Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Dyma ddatganiad i Aelodau ar ein hymateb i ganlyniadau PISA 2009. 

Yn gyntaf, rwy’n gosod targedau clir. Dylem anelu at fod ymhlith yr 20 system ysgolion uchaf ar dabl sgoriau PISA yn 2015.  Byddwn yn anelu at wella’n canlyniadau yn asesiad nesaf PISA yn 2012 o’u cymharu â’n canlyniadau yn 2009. Ni fydd hyn yn gwanhau’n hamcan i wella canlyniadau TGAU – mae angen inni wella perfformiad, gan gynnwys perfformiad darllen a mathemateg, a lleihau’r gwahaniaethau ar draws y system.

Er mwyn gweddnewid ein perfformiad, mae nifer o gamau y mae’n rhaid inni eu cymryd:

Addysgu

  • Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion edrych a fyddai’n bosibl newid yr hyfforddiant cychwynnol i athrawon i’w wneud yn gwrs Meistr dwy flynedd gyda mwy o ymarfer yn y dosbarth fel bod athrawon yn cynefino â sgiliau addysgu uwch. Bydd fy swyddogion yn edrych a fyddai modd ei wneud yn gymhwyster safonol i athrawon newydd yng Nghymru. Bydd gofyn statudol ar i bob athro newydd fod wedi’i hyfforddi mewn llythrennedd a rhifedd. Bydd pob ymgeisydd newydd am yr HCA wedi gorfod pasio profion sgiliau llythrennedd a rhifedd ar ddechrau ac ar ddiwedd y cwrs. Bydd un diwrnod o HMS bob blwyddyn yn ymdrin ag asesu llythrennedd a rhifedd ar gyfer pob athro.
  • Byddaf yn edrych eto ar drefniadau sefydlu athrawon, ac yn adolygu hefyd y CyngACC. Bydd y trefniadau datblygu a chynorthwyo yn nhair blynedd cyntaf gyrfa athro yn canolbwyntio ar osod sylfeini cadarn ar gyfer dysgu llythrennedd a rhifedd. Bydd ANG yn gorfod cyrraedd Safonau Athrawon wrth eu Gwaith.
  • Bydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn canolbwyntio yn y dyfodol ar anghenion y system ehangach, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd, a’u cysylltu â thair blaenoriaeth Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ac â rhoi’r fframwaith sgiliau ar waith.
  • Byddaf yn sicrhau, fel rhan o’u hachrediad proffesiynol, bod gan athrawon a phenaethiaid hwythau lefelau priodol o lythrennedd a rhifedd.

Dysgu

  • Os oes camymddwyn yn y dosbarth, nid yw plant yn gallu dysgu. Cyhoeddais hydref diwethaf fy mod yn estyn pwerau athrawon o ran cael defnyddio grym yn ogystal â gallu’r ysgol i ddisgyblu disgyblion ac i osod sancsiynau. Bydd y cam nesaf yn canolbwyntio ar ganlyniadau a gwella ymddygiad i godi safonau. Bydd pob athro newydd gymhwyso yn dilyn modiwlau datblygu mewn rheoli ymddygiad fel rhan o’i drefniadau sefydlu.
  • Bydd y Cyfnod Sylfaen, sy’n cyflwyno plant i ddysgu trwy wneud, wedi’i roi ar waith yn llawn erbyn mis Medi. Ni chaiff, arwain at ostyngiad mewn llythrennedd. Bydd yr asesiad sylfaenol yn rhoi’r sylfaen inni, gydag asesiad parhaus bob blwyddyn wedi hynny i’w gryfhau. Af i’r afael ag amrywiadau mewn arferion addysgu.
  • Fel rhan o’n Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol, rwy’n cyflwyno prawf darllen cenedlaethol cyson ledled Cymru a’i nod fydd gostwng yn fawr nifer y disgyblion sy’n cwympo o dan eu hoedran darllen dynodedig. Bydd y Cynllun yn cynnwys hefyd elfen fydd yn canolbwyntio ar blant 7-11 oed a rhaglenni darllen ‘dal-i-fyny’ yn ogystal ag estyn y disgyblion mwyaf galluog.
  • Erbyn blwyddyn academaidd 2012/13, bydd cynlluniau tebyg i wella rhifedd wedi’u datblygu.

Atebolrwydd

  • Perfformiad fydd ein sbardun. I gefnogi’n hymdrechion i wella perfformiad, rwy’n creu Uned Safonau i sbarduno perfformiad ac i osod her inni ar lefel genedlaethol.
  • Ni fydd unrhyw fenter newydd yn cael fy nghymeradwyaeth oni bai ei bod yn ychwanegu at werth ein gofyn am berfformiad gwell.
  • Rwy’n cyflwyno system genedlaethol ar gyfer graddio ysgolion, i’w chynnal gan bob awdurdod lleol/consortia.
  • Byddaf yn edrych ar y posibiliadau i ymgorffori asesiadau PISA o fewn asesiadau ysgolion ar gyfer disgyblion 15 oed. 
  • Mae defnyddio data’n ganolog i berfformiad. O flwyddyn nesaf, ni chaiff yr un ysgol basio arolygiad Estyn oni all brofi bod ei chorff llywodraethwyr wedi trafod y data teulu ysgolion a data perfformiad perthnasol arall, a’i fod wedi datblygu rhaglen weithredu i wella ei sefyllfa. Byddaf yn ysgrifennu at Gadeirydd pob Corff Llywodraethu i esbonio hyn iddynt.
  • Yn y Mesur Addysg, rwy’n cyflwyno hyfforddiant statudol i lywodraethwyr ac i wella gwaith clerigol.
  • Rwy’n disgwyl i bob awdurdod lleol ofalu bod pob asesiad athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn gadarn a chyson ac yn cadw at  safonau sydd wedi’u pennu’n genedlaethol, yn enwedig o ran llythrennedd.
  • Os bydd Estyn yn gweld bod ysgol yn methu a’m bod o’r farn nad oes modd ei hadfer, byddaf yn ei chau.
  • Byddaf yn newid y darpariaethau rheoli perfformiad ar gyfer rheoli perfformiad penaethiaid a rheoli perfformiad athrawon er mwyn medru monitro’n dynnach eu hymdrechion i godi safonau. Byddaf yn gofyn i awdurdodau lleol a chonsortia am eu cymorth yn hyn.
  • Byddaf yn cynhyrchu Canllawiau Statudol ar gyfer gwella ysgolion.

Cydweithio

  • Yn y Mesur Addysg, rydym yn cymryd pwerau i ganiatáu i awdurdodau lleol greu ffederasiwn o fyrddau llywodraethau ysgolion. Rwy’n disgwyl gweld mwy o ffederasiynau o ysgolion, yn gweithredu o dan un pennaeth.
  • Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol gymryd rhan mewn trefniadau consortia, gan gynnwys rhannu gwasanaethau consortia. Cânt eu cosbi am beidio.

Byddaf yn hysbysu aelodau am unrhyw ddatblygiadau.