Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn y datganiad ym mis Rhagfyr 2015 y bydd Cymru yn cyflwyno rhaglen newydd i frechu dynion sy'n cael rhyw gyda dynion yn erbyn y feirws papiloma dynol (HPV), mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn tynnu sylw at feysydd eraill o waith penodol yng Nghymru sy’n rhoi cymorth i ddynion fabwysiadu ffordd fwy iach o fyw a gwella eu hiechyd.

Cefnogi dewisiadau iach o ran ffordd  o fyw

Mae cyfraddau smygu yn uwch ar gyfer dynion na menywod ac mae dynion yn llai tebygol o ddefnyddio'r cymorth am ddim sydd ar gael i'w helpu i roi gorau i smygu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu gwaith ymchwil i'r rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau'r GIG ar gyfer cymorth i roi'r gorau i smygu.  Bydd y canlyniadau yn llywio gwaith Dim Smygu Cymru yn y dyfodol.

Mae canran y carcharorion sy'n smygu, sy'n ddynion yn unig yng Nghymru, yn uwch o lawer, sef 80% o'i gymharu â 20%. Rydym yn gweithio tuag at gael carchardai di-fwg yng Nghymru. Bydd cymorth a chyngor yn cael eu cynnig i helpu carcharorion i roi'r gorau i smygu yn ogystal â'r cyfle i fynychu rhaglen rhoi'r gorau i smygu a fydd ar gael drwy raglen gofal iechyd carchardai.

Mae dynion yn fwy tebygol na menywod o gamddefnyddio alcohol. Mae mwy na hanner y dynion yn dweud eu bod yn yfed mwy na'r canllawiau a argymhellir, ac mae traean ohonynt yn dweud eu bod yn goryfed mewn pyliau.

Ar 8 Ionawr, cyhoeddodd Prif Swyddogion Meddygol y DU ganllawiau diwygiedig ar yfed alcohol gan ostwng yr argymhelliad ar gyfer dynion i 14 uned yr wythnos - un canllaw i ddynion a menywod. Mae fy swyddogion yn cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i rannu'r neges am y canllawiau alcohol newydd. Hefyd, fel rhan o'r  Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2016-18, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar sut i fynd i'r afael ag ymddygiadau yfed peryglus.

Mae'r gweithle yn lleoliad effeithiol i wella iechyd oedolion o oedran gweithio ac i dargedu iechyd dynion - mae cyfradd gyflogaeth i ddynion tua 74% ar hyn o bryd. Mae rhaglen gwaith ac iechyd Llywodraeth Cymru, Cymru Iach ar Waith, yn cefnogi cyflogwyr i ganolbwyntio ar faterion iechyd dynion yn y gweithle drwy'r Safon Iechyd Corfforaethol a Gwobr Iechyd y Gweithlu Bach. Ar hyn o bryd, mae 3,000 o sefydliadau yng Nghymru, sy'n cyflogi 455,719 o bobl, wedi cymryd rhan yn rhaglenni Cymru Iach ar Waith. Hyn yw bron traean o boblogaeth weithio Cymru.

Mesurau gofal iechyd ataliol

Mae rhaglenni sgrinio'r boblogaeth yn helpu i ganfod presenoldeb clefydau mewn pobl nad ydynt yn dangos arwyddion na symptomau ohonynt. Cafodd prawf uwchsain un-tro i ddynion 65 oed yng Nghymru ei lansio ym mis Mai 2013 i chwilio am  y chwydd yn yr aorta a allai arwain at hollt neu rwyg - ymlediad aortaidd yn yr abdomen (AAA). Mae risg uchel o farw yn sgil AAA sydd wedi rhwygo, ac mae darganfod yr ymlediad yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i'r dynion hyn gael triniaeth a goroesi.

Rhwng mis Mai 2013 a mis Mawrth 2014, cafodd mwy na 15,000 o ddynion eu sgan cyntaf. O'r rhain, canfuwyd 194 o ymlediadau oherwydd y rhaglen sgrinio ac o ganlyniad i hyn rhoddwyd 17 o ddynion o dan oruchwyliaeth feddygol a chafodd pump o ddynion lawdriniaeth achub bywyd. Yn gyffredinol, y gyfradd ddefnyddio ar gyfer dynion a gafodd eu gwahodd am sgrinio yn ystod 2014/15 oedd 74.7%, sy'n ddechrau calonogol iawn ar gyfer y rhaglen newydd i sgrinio'r boblogaeth. Hyd yn hyn, mae tua 2,000 o ddynion wedi manteisio ar y gwahoddiad hwn. Mae ymgyrch mat diod a phoster wedi cael ei chynllunio ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru i gyd-fynd â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad. Caiff matiau diod a phosteri am y rhaglen sgrinio ar gyfer AAA eu hanfon i bob un o'r 320 o glybiau rygbi Cymru.

