Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein gwasanaeth iechyd yn wynebu galw digynsail y gaeaf hwn. Mae rhai pobl yn aros yn yr ysbyty yn hirach nag sydd angen iddyn nhw, ac mae hyn, yn ei dro, yn cael effaith ddifrifol ar ofal a gynlluniwyd ac yn creu oedi i’r gwasanaeth ambiwlans. Yn bwysicaf oll, mae pob diwrnod ychwanegol diangen yn yr ysbyty yn cael effaith niweidiol ar adferiad a chanlyniadau mwy hirdymor pobl.

Yn gynharach eleni roeddem yn gwybod y byddai’r gaeaf yn heriol iawn, a dyna pam mae sefydliadau’r GIG ac awdurdodau lleol wedi bod yn cydweithio ers misoedd lawer i ddatblygu capasiti cymunedol ychwanegol i helpu pobl i gael gofal yn agosach at eu cartrefi y gaeaf hwn. Rydym wedi bod yn cyd-Gadeirio Grŵp Gweithredu ar Ofal o uwch arweinwyr y GIG a Llywodreath Leol i ysgogi cynnydd. O ganlyniad i’r ymdrech hon ar y cyd ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol, bydd o leiaf 508 o welyau cymunedol a phecynnau gofal cartref ychwanegol ar gael. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ryddhau gwelyau ysbyty ym mhob rhan o Gymru.

Bydd gwelyau gofal llai dwys, a phecynnau gofal cymunedol wedi’u trefnu drwy ficro-ofal a defnydd mwy helaeth o Daliadau Uniongyrchol, yn cefnogi pobl i ddychwelyd i’w cymunedau pan nad oes angen triniaeth arnynt yn yr ysbyty mwyach ond efallai fod angen mwy o amser, cymorth a gofal arnynt. Mae 508 o welyau a phecynnau gofal cymunedol ychwanegol wedi’u cadarnhau gan fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol hyd yn hyn, gyda mwy wrthi’n cael eu datblygu. Mae’r capasiti ychwanegol yn cael ei ariannu gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac adnoddau’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd eu hunain.

Ochr yn ochr â hyn, mae atal iechyd a llesiant gwael yn brif flaenoriaeth, a fydd hefyd yn helpu i leihau’r galw ar ein gwasanaethau acíwt. Mae’r GIG ac awdurdodau lleol yn parhau i helpu unigolion a chymunedau i gael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth yn lleol, mor gynnar â phosibl i atal eu hanghenion rhag gwaethygu. Er enghraifft, mae cynlluniau cysylltwyr cymunedol a rhaglenni rhagnodi cymdeithasol yn helpu pobl i gael mynediad at y llu o adnoddau yn eu cymunedau i’w helpu i aros yn iach gartref.

Mae sawl ffordd o gael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. O fferyllwyr i unedau mân anafiadau a llinellau cymorth iechyd meddwl i ymgyngoriadau ar-lein, mae yna lawer o ffyrdd o gael mynediad at y GIG yng Nghymru. Felly, mae’n haws cael gofal, cymorth a chyngor gyda chyflyrau newydd neu bresennol, hyd yn oed heb adael eich cartref neu’ch gweithle.

Mae ein hymrwymiad yn y Gyllideb ddrafft i roi £70 miliwn ychwanegol i sicrhau y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r system ofal, a byddwn yn adeiladu ar hyn i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cryfach yn y gymuned.