Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yw canolbwynt ein rhaglen i weddnewid yr addysg a'r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.  

Er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu ein diwygiadau, rydym wedi ymgynghori'n eang ynghylch sut y dylem roi'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd ar waith.

O edrych ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, daeth i'r amlwg bod yna gefnogaeth gref i weithredu'r system newydd mewn ffordd raddol. Gan mwyaf, roedd y rhanddeiliaid yn cytuno mai pennu amserlenni penodol ar gyfer trosglwyddo gwahanol garfanau o ddysgwyr i'r system newydd oedd y dull hawsaf i'w reoli a'r dull mwyaf cyson. Roedd yr adborth i'r ymgynghoriad yn glir y byddai caniatáu i awdurdodau lleol a lleoliadau addysg bellach benderfynu ar eu dull gweithredu eu hunain yn creu anghysondebau ledled Cymru a chryn gymhlethdod o ran y Tribiwnlys Addysg.  

Roedd yr ymateb ynghylch sut y dylid grwpio'r dysgwyr i'w trosglwyddo yn gymysg – daeth dau opsiwn i'r amlwg fel ffefrynnau o ran pa grŵp y dylid ei drosglwyddo i’r cynlluniau newydd gyntaf. Ar ôl ystyried yr opsiynau hyn yn ofalus gyda'n partneriaid a'n cynghorwyr, rydym wedi cytuno ar ddull sy'n cyfuno'r ddau – canolbwyntio ar ddysgwyr sydd wedi cyrraedd pwynt cynnydd allweddol a rhoi blaenoriaeth i drosglwyddo dysgwyr â datganiadau. Bydd y rhai hynny sydd â datganiadau yn trosglwyddo o fewn y ddwy flynedd gyntaf, a blwyddyn ychwanegol – sef cyfanswm o gyfnod tair blynedd – i ddysgwyr sydd eisoes â chynlluniau anstatudol.  

Mae'r dull hwn yn cydnabod pwysigrwydd cynllunio proses drosglwyddo effeithiol ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd hefyd yn golygu bod y llwyth gwaith yn cael ei rannu'n fwy cyfartal rhwng awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau addysg bellach a lleoliadau blynyddoedd cynnar. Caiff manylion llawn y dull hwn eu nodi mewn canllaw trosglwyddo i'w gyhoeddi y flwyddyn nesaf.  


Sefydlwyd grwpiau arbenigol a bydd y rheini yn datblygu manylion ymarferol y system newydd. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod ADY, sy'n cyd-fynd â'r Bil, a rhai o’r rheoliadau drafft yn ystod hydref 2018. Rwy'n gobeithio y bydd y cod a'r holl is-ddeddfwriaeth yn eu lle erbyn diwedd 2019. Caiff yr hyfforddiant ar weithredu'r system ei gyflwyno ddechrau 2020, a bydd disgwyl i'r system newydd fod yn weithredol o fis Medi 2020.

Fy mwriad yw caniatáu cyfnod gweithredu o dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rwy'n disgwyl i bob cynllun presennol gael ei droi'n gynllun datblygu unigol.  Bydd plant a phobl ifanc newydd eu nodi fel dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac sydd angen cynllun datblygu unigol yn ystod y cyfnod gweithredu, yn derbyn cymorth yn uniongyrchol drwy'r trefniadau newydd.  

Byddwn yn buddsoddi £20m i helpu i weithredu'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd. Ar ôl dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym wedi ailstrwythuro ein hymrwymiadau cyllid yn ôl anghenion y sector. Byddwn yn neilltuo mwy o adnoddau ar hyfforddiant, cynllunio a chymorth strategol, drwy roi mwy o gyllid grant i arweinwyr y broses o drawsnewid y system ADY. Bydd y swyddi allweddol hyn yn helpu gwasanaethau i sefydlu trefniadau cynllunio manwl ar lefel ranbarthol ac ar draws y sector addysg bellach, a chyflwyno hyfforddiant i bawb a fydd yn cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i roi'r system newydd ar waith.

Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda phartneriaid a'r arweinwyr trawsnewid newydd i ddatblygu'r dull gweithredu dan sylw, a byddaf innau'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth inni symud tuag at gyflwyno'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd.

Gellir gweld yr adroddiad ymgynghori yn https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/dewisiadau-ar-gyfer-gweithredu-bil-anghenion-dysgu-ychwanegol-ar-tribiwnlys-addysg.