Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw y dylai Cymru fod y wlad gyflymaf yn y DU am benderfynu ar geisiadau seilwaith.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, bydd Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn gwella'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau seilwaith mawr drwy gyflymu'r broses. Mae'r Ddeddf hon yn darparu ar gyfer gwneud penderfyniadau cyflymach ar ddatblygiadau mawr ynghyd ag ymgysylltu'n briodol â'r gymuned a'r rhanddeiliaid.

Mae'r darnau canlynol o is-ddeddfwriaeth ar gyfer gweithredu'r Ddeddf bellach wedi'u gwneud:

  • Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2025
  • Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a'r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025;
  • Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025
  • Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025;
  • Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025; a
  • Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025.

Mae'r rheoliadau sydd bellach yn eu lle yn golygu ein bod yn gallu symud ymlaen tuag at sicrhau bod y broses gydsynio seilwaith newydd yn dod yn weithredol o 15 Rhagfyr eleni ymlaen.

Ar hyn o bryd rydym yn paratoi canllawiau ar nifer o feysydd i gyd-fynd â’r broses gydsynio newydd. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau sy'n nodi rhagor o gyngor manwl ar ofynion cyn ymgeisio, gwneud cais, a sut y gall cymunedau gymryd rhan.

Bydd fy swyddogion hefyd yn cynnal hyfforddiant gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau cynllunio lleol, ar y broses gydsynio newydd cyn iddi ddod i rym. 

Bydd y system newydd hon yn disodli'r 'Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol' presennol yn ogystal â chyfundrefnau cydsynio eraill. Bydd ymgeiswyr yn dal i allu cyflwyno eu cynigion i'w penderfynu o dan y cyfundrefnau cydsynio presennol tan 15 Rhagfyr. 

Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i sicrhau pontio llyfn rhwng systemau cydsynio. Mae hyn wedi'i gynllunio i sicrhau bod gwaith ymgysylltu effeithiol yn cael ei wneud â rhanddeiliaid cyn cyflwyno cais, ond bod dyblygu diangen a allai achosi dryswch yn cael ei osgoi. Anogir datblygwyr i ofyn am gyngor cyn ymgeisio gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru am eu llwybr cydsynio, fel bod y broses hon mor llyfn â phosibl. 

Rwy'n bwriadu cyflwyno dwy set arall o reoliadau ar ddarpariaethau ar gyfer trefniadau canlyniadol a throsiannol ac ar gyfer newid a dirymu gorchymyn cydsynio seilwaith yn ddiweddarach yn y flwyddyn.