Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi ymrwymo i wella siawns pobl o oroesi ar ôl ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. I gefnogi'r dyhead hwn, ym mis Mehefin y llynedd, lansiais y Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty i Gymru. Cynllun uchelgeisiol yw hwn a fydd yn gweld y cyhoedd, y trydydd sector, y gwasanaethau brys a gweithwyr proffesiynol iechyd yn cydweithio i ymateb i bobl sy'n cael ataliad y galon yn y gymuned.

Wrth i Wasanaeth Ambiwlans Cymru lansio ei raglenni blynyddol unwaith eto ar gyfer Shoctober a Diwrnod Ailddechrau'r Galon, mae'n amser priodol i roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd wrth roi'r cynllun ar waith.

Y gwir trist amdani yw bod cleifion 10% yn llai tebygol o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty wrth i bob munud fynd heibio. Mae'r cyfraddau goroesi'n isel ond mae yna botensial i lawer mwy o fywydau gael eu hachub, fel y dangosir gan nifer o wledydd eraill sydd wedi cymryd camau gweithgar i wella pob cam yn yr hyn a elwir yn “gadwyn oroesi”. Hwn yw'r rheswm y tu ôl i'r Cynllun hwn a dyna pam y mae mor bwysig inni gymryd camau pendant.  

Mae gwella canlyniadau'n gofyn am ystod eang o weithgareddau ar draws y gadwyn oroesi, gan gynnwys adnabod problem yn gynnar a galw am help i atal ataliad y galon rhag digwydd; adfywio cardio-pwlmonaidd cynnar i brynu amser i'r claf; diffibrilio cynnar i ailddechrau'r galon ac wedyn gofal ôl-ddadebru da a ddylai sicrhau canlyniad da ac ansawdd bywyd da.  

Mae'r angen am bartneriaeth yn allweddol i roi'r cynllun ar waith yn llwyddiannus. Yn sgil cyhoeddi'r cynllun, cynhaliwyd gweithdy i roi cydweithrediad ar waith yng Nghaerdydd fis Rhagfyr diwethaf. Daeth sefydliadau o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol ynghyd i gytuno ar sut y byddai'r cynllun yn cael ei symud ymlaen. Clywsom gan Lywodraeth yr Alban am bartneriaeth Save a Life for Scotland, a thrwy gyswllt fideo gan yr Athro Mickey Eisenberg am y gwaith sy'n cael ei wneud yn King County yn Seattle. Cytunwyd y dylem geisio dysgu o brofiadau gwledydd eraill yma yng Nghymru.  
Mae'r adborth o'r gweithdy wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu ffrydiau gwaith penodol ym mhob rhan o'r gadwyn oroesi. Mae'r rhain yn cynnwys cyfathrebu, CPR/Diffibrilio, gofal cyn ar ac ar ôl yr ysbyty a Chofrestru/Ymchwil.

Er bod y cynnydd yn arafach nag y byddem wedi ei ddymuno ar rai agweddau ar y cynllun, gwnaed cynnydd sylweddol o ran gwella llwybrau o fewn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r byrddau iechyd i sicrhau, pan ddaw galwad 999 i law, fod pobl yn cael y cymorth angenrheidiol i'w helpu i oroesi a hynny cyn i'r parafeddygon gyrraedd ac yn y lleoliad, cyn cael eu cludo i ysbyty priodol ar gyfer triniaeth ddiffiniol.  

Cafwyd cynnydd cyson yn nifer y diffilibrwyr sydd wedi'u mapio i mewn i system ddosbarthu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda 2,763 o ddiffibrilwyr ym mhob rhan o Gymru wedi'u cofrestru erbyn hyn.

Yn ogystal, bu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n gweithio gyda Rhwydwaith y Galon Cymru a Phrifysgol Warwick i fapio'r data am ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Mae hyn yn cynnwys mapio llwybr cyfan ataliad y galon o'r dechrau hyd at y driniaeth a rhyddhau'r claf o'r ysbyty, gan ddefnyddio data o'r byrddau iechyd. Trwy ddeall y llwybr gofal yn well, bydd y data hwn yn helpu i sicrhau cysondeb mewn ymateb i ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.