Canser y coluddyn yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae'n lladd tua 1,000 o bobl bob blwyddyn. Nod Rhaglen Sgrinio'r Coluddyn, sydd ar gael i ddynion a menywod 60 i 74 oed, yw gostyngiad o 15% yn nifer y bobl sy'n marw o ganser y coluddyn yng Nghymru erbyn 2020. Mae nifer y dynion sy'n cael eu sgrinio yn is na nifer y menywod. Mae nifer o ymyriadau ar gyfer dynion wedi cael, neu yn cael, eu treialu a'u gwerthuso. Mae enghreifftiau yn cynnwys: cydweithredu ag Ymchwil Canser y DU; anfon menig a phecyn prawf ar gyfer casglu samplau, a threialu anfon llythyrau esboniadol cyn anfon pecynnau sgrinio’r coluddyn. Ers mis Medi 2015, mae pob dyn wedi cael gwahoddiad cynnar tua phythefnos cyn cael y pecyn prawf. Ar sail tystiolaeth o raglen beilot, roedd pobl a gafodd wahoddiad cynnar yn fwy tebygol o ymateb, yn enwedig dynion.  

Mae  Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gynlluniau cyflawni ar gyfer prif feysydd iechyd, gan gynnwys canser, clefyd y galon a chlefyd yr afu. Mae'r rhain yn gynlluniau cynhwysfawr sy'n seiliedig ar Gymru gyfan ac ar bob poblogaeth. Er hynny, wrth ystyried bod mwy o achosion o rai clefydau ymhlith dynion yn gyffredinol, mae gwaith yn cael ei wneud gan grwpiau gweithredu cynlluniau cyflawni a fydd yn helpu i liniaru'r effaith ar iechyd dynion.

Rydym yn gwybod bod canser yr ysgyfaint yn ganser mwy cyffredin ymhlith dynion ac mae'n ganser â chanlyniadau arbennig o wael. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer canser yn rhoi ar waith fenter canser yr ysgyfaint i helpu pobl i adnabod symptomau'n gynharach, cael triniaeth ar ddechrau'r canser, cynyddu cyfraddau llawdriniaeth yr ysgyfaint a gwella'r llwybr gofal cyffredinol er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.

Hefyd, mae fy swyddogion wedi cydweithio ag Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser i gynhyrchu dadansoddiad manwl o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru er mwyn tynnu sylw at amrywiaeth o faterion gan gynnwys gwahaniaethau rhwng y rhywiau. Mae darparu'r wybodaeth hon ar lefelau clwstwr wedi cynorthwyo timau lleol i gydweithio'n fwy effeithiol â chymunedau wrth ddatblygu blaenoriaethau lleol.

Mae gan ddynion sy'n byw ym Mlaenau Gwent rai o'r disgwyliadau oes isaf yng Nghymru a Lloegr yn ôl ystadegau swyddogol. Rhaglen Byw'n Dda, Byw'n Hirach Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd y gyntaf o'i bath yng Nghymru. Dechreuodd ym Mlaenau Gwent i nodi'r rheini â'r risg mwyaf o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd a'u gwahodd i gael archwiliad iechyd byr mewn lleoliadau ledled y wlad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2014-15 a 2015-16 i wella gofal sylfaenol a chymunedol er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen. Fel rhan o'r rhaglen, bydd archwiliadau pwysau gwaed, curiad calon a cholesterol yn cael eu cynnal er mwyn asesu risgiau unigolion o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Ar ôl i'r canlyniadau gael eu hasesu, caiff cynllun gweithredu ei gytuno â'r claf a bydd yn cydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol i nodi ei flaenoriaethau i leihau ei risg o glefyd cardiofasgwlaidd.

Iechyd meddwl a llesiant

Mae iechyd meddwl yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae mwy na £600 miliwn yn cael eu buddsoddi eleni mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae un o bob pedwar oedolyn yn wynebu problemau iechyd meddwl neu salwch rywbryd yn ystod eu bywyd. Mae hunanladdiad yn bryder arbennig ac mae dynion dair gwaith yn fwy tebygol o gymryd eu bywydau eu hunain o'u cymharu â menywod; mae'r risg mwyaf ymhlith dynion 30 i 49 oed. Mae strategaeth bum mlynedd newydd Llywodraeth Cymru Siarad â Fi 2 yn cael ei thargedu'n fwriadol at y grwpiau hynny o bobl sy'n arbennig o agored i gyflawni hunanladdiad a hunan-niweidio, ac at ddarparwyr gofal a fydd yn ymateb i'w hanghenion. Ei nod yw hyrwyddo, cydlynu a chefnogi cynlluniau a rhaglenni i leihau achosion o hunanladdiad ac atal hunan-niwed ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Mae angen inni helpu i greu cymdeithas lle nad yw problemau iechyd meddwl yn cael eu cuddio. Dyna'r rheswm y rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid i gyflwyno cam arall yr ymgyrch Amser i Newid Cymru a fydd yn parhau i godi ymwybyddiaeth, chwalu mythau ac ystrydebau, a herio stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu ar draws Cymru. Mae'r ymgyrch Gwisgwch yr un Crys Amser i Newid Cymru, ar y cyd â Chwaraeon Cymru, yn defnyddio pêl-droed i helpu i chwalu mythau ac annog cymunedau i chwarae a siarad.

Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yw cynllun 10 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru a gwella gofal a thriniaeth i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar feysydd blaenoriaeth a chamau gweithredu ar gyfer 2016-19.