Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein bwriad i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar 15 Gorffennaf 2022. Mae hyn yn unol â'r ymrwymiad i weithredu Deddf 2016 ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon, fel y nodir yn natganiad y Cwnsler Cyffredinol ar y rhaglen ddeddfwriaethol fis Gorffennaf diwethaf. Rwy’n cydnabod ei bod wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl i weithredu Deddf 2016, ond bu’n rhaid inni ddatblygu llawer o offerynnau statudol, ac roedd angen ymgynghori ar wahân ar rai ohonynt. Er mwyn osgoi dryswch, penderfynwyd hefyd y byddem yn cyflawni ein hymrwymiad i wella diogelwch deiliadaeth cyn gweithredu Deddf 2016, a gwnaethom hynny drwy gyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.

Deddf 2016 yw'r newid mwyaf a wnaed i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Mae'n cynyddu'r amddiffyniadau i denantiaid a thrwyddedeion, a elwir yn 'ddeiliaid contract' yn y ddeddfwriaeth, mewn nifer o ffyrdd. Mae'n cyflwyno gofyniad i roi chwe mis o rybudd i landlord derfynu contract os nad yw deiliad y contract ar fai. Yn ogystal, gan na fydd landlordiaid yn gallu cyhoeddi hysbysiad i hawlio meddiant yn ystod y chwe mis cyntaf o feddiannaeth, bydd gan ddeiliaid contract sicrwydd deiliadaeth am o leiaf blwyddyn o’r dyddiad meddiannu. Golyga hynny y bydd gan ddeiliaid contract yng Nghymru yr amddiffyniad gorau o ddechrau eu contract nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

Mae'r Ddeddf hefyd yn amddiffyn rhag troi tenantiaid allan er mwyn dial. Os bydd landlord yn ymateb i gais am waith atgyweirio drwy gyflwyno hysbysiad i adennill meddiant, ni fydd ganddo hawl awtomatig mwyach i feddiannu’r eiddo, os yw'r Llys yn fodlon bod y landlord wedi cyhoeddi'r hysbysiad i osgoi gwneud y gwaith atgyweirio. Yn ogystal, gellir ychwanegu cyd-ddeiliaid contract at gontractau meddiannaeth neu eu tynnu oddi arnynt heb fod angen dod ag un contract i ben a dechrau un arall. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws rheoli cyd-gontractau, ac yn helpu’r rheini sy’n dioddef cam-drin domestig drwy alluogi camau i sicrhau y caiff y sawl sy’n cam-drin ei droi allan.

Rwyf wedi ymrwymo hefyd i sicrhau bod yr wybodaeth allweddol y bydd angen i landlordiaid gydymffurfio â hi, fel rhan o'u rhwymedigaethau o dan y Ddeddf, ar gael chwe mis cyn i'r Ddeddf gael ei gweithredu. Felly, rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw fy mod wedi gwneud rheoliadau ar: y telerau atodol diofyn sydd i'w cynnwys yn y contractau meddiannaeth newydd; yr wybodaeth esboniadol sydd i'w chynnwys mewn contractau meddiannaeth; y datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontract; a'r rhwymedigaeth ar gyfer ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru ynghylch Rhentu Cartrefi (www.gov.wales/rentinghomes), o ddydd Gwener 14 Ionawr. Bydd ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth ymhlith landlordiaid a thenantiaid yn dechrau o'r dyddiad hwnnw ymlaen hefyd.