Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd y cod ymarfer mewn perthynas â mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ar 2 Chwefror 2015. Roedd y 57 o ymatebion a dderbyniwyd yn rhai cadarnhaol iawn - a'r ymatebwyr yn cytuno â'r dull o fesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol gan ddefnyddio data ansoddol a meintiol.

Mae'r ymatebion hyn wedi cynnig gwybodaeth werthfawr inni. Ac rydym wedi defnyddio'r wybodaeth honno'n sail tystiolaeth, er mwyn gwneud newidiadau i ddatblygu a mireinio'r cod ymarfer hwn ymhellach. Mae'r newidiadau hynny'n cael eu nodi yn y ddogfen gryno ar yr ymgynghoriad a chyhoeddwyd heddiw.

Rwy'n hyderus y bydd y fframwaith hwn yn galluogi awdurdodau lleol i ddeall canlyniadau perfformiad o ran eu dyletswyddau dan ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd adroddiad ar y fframwaith ar gael o fis Ebrill 2016 ymlaen, pan fydd y Ddeddf yn dod i rym. Bydd y fframwaith yn disodli'r holl wybodaeth ar berfformiad gwasanaethau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli.

Bydd y newid pwyslais hwn o ran gofynion perfformiad yn helpu awdurdodau lleol i wella perfformiad a chanolbwyntio ar y prif bethau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae'r set newydd hon o ofynion o ran perfformiad gwasanaethau cymdeithasol yn sail i'n polisi o roi grym i bobl i barhau i reoli'r ffordd y maent yn byw eu bywydau, gan sicrhau bod y gwasanaethau'n canolbwyntio ar ddulliau ataliol ac ymyrryd yn gynnar.

Yn dilyn cwblhau'r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys y dadansoddiad ar ôl yr ymgynghoriad, bwriedir gosod y cod ymarfer hwn ynghyd â'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.
Yn dilyn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, mae dogfen weithio sy'n cynnig canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol i gasglu’r data a nodwyd yn y cod ymarfer wedi’i chyhoeddi heddiw hefyd.

Cod Ymarfer:

http://www.assembly.wales/laid documents/sub-ld10272/sub-ld10272-w.pdf

Memorandwm Esboniadol:

http://www.assembly.wales/laid documents/sub-ld10272-em/sub-ld10272-em-w.pdf