Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Minister for Education

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bwriad y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) drafft a'r rheoliadau cysylltiedig arfaethedig. Ym mis Mehefin, cyhoeddais dri adroddiad cychwynnol yn crynhoi'r ymatebion allanol i’r ymgynghoriad hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar i bawb am roi eu hamser i ymateb.

Cyn gosod canllaw gweithredu wedi’i ddiweddaru, a fydd yn ystyried yn llawn yr ymatebion hyn ac adborth parhaus, gallaf gadarnhau’r canlynol:

  • Bydd y swyddogaethau statudol sy’n cael eu creu gan y Ddeddf ADY yn cychwyn fis Ionawr 2021, ond bydd y system ADY newydd yn cychwyn, un cam ar y tro, o fis Medi 2021 ymlaen. Bydd hyn yn rhoi amser ar gyfer hyfforddiant a datblygu penodol pellach.
  • Rwy’n disgwyl, yn unol â’u swyddogaethau statudol presennol, y bydd awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ysgolion yn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Heddiw rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i ailbwysleisio’r pwynt hwn.
  • Byddaf yn gosod y Cod a’r rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i’w cymeradwyo yn 2020. Bydd yr amser ychwanegol hwn yn rhoi cyfle i ystyried ymhellach y gwelliannau posib y gellir eu gwneud i’r Cod yng ngoleuni'r adborth helaeth a ddaeth i law gan randdeiliaid, dysgwyr a theuluoedd.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y Cod mor glir â phosibl fel bod y rheini sydd â swyddogaethau o dan y Ddeddf yn deall y gofynion statudol sydd arnynt yn llwyr ac yn gallu gweithredu’r system newydd yn effeithiol. Byddwn hefyd yn ystyried rhai materion polisi cymhleth i sicrhau bod y system ADY newydd yn deg, yn glir, ac yn ymarferol i'r ymarferwyr sy'n ei gweithredu.  

Rwyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion gydweithio â gwasanaethau i sicrhau eu bod yn deall bod yn rhaid iddynt barhau i gyflawni eu swyddogaethau statudol presennol.

Wrth gyflwyno dyletswyddau a disgwyliadau newydd i ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol, mae angen ystyried amserlen y flwyddyn academaidd a darparu’r cyfnod paratoi angenrheidiol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth i ni gefnogi ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Nid oes digon o amser i gyhoeddi’r Cod a’r rheoliadau yn 2020, ac caniataudigon o amser i ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ymbaratoi i gyflawni eu gofynion gweithredol erbyn y dyddiad gwreiddiol a bennwyd ar gyfer cychwyn gweithredu.

Rwyf bob amser yn uchelgeisiol o ran fy nisgwyliadau a’m nodau ar gyfer pobl ifanc, athrawon a’n system addysg yn gyffredinol. Fodd bynnag, fel sy’n wir gyda’n hamserlen ar gyfer diwygio’r cwricwlwm, byddaf bob amser yn cymryd amser i ystyried adborth a sgyrsiau gydag athrawon, rhieni, addysgwyr ac undebau.

Er y byddai'n bosibl dechrau gweithredu'r system newydd yn gynt na Medi 2021, byddai dechrau ar ganol blwyddyn academaidd yn rhoi pwysau ychwanegol ar y cyrff hyn. Nid yw cyflwyno’r system newydd o fis Medi 2021 yn golygu y bydd amser yn aros yn llonydd; bydd yn sicrhau bod gwasanaethau yn gwbl barod erbyn i’r system newydd ddod i rym, a fydd, yn ei dro, yn arwain at weithredu llyfnach, mwy llwyddiannus.

Bydd cychwyn y rolau statudol yn gynharach ym mis Ionawr 2021 yn helpu i sicrhau gweithredu llyfnach, mwy llwyddiannus, felly.

Yn benodol, rydym yn bwriadu cychwyn y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n ei gwneud yn ofynnol penodi: cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer pob ysgol brif ffrwd a gynhelir, uned cyfeirio disgyblion a sefydliad addysg bellach; swyddog arweiniol clinigol dynodedig addysg ar gyfer pob bwrdd iechyd; a swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol y blynyddoedd cynnar ar gyfer pob awdurdod lleol.

Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i’r rheini a benodir i’r rolau hyn baratoi’n iawn ar gyfer ysgwyddo dyletswyddau eu rôl o 1 Medi 2021 ac yn eu galluogi i baratoi eu sefydliadau i ysgwyddo eu swyddogaethau statudol nhw o’r dyddiad hwnnw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, caiff fersiwn ddiwygiedig o’r canllaw gweithredu ei chyhoeddi maes o law.

Rwyf o’r farn ei bod yn hanfodol gwneud amser i wrando ac i ymateb i’r safbwyntiau a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad, fel bod y Cod a'r rheoliadau yn gwbl addas i’w diben.

Yn ogystal â chydweithio â rhanddeiliaid allweddol i fireinio'r Cod a'r rheoliadau, byddwn yn cymryd nifer o gamau eraill cyn rhoi'r system ADY newydd ar waith.

Byddaf yn lansio ymgynghoriad ar gyfresi eraill o reoliadau drafft o dan y Ddeddf ADY, a fydd yn ymdrin â sefydliadau ôl-16 arbenigol annibynnol.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda’n Harweinwyr Trawsnewid ADY i ddatblygu a gweithredu pecyn hyfforddiant helaeth, gan gynnwys cynnig dysgu proffesiynol penodol ar gyfer cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol.