Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd gwaith craffu’r Cynulliad Cenedlaethol ar Fil Awtistiaeth (Cymru) yn gyfle gwerthfawr i ystyried a fyddai deddfwriaeth benodol ym maes awtistiaeth yn ychwanegu gwerth at y gwasanaethau awtistiaeth sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.

Rwy’n cydnabod y bydd llawer o bobl yn siomedig nad yw’r Bil hwn yn mynd rhagddo. Fodd bynnag, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi tynnu sylw at y profiadau y mae pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn eu cael o ddydd i ddydd wrth ddefnyddio gwasanaethau yng Nghymru - yn dda ac yn wael.

Fel y cydnabu pwyllgorau’r Cynulliad a fu’n archwilio’r ddeddfwriaeth, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n diwygio gwasanaethau. Rhaid cyflymu’r rhaglen wella hon ac mae angen mynd i’r afael â’r bylchau sy’n dal i fod yn y ddarpariaeth.

Rwyf wedi bod yn glir bod Llywodraeth Cymru, er nad yw’n cefnogi cyflwyno deddfwriaeth ar hyn o bryd, yn cytuno bod angen i’r gwelliannau ddigwydd yn gyflymach.

Mae llawer o glinigwyr a sefydliadau proffesiynol - gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion; Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd; Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant; Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol; Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chydffederasiwn y GIG yng Nghymru - yn cefnogi’r angen i ganiatáu i’r diwygiadau hyn ymwreiddio a chael eu hadolygu, cyn ystyried unrhyw ddeddfwriaeth newydd.

Mae’r holl gyfreithiau a phwerau sydd eu hangen arnom ar gyfer y broses ddiwygio gennym yn barod – yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y GIG (Cymru) 2006; yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 ac yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Mae ein rhaglen ddiwygio yn cynnwys cyflwyno’r gwasanaeth cenedlaethol integredig ar gyfer awtistiaeth, a fydd ar gael ym mhob rhanbarth o Gymru erbyn mis Ebrill 2019. Er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth hwn yn delio â’r bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth, bydd gwerthusiad annibynnol yn cael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd y canfyddiadau cychwynnol ar gael ym mis Chwefror.

Rwyf hefyd wedi comisiynu adolygiad i edrych ar y ffactorau sy’n rhwystr i leihau amseroedd aros ar gyfer diagnosteg ac i ystyried sut y gall gwasanaethau niwroddatblygiadol yn ehangach fod ar gael i ymdrin ag unrhyw fylchau mewn gwasanaethau i bobl sydd â chyflyrau eraill neu gyflyrau sy’n cydfodoli.  Bydd hwn wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2019.

Er mwyn cryfhau ac ategu’r dyletswyddau presennol, rydym yn ymgynghori ar gynigion ar God Ymarfer statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) 2006.

Bydd y cod yn cael ei gyflwyno eleni a bydd yn nodi sut y dylai awdurdodau lleol a’r GIG addasu eu gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl awtistig. Bydd digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus yn cael eu cynnal y Llandrindod, Abertawe, Llandudno a Chaerdydd yn ystod mis Chwefror 2019 ac mae’r ymgynghoriad yn agored tan 1 Mawrth.

Bydd gan y cod hwn gymaint – os nad mwy - o rym a rhwymedïau na’r Bil Awtistiaeth (Cymru) a gynigiwyd. Ar ben y gweithdrefnau presennol ar gyfer cwynion lleol, caiff Llywodraeth Cymru ymyrryd yn uniongyrchol mewn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau awdurdodau lleol pan ganfyddir bod gwasanaethau’n methu. Bydd y safonau gwasanaeth clir a nodir yn y cod yn darparu’r cyd-destun ar gyfer defnyddio’r pwerau hyn yn y dyfodol.

Mewn meysydd eraill rydym eisoes wedi cymryd camau o’r fath i roi hysbysiadau rhybuddio i awdurdod lleol pan fo gwasanaethau heb fodloni’r safonau disgwyliedig. Mae pwerau tebyg ar gael i ymyrryd mewn gwasanaethau iechyd, ac rydym wedi defnyddio’r rheini hefyd.

Rwy’n deall pryderon llawer o rieni ynglŷn â’r cymorth y mae eu plant yn ei dderbyn yn yr ysgol a’r coleg. Rydym yn ymgynghori ar wahân ar y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r rheoliadau arfaethedig sy’n cefnogi’r broses o roi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar waith. Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 22 Mawrth.

Bydd yr ail adroddiad blynyddol ynglŷn â chyflawni’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, sydd i’w gyhoeddi erbyn Mehefin 2019, yn rhoi diweddariad ynglŷn ag amseroedd aros ar gyfer asesiadau; datblygu llwybrau atgyfeirio; diweddaru canllawiau ar reoli’r ddarpariaeth tai; paratoi ar gyfer cyflwyno’r system anghenion dysgu ychwanegol a gwella data drwy ddatblygu cofrestr awtistiaeth i feddygon teulu. Bydd hefyd yn rhoi adborth ar y gwaith o gyflenwi’r gwasanaeth awtistiaeth integredig.

Mae ein gwaith yn dal i gael ei gefnogi gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, a gynhelir ar y cyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r tîm yn chwarae rhan hanfodol o ran hwyluso cydweithredu, cefnogi’r broses o gyflenwi gwasanaethau a chodi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, gan gynnwys darparu offer ac adnoddau.

Mae ymweliadau â’r wefan ASDinfowales, sy’n cael ei chynnal gan y tîm, wedi cynyddu 30,000 ers 2017, i fwy na 108,000 yn 2018. Mae mwy na 30,000 o bobl wedi cwblhau’r cynllun Ymwybyddiaeth o Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig - 8,000 o’r rhain yn ystod 2018. Mae bron i 4,500 o staff dysgu mewn ysgolion cynradd wedi cwblhau’r rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ac mae mwy na 26,500 o blant bellach yn ‘arwyr’ Awtistiaeth. Er mwyn sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau’n ddi-dor, rwyf wedi rhoi cyllid staffio i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol tan fis Mawrth 2022.

Rydym wedi cyflwyno safon newydd, sef 26 wythnos, ar gyfer amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol i blant a phobl ifanc; bydd data’n cael eu cyhoeddi pan fyddant ar gael. Bydd y safon newydd hon yn mesur yr amseroedd aros o’r atgyfeiriad i’r apwyntiad wyneb yn wyneb cyntaf, yn hytrach na dim ond nodi dechrau’r asesiad.

Bydd mwy i’w wneud bob amser, a bydd gofyn i’r diwygiadau yr ydym yn eu cyflwyno gael eu rhoi ar waith yn egnïol a chyflym. Cynhelir cynhadledd genedlaethol i bobl awtistig, eu rhieni a’u gofalwyr yn Abertawe ar 3 Ebrill, gyda’r nod o wella canlyniadau llesiant. 

Bydd gwerthusiad annibynnol pellach yn cael ei gomisiynu eleni, wedi’i seilio ar yr argymhellion sy’n codi o’r gwerthusiad presennol a’r argymhellion a gafodd eu gwneud gan Bwyllgorau’r Cynulliad yn ystod y broses o graffu ar Fil Awtistiaeth (Cymru). Bydd y gwaith ychwanegol hwn yn rhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i sicrhau bod ein diwygiadau yn cyflawni ar gyfer pobl ag awtistiaeth yng Nghymru, neu a oes angen inni ystyried newid trywydd yn ddiweddarach yn ystod tymor y Cynulliad hwn.