Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn eich hysbysu y byddaf yn ysgrifennu at bob pennaeth yng Nghymru heddiw i roi mwy o eglurder am sut gall ysgolion a cholegau barhau i weithredu'n ddiogel pan fyddant yn dychwelyd ym mis Medi.

Wrth i ni barhau i fonitro cyfraddau achosion COVID ledled Cymru, a sut maent yn ymwneud â derbyniadau i ysbytai, mae llwyddiant ein rhaglen frechu yn rhoi achos i ni fod yn optimistig ynghylch y dyfodol. Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ar draws y gymdeithas ehangach, dylai lleoliadau addysgol weld patrwm tebyg hefyd.

Mae llawer o’r bobl ifanc rydw i wedi siarad â nhw wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bod y system bresennol yn gymesur. Maen nhw eisiau cael eu trin yr un fath â phawb arall - ac mae hynny'n swnio'n deg i mi.

Mae tri phrif newid yn cael eu cynnig i ddod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl i addysg cyn tymor newydd yr hydref. Dyma’r newidiadau:

  • Ni fydd gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell bellach yn rheolaidd mewn ystafelloedd dosbarth;
  • Ni fydd angen grwpiau cyswllt mwyach ar gyfer disgyblion ysgol na dysgwyr llawn amser mewn colegau. Byddwn yn defnyddio ein system Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn nodi cysylltiadau agos dysgwyr sydd wedi profi'n bositif.
  • Bydd amseroedd sesiwn arferol yn ailddechrau.

Erbyn diwedd mis Medi bydd pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig y ddau frechlyn, gan ddarparu mwy o ddiogelwch i’n gweithlu addysg. Mae corff cynyddol o dystiolaeth hefyd yn dangos bod plant a phobl ifanc yn profi mwy o niwed o golli'r ysgol nag o covid.

Cyhoeddwyd cyngor newydd heddiw ar y newidiadau allweddol o fis Medi ymlaen ynghyd â'r Canllawiau Gweithredol wedi'u diweddaru sy'n rhoi mwy o fanylion am yr holl elfennau a nodir yn y llythyr, gan gynnwys eglurder pellach ar y swyddogaethau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'r broses Profi, Olrhain, Diogelu o fis Medi ymlaen. Bydd canllawiau ar gyfer Addysg Bellach yn cael eu cyhoeddi wythnos nesaf.

Byddwn yn cyhoeddi’r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau COVID-19 Lleol ar ddechrau tymor yr hydref fel bod ysgolion yn cael amser i ymgorffori systemau newydd yn ystod yr wythnosau sy'n dilyn. Bydd y fframwaith yn galluogi ysgolion a cholegau i deilwra rhai o'r ymyriadau i adlewyrchu lefel y risg yn lleol. Byddant yn cael eu cefnogi gan swyddogion iechyd cyhoeddus ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y mesurau'n briodol i'w hamgylchiadau.

Efallai y bydd angen cyhoeddi diweddariadau pellach os bydd unrhyw ddatblygiadau sylweddol yn ystod cyfnod gwyliau'r haf. Byddaf yn eich diweddaru.

Rydw i wedi mynegi fy niolchgarwch i’r gweithlu addysg am eu holl waith caled a’u ymdrech yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Rwy'n siŵr y byddem ni oll yn cytuno y dylent edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf gyda balchder aruthrol - maent wedi dangos penderfyniad a gwytnwch anfesuradwy wrth gefnogi’r dysgu a chadw lleoliadau addysg mor ddiogel â phosibl o ran COVID.