Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bydd yfory yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Clefydau Prin. Dyma gyfle i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru o ran gwella gofal a gwasanaethau i bobl â chyflyrau prin.
Gall cyflyrau prin arwain at heriau iechyd cymhleth a hirdymor, sydd weithiau'n byrhau bywydau. Mae eu heffeithiau'n ymestyn y tu hwnt i unigolion, gan effeithio hefyd ar deuluoedd a'r bobl sy'n eu cynorthwyo. Amcangyfrifir bod mwy na 7,000 o gyflyrau prin, ac mae clefydau newydd yn cael eu nodi'n barhaus wrth i wyddoniaeth ddatblygu. Yn unigol, maent yn gyflyrau prin, ond pan ystyrir hwy gyda’i gilydd, maent yn gyffredin. Effeithir ar un o bob 17 o bobl ar ryw adeg yn eu bywydau.
Mae Fframwaith Clefydau Prin y DU (Saesneg yn unig) wedi creu set o flaenoriaethau a rennir ar draws pedair gwlad y DU. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar helpu pobl i gael diagnosis terfynol yn gyflymach, cynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau prin ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cydgysylltu gofal yn well, a gwella mynediad at ofal arbenigol, triniaethau a meddyginiaethau. Yng Nghymru, mae'r fframwaith yn cael ei gyflawni drwy Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Clefydau Prin, a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Gweithredu Clefydau Prin, sy'n rhan o Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd y rhwydwaith ei adroddiad cynnydd diweddaraf. Mae'n parhau i wneud cynnydd, gan gynnwys:
- Comisiynu clinig SWAN (Syndrom Heb Enw) cyntaf y DU i wella llwybrau i bobl sy'n byw gyda chyflyrau prin a heb ddiagnosis yng Nghymru.
- Helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i greu Canolfan Gofal Prin ddigidol, a fydd yn gweithredu fel adnodd canolog ar gyfer cael gwybodaeth, canllawiau, hyfforddiant a chymorth. I ddechrau, mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar y De-ddwyrain ond y nod yw ei ehangu ledled Cymru.
- Datblygu dangosfwrdd data clefydau prin i ddangos teithiau gofal iechyd pobl â chyflyrau prin sy'n cael gofal mewn ysbytai.
- Cryfhau Rhwydwaith Ymchwil i Glefydau Prin Cymru i hybu gwaith ymchwil sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Nghymru.
Y bwriad oedd dod â Fframwaith Clefydau Prin y DU i ben ym mis Ionawr 2026, ond mae Gweinidogion o bedair llywodraeth y DU wedi cytuno ar estyniad o 12 mis. Bydd hyn yn galluogi'r GIG i atgyfnerthu cynnydd a chyflawni'r camau gweithredu sy'n weddill, gan roi rhagor o amser i ystyried dyfodol polisi clefydau prin ledled y DU.
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni blaenoriaethau'r fframwaith a byddwn yn parhau i helpu'r rhwydwaith i gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Clefydau Prin.
