Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe roddais ddiweddariad i'r Senedd ar hynt y gwaith o wella gwasanaethau a chymorth anhwylderau bwyta. Ers hynny, mae'r byrddau iechyd wedi parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel yn wyneb anghenion a chymhlethdod cynyddol ac yn erbyn cefndir ariannol heriol. Hoffwn gofnodi fy niolch i holl staff y GIG sy'n darparu gofal a chymorth tosturiol i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed. 

Rydym wedi darparu adnoddau pwrpasol o fewn Gweithrediaeth newydd y GIG er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl drwy raglen strategol newydd a rhaglen diogelwch cleifion iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys penodi arweinydd clinigol cenedlaethol newydd ar gyfer anhwylderau bwyta, sy'n gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd i ysgogi newid, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar. Mae hon yn rôl hanfodol, gyda chylch gwaith i sicrhau bod y gwasanaethau o ansawdd uchel, ac i leihau amrywiaeth yn y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru. 

Hefyd cafodd rhwydwaith gweithredu clinigol ar gyfer anhwylderau bwyta ei sefydlu i sicrhau bod rhyngwyneb a all ddadansoddi'r sefyllfa rhwng polisi Llywodraeth Cymru a darparu gwasanaethau, gan ddarparu cyfeiriad a chymorth i sefydliadau GIG Cymru gyda'r nod o wella ansawdd, diogelwch a chanlyniadau gwasanaethau anhwylderau bwyta.

Er bod angen i'r gwaith modelu ac asesu dichonoldeb barhau er mwyn adolygu a gwella cymorth cleifion mewnol, rwy'n falch bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, fel rhan o ateb dros dro, wedi sicrhau mynediad i welyau anhwylderau bwyta dynodedig i oedolion yng Nghymru. Gall y capasiti ychwanegol hwn gefnogi wyth o bobl, gyda'r potensial i gomisiynu cymorth ar gyfer hyd at 15 o bobl os oes angen. Fe'i datblygwyd i ddarparu gofal a thriniaeth i fenywod sydd ag anorecsia nerfosa, bwlimia nerfosa ac anhwylderau bwyta annodweddiadol. Ein nod yw cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu gofal yn nes at adref i'r bobl hynny a fyddai wedi derbyn gofal mewn unedau arbenigol yn Lloegr yn y gorffennol. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl y mae angen gofal cleifion mewnol arbenigol arnynt bellach yn cael y gofal hwnnw yng Nghymru.

Er bod gwella mynediad at gymorth cleifion mewnol yn bwysig, rydym yn awyddus i atal pobl rhag gwaethygu i'r lefel honno trwy ganolbwyntio ar ymyrryd yn gynharach a buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol. Rwyf wedi gweld drosof fy hun sut mae'r cyllid rydym wedi ei ddarparu yn gwella ac yn ehangu gofal o'r fath. Mae ystod ehangach o weithwyr proffesiynol yn cefnogi dull amlddisgyblaethol, ac mae timau wedi cael eu hehangu i ddarparu gwell fynediad at ofal, i bobl ifanc ac i oedolion. 

Ym mis Medi, ymwelais â gwasanaethau anhwylderau bwyta Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae ei wasanaeth anhwylderau bwyta CAMHS arbenigol wedi ei gynyddu gan dri aelod staff cyfwerth ag amser llawn ac mae'r cymysgedd o sgiliau hefyd wedi ei ehangu. Mae'r cyllid y maent wedi ei gael gan  Lywodraeth Cymru wedi cefnogi cynnydd pellach yn y capasiti asesu ac ymyrryd i bobl ifanc dan 18 oed, ac mae eu tîm CAMHS hefyd wedi llwyddo i leihau amseroedd aros ar gyfer asesu a thriniaeth i fod o fewn pedair wythnos wedi iddynt gael eu hatgyfeirio.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn sgrinio pob atgyfeiriad, gydag asesiadau dros ffôn yn cael eu cynnal ar y diwrnod. Mae mentor cymheiriaid yn gweithio yn y gwasanaeth, ac mae hefyd yn darparu asesiad a thriniaeth o fewn pedair wythnos wedi'r atgyfeiriad. Mae'r gwasanaethau'n cael eu hymestyn i dderbyn atgyfeiriadau sy'n ymwneud ag anhwylder osgoi/cyfyngu o ran y bwyd (ARFID), gan ddarparu ymyrraeth. Rydym yn gweld hyn yn digwydd ar draws timau eraill mewn byrddau iechyd eraill ledled Cymru. 

Mae'r ffocws ar ymyrraeth gynnar gan dîm anhwylderau bwyta arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (SPEED) wedi lleihau nifer y bobl ag anorecsia sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, ac wedi lleihau'r defnydd o diwbiau bwydo yn y gymuned ac ar wardiau cleifion mewnol. Tîm eu canolfan SPEED yw'r gyntaf i ymgorffori pediatreg yn asesiad cychwynnol taith y claf, a chael ymarferydd nyrsio uwch fel rhan o wasanaeth pediatreg y tîm. Mae hefyd wedi recriwtio cardiolegydd arbenigol - a chredir bod hwn yn benodiad cyntaf o'i fath yn y DU – gan ddarparu gwasanaeth cardioleg bediatrig bwrpasol i dîm SPEED.

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn cymorth hawdd ei gyrchu nad oes angen cael atgyfeiriad ar ei gyfer gan weithiwr iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i bobl wrth iddynt aros am ofal mwy arbenigol. Rydym wedi parhau i ariannu llinell gymorth benodol Cymru a gwasanaethau cymorth cymheiriaid BEAT. Erbyn mis Ebrill 2024, mae'n gobeithio y bydd wedi darparu 3,500 o sesiynau cymorth drwy'r llinell gymorth. 

Mae gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta yn flaenoriaeth i mi, ac rwy'n disgwyl gweld ein gwasanaethau'n parhau i ddatblygu ac ehangu. Mae ymyrraeth gynnar yn bwysig, ac yn ystod y flwyddyn nesaf bydd nifer o fyrddau iechyd yn gweithio gyda'r arweinydd clinigol cenedlaethol i edrych ar y posibiliadau o ran gweithredu model FREED, sef ymyrraeth cyfnod cyntaf ac ymyrraeth gynnar gyflym mewn achosion o anhwylderau bwyta. Mae hwn yn fodel gwasanaeth ymyrraeth gynnar a phecyn gofal a dargedir yn benodol at bobl ifanc 16 i 25 oed, ac  sydd wedi eu teilwra ar gyfer y cyfnod datblygu a salwch, ac sydd wedi ei gynllunio i leihau hyd amser anhwylderau bwyta heb eu trin a gwella canlyniadau clinigol. 

Rwy'n disgwyl y bydd ein gwasanaethau'n parhau i ddatblygu, gan ddarparu canlyniadau a phrofiadau gwell i bobl. Fodd bynnag, mae anhwylderau bwyta yn gymhleth, heb unrhyw achos cyffredin unigol. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddefnyddio dull amlochrog, gan gynnwys cefnogaeth mewn perthynas â delwedd y corff, effaith y cyfryngau cymdeithasol, a'r angen i fwyta'n iach.

Byddaf yn nodi'r camau tymor hirach i wella cymorth iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylderau bwyta, pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein strategaeth iechyd meddwl ddrafft newydd.