Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog
Mae lansio cynllun tymor hir Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru, 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd: Gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau' ar 18 Chwefror 2026 yn drobwynt yn hanes y rheilffyrdd yng Nghymru.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, dyma becyn gwerth £14bn o gynlluniau beiddgar, unwaith mewn cenhedlaeth, a fydd yn gweddnewid teithio, yn cysylltu cymunedau ac yn sbarduno'r economi.
Mae 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' yn disgrifio'n gweledigaeth a'n bwriadau ar gyfer rheilffyrdd Cymru, gyda rhaglen o welliannau sy'n cwmpasu’r rheilffyrdd o Fôn i Fynwy, gan gynnwys y rhwydweithiau sydd heb eu datganoli a’r rhannau sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru.
Mae'n ffrwyth cydweithio, uchelgais a phenderfyniad diwyro i gyflawni er lles teithwyr yng Nghymru. Mae'n adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth y DU o £445m ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru a gyhoeddwyd yn yr Adolygiad Gwariant ac yn ein rhoi mewn sefyllfa ddigynsail i wireddu pennod nesaf hanes y rheilffyrdd yng Nghymru.
Daw hyn yn sgil y buddsoddiad o £1.1 biliwn gan Lywodraeth Cymru i wella a thrydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd, y buddsoddiad o £800 miliwn i ddarparu fflyd newydd sbon o drenau a lansio rhaglen Rhwydwaith y Gogledd. Rydym eisoes yn gweld buddiannau'r buddsoddiad hwn, gyda pherfformiad Trafnidiaeth Cymru yn well nag erioed, gyda mwy o deithwyr bodlon a chynnydd yn y galw ymhlith teithwyr.
Mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y momentwm hwn, ac mae lansio gweledigaeth Trafnidiaeth Cymru, gydag addewid gan Lywodraeth y DU i’w hariannu yn gefn iddi, yn garreg filltir arwyddocaol arall ar ein taith i weddnewid rheilffyrdd Cymru.
Mae dogfen weledigaeth Trafnidiaeth Cymru ar gael yma: Ymlaen, Gyda’n Gilydd: Gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau.
