r system ADY newydd ar yr un pryd. Rwyf felly wedi penderfynu bod angen mwy o amser i gyflawni'r newidiadau a'r gwelliannau drwy'r diwygiadau ADY.  

Mae'n hanfodol i’n dysgwyr ag ADY ein bod yn gweithredu'r ddeddfwriaeth hon mewn ffordd effeithiol. Felly, rwyf wedi penderfynu ymestyn y cyfnod ar gyfer gweithredu'r Ddeddf ADY o dair blynedd i bedair blynedd. Rwyf hefyd yn bron â dyblu'r cyllid i bartneriaid addysg ar gyfer gweithredu ADY, gan fuddsoddi £12m yn 23-24, a 24-25 i sicrhau mwy o’r adnoddau sydd eu hangen i wreiddio'r diwygiadau ADY yn llwyddiannus. Hefyd, i gydnabod rôl bwysig ysgolion arbennig, rwy'n buddsoddi £1m o'r gyllideb 22-23 i ad-dalu costau a ysgwyddwyd eleni.

Mae ymestyn y cyfnod gweithredu yn golygu y bydd y plant a oedd i fod i symud i'r system ADY rhwng mis Medi 2023 a mis Awst 2024 yn awr yn symud i'r system ADY rhwng mis Medi 2023 a mis Awst 2025. Bydd hyn yn creu mwy o hyblygrwydd i’r cyrff sy'n gyfrifol am symud plant o'r system AAA i'r system ADY.

Nid effeithir ar hawliau plant a'u rhieni i ofyn am symud plentyn i'r system ADY. Mae hyn yn golygu y gall plant sydd am symud i'r system ADY ofyn am wneud hynny o hyd.  

Ni fydd y system sianelu, ar gyfer dysgwyr ôl-16, fel a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, yn newid.

Mae cynnal ffocws a momentwm o ran y diwygio yn hanfodol er mwyn gweithredu’r Ddeddf yn llwyddiannus. Bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at randdeiliaid allweddol yn nodi rhagor o wybodaeth am y trefniadau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, ynghyd â diweddaru'r canllawiau cyhoeddedig.