Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Mae'r datganiad hwn yn parhau â'm cyfres reolaidd o ddiweddariadau i'r Aelodau ynglŷn â gweithredu Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024.
Mae Deddf 2024 yn cyflwyno hawliau a mesurau diogelu newydd sylweddol i'r perchnogion tai hynny ar ystadau a reolir yn breifat sy'n talu taliadau rheoli ystadau. Hyd yn hyn gallai'r perchnogion tai hyn wynebu biliau aneglur a gormodol weithiau am waith, heb unrhyw hawl i gasglu rhagor o wybodaeth neu herio taliadau. Ar ôl ei gweithredu'n llawn, bydd Rhan 5 o Ddeddf 2024:
- Yn caniatáu i berchnogion tai herio rhesymoldeb y taliadau am y tro cyntaf;
- Yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr ystadau ddarparu gwybodaeth am y gwasanaethau a delir amdanynt trwy daliadau;
- Yn caniatáu i berchnogion tai wneud cais i dribiwnlys i benodi rheolwr newydd mewn achosion o fethiant rheoli;
- Pan fo rheolwr ystad yn bwriadu gwneud talu taliadau gweinyddol yn ofynnol, yn ei gwneud yn ofynnol i fanylion y taliadau hyn gael eu cyhoeddi ymlaen llaw.
Mae dosbarthu'r pwerau i wneud yr is-ddeddfwriaeth sy'n angenrheidiol i danio'r Rhan hon o'r Ddeddf yn golygu bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth DU yn gyfrifol am ymgynghori ar wahanol elfennau o'r gyfundrefn. Mae cyfran sylweddol o'r pwerau hyn yn arferadwy gan Weinidogion y DU yn unig, ond mae'r rhai sy'n ymwneud â'r angen i gyhoeddi atodlen o daliadau gweinyddol yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru. Rydym wedi cydweithio â swyddogion cyfatebol yn y DU i sicrhau bod ein hymgyngoriadau yn y maes hwn ar gael ar yr un pryd fel y gall perchnogion tai gael mynediad at y cynigion ar yr un pryd, ac annog perchnogion tai a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb yn y maes hwn i gwblhau fy ymgynghoriad ar gyhoeddi taliadau gweinyddol ac ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y gyfundrefn ehangach.
Mae'r ymgynghoriad ar daliadau gweinyddol ar gael yma: Sicrhau tryloywder i berchnogion tai rhydd-ddaliad sy'n talu taliadau gweinyddu | LLYW.CYMRU. Mae ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y gyfundrefn ehangach ar gael yma: Enhanced protections for homeowners on freehold estates - GOV.UK.