Rydym yn dechrau edrych o ddifrif yn awr ar rai o rannau mwyaf heriol y cynllun, gan gynnwys sut y gallwn greu carfan gref o'r cyhoedd a allai, ar ôl cael  hyfforddiant addas, gymryd camau hyderus pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon. Rwyf yn falch iawn o gyhoeddi heddiw y byddwn yn sefydlu partneriaeth, sy'n debyg i'r un yn yr Alban, o'r enw Achub Bywydau Cymru.

Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar yr ymdrechion clodwiw sydd eisoes wedi'u gwneud gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i addysgu CPR mewn ysgolion - fis Hydref diwethaf yn ystod Ymgyrch Dechrau'r Galon, addysgwyd CPR i bron 13,000 o blant ysgol.  Bydd Achub Bywydau Cymru yn arwain y gwaith o wella mynediad i hyfforddiant CPR a diffilibrio. Rydym yn gwahodd holl gyrff y trydydd sector, y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill sydd â buddiant i ddod yn aelodau o'r bartneriaeth a chydweithio â ni i osod y sylfaen ar gyfer adeiladu gweithgarwch achub bywydau ledled y wlad.

Bydd Achub Bywydau Cymru yn tanlinellu ac yn hybu gwaith grwpiau sydd eisoes yn  addysgu CPR yn eu cymunedau. Datblygir rhwydweithiau cymunedol lleol i hybu cydweithredu ar draws gwasanaethau, nodi cymunedau ledled Cymru sydd â llai o gyfle am hyfforddiant CPR a chynnig cymorth i gydgysylltu digwyddiadau graddfa fwy. Yn olaf, bydd y bartneriaeth yn hyrwyddo'r ymgyrch i'r cyhoedd yng Nghymru.

Caiff y bartneriaeth hon ei chefnogi i ddechrau gan Reolwr Rhaglen i helpu i'w sefydlu ac i sicrhau y gellir gwneud cynnydd cyflym ar gamau cyntaf y gadwyn oroesi. Mae'r ymateb hyd yn hyn gan randdeiliaid allweddol yn galondid inni.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfanswm o  £586,000 o gyllid am ddwy flynedd gyntaf y bartneriaeth i gefnogi rheolwr y rhaglen a gweithgareddau cyfathrebu angenrheidiol i godi ymwybyddiaeth.

Bydd hyn yn cynnwys datblygu cyfryngau rhagweithiol, cyfryngau cymdeithasol, gwefan, eitemau hyrwyddo a chynnwys arall er mwyn creu proffil cyhoeddus ar gyfer y gwaith ac annog pobl o bob oedran i ddysgu CPR.

Er mwyn llwyddo i roi'r cynllun ar waith, rydym yn cydnabod y bydd angen i sefydliadau ddatblygu eu cynlluniau eu hunain i gefnogi cyflenwi ac y bydd angen camau cydgysylltiedig ar lefel genedlaethol hefyd.

Mae'r marwolaethau trasig dros y penwythnos yn Hanner Marathon Caerdydd yn tanlinellu sut y gall ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ddigwydd unrhyw bryd a phwysigrwydd ymyrraeth gyflym, er nad oedd modd achub eu bywydau y tro hwn. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i deuluoedd ac anwyliaid y ddau ddyn ifanc hyn a diolch i'r gwasanaethau brys, gwirfoddolwyr a phobl yn y dorf am eu holl ymdrechion.

Mae'r diweddariad heddiw'n amlinellu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid wedi'i wneud hyd yn hyn i greu a darparu'r camau cyntaf o ran rhoi'r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty ar waith. Mae'r cyllid yr ydym wedi'i ddarparu'n atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati i sefydlu partneriaeth Achub Bywydau Cymru.

Gyda'n gilydd rydym yn benderfynol o wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliad y galon yng Nghymru.

Gellir cael copi o'r cynllun OHCA yn:

https://gov.wales/topics/health/nhswales/plans/heart_plan/?skip=1&lang=cy