Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gennyf roi gwybod i Weinidogion fy mod wedi gwneud Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2021, sef y Gorchymyn cychwyn olaf y byddaf yn ei wneud yn nhymor hwn y senedd o ran Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”). 

Ar 1 Mai 2021, bydd y Gorchymyn cychwyn hwn yn dod â holl ddarpariaethau adrannau 47 a 49 i rym, yn ogystal ag Atodlen 4 i Ddeddf 2021 nad yw eto mewn grym.

O 1 Mai, bydd angen i awdurdodau lleol wneud trefniadau i sicrhau y gellir cynnal eu cyfarfodydd yn rhithwir.

Awdurdodau lleol yng nghyd-destun adran 47 yw prif gynghorau, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd (ar gyfer rhanbarth iechyd porthladd yng Nghymru a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984). Bydd angen i brif gyngor hefyd wneud trefniadau o ran presenoldeb mewn cyfarfodydd o’r weithrediaeth.

Yn ogystal, bydd newidiadau i’r modd y ceir mynediad at ddogfennau, a’r modd y bydd gwysiau’n cael eu hanfon o 1 Mai. Bydd y drefn newydd, a fydd yn sicrhau bod gweithdrefnau cyfarfodydd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif, yn seiliedig yn bennaf ar y drefn dros dro a gyflwynwyd gan y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020. Mae’r Rheoliadau hynny’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarfodydd a gynhaliwyd cyn 1 Mai 2021 yn unig. O’r dyddiad hwnnw, bydd hawl y cyhoedd a’r wasg i fynd i gyfarfodydd yn cael ei hadfer, er y bydd hynny’n amodol ar unrhyw reoliadau iechyd y cyhoedd sy’n parhau.

Rwyf hefyd wedi gwneud y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2021 a fydd hefyd yn berthnasol o 1 Mai ymlaen. 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 i adlewyrchu’r ffaith y gellir cynnal cyfarfodydd y weithrediaeth yn gyfan gwbl neu’n rhannol rithwir. Maent hefyd yn gwneud newidiadau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd y weithrediaeth a phenderfyniadau’r weithrediaeth, gan gynnwys diwygiadau ategol i’w gwneud yn ofynnol i gyhoeddi dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd a phenderfyniadau o’r fath yn electronig.