Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dros y deuddydd diwethaf, ar fy ngwahoddiad i, daeth Jonathan Taylor, Islywydd y DU o Fanc Buddsoddi Ewrop, ynghyd â thîm o uwch swyddogion, ar ymweliad â Chymru, mewn ymateb i fy ymweliad i â phencadlys y Banc yn Lwcsembwrg ym mis Medi y llynedd.

Nod yr ymweliad oedd annog trafodaeth rhwng y Banc a’r amryw gyrff cyhoeddus a mentrau preifat y gallai eu prosiectau a’u rhaglenni buddsoddi elwa ar offerynnau cyllido ac arbenigedd y Banc. Yn ogystal â chwrdd â nifer o Weinidogion, cyfarfu tîm y Banc hefyd ag ystod eang o fusnesau a chyrff cynrychioliadol Cymru yn ystod yr ymweliad. Trefnodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (y CBI) digwyddiad poblogaidd ar gyfer tîm y Banc ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest ar 1 Ebrill, ac roedd Jonathan Taylor yn siaradwr gwadd mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Adfer yr Economi ar 2 Ebrill.

Ar yr un pryd, gallaf gadarnhau’r buddsoddiad diweddaraf sydd wedi’i gymeradwyo gan y Banc yng Nghymru: buddsoddiad o £45 miliwn i wella’r cyfleusterau addysgu, ymchwil a llety ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn dilyn benthyciad o £30 miliwn yn gynharach eleni i Norgine – cwmni fferyllol â chyfleusterau ymchwil yn Hengoed – i gefnogi ei raglen ymchwil a datblygu.

Byddaf yn parhau i weithio gyda’r Banc ar gyfleoedd buddsoddi posibl – ar draws ystod o sectorau – a allai godi o flaenoriaethau buddsoddi Llywodraeth Cymru dros ddeg mlynedd, fel y nodir yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.