Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod ein cenhadaeth genedlaethol yw sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb, ac rydym am wneud hyn drwy fuddsoddi yn ein holl bobl ifanc a thrwy fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae gwireddu’r uchelgais gyffredin honno’n golygu bod angen adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes, dysgu o’r arferion effeithiol, a sicrhau bod yr wybodaeth a’r adnoddau sydd ar gael yn cael eu targedu i gyflawni’r canlyniadau yr ydym i gyd am eu gweld.

Mae ein system addysg yn destun balchder a hyder cenedlaethol. Ond rydym hefyd yn gwybod bod gormod o amrywiaeth rhwng ysgolion a rhwng ardaloedd daearyddol. Mae hon yn her yr ydym yr ydym yn mynd i’r afael â hi gyda’n gilydd o reidrwydd moesol. Mae hynny’n golygu bod angen i bob rhan o’r system fod yn benderfynol o gydweithio i’r perwyl gorau – hynny yw, system sy’n seiliedig ar ysbryd o gydweithio nid cystadleuaeth, ac un lle y mae cynnydd, cyflawniad a lles dysgwyr – gan gynnwys lles pobl sy’n gweithio fel rhan o’r system – yn ganolog i’r cyfan. Rwyf am i ysgolion fod yn hyderus eu bod yn derbyn y cyngor a’r gefnogaeth orau bosibl, a bod hyn ar gael yn gyson ledled Cymru. 

Mae cydweithio a chefnogi ysgolion i wella wedi bod yn digwydd ledled Cymru ers bron i ddeng mlynedd. Mae llawer wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae ein rhaglen ddiwygio bellgyrhaeddol yn darparu cwricwlwm newydd a dull newydd o gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol. 

Yn dilyn datganiadau gen i ym mis Ionawr eleni, gwnaed gwaith gydag ysgolion, awdurdodau lleol, partneriaid rhanbarthol ac Estyn er mwyn meithrin dealltwriaeth a disgrifio datblygiadau mewn perthynas â gwella ysgolion a gwybodaeth i’r dyfodol. Mae pwysigrwydd ysgogi mwy o gydweithio rhwng ysgolion ac ar bob lefel ar draws y system yn thema barhaus sy’n dod i’r amlwg yn sgil y trafodaethau hyn.

Mae’r canllawiau ar wella ysgolion a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi sut y dylai’r dull gweithredu esblygu dros y blynyddoedd nesaf i gefnogi’r cwricwlwm newydd, gan ddarparu fframwaith cenedlaethol i helpu i ganolbwyntio ar set o flaenoriaethau cyffredin. Mae hynny hefyd wedi’i bwysleisio yn y Ddealltwriaeth Gyffredin o Gynnydd. Dylai ein dull gweithredu yn y dyfodol flaenoriaethu gweithio ar y cyd – mewn clystyrau a rhwng clystyrau – i ddarparu dull cyson o ymdrin â chynnydd dysgwyr ledled Cymru, a chydweithio tuag at yr un set o flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella. Mae angen i ymdrechion ar draws pob rhan o’r system sy’n effeithio ar wella ysgolion esblygu i gyflawni’r ffocws a’r symlrwydd hwnnw. Ochr yn ochr â hyn, mae angen inni sicrhau bod elfennau sylfaenol o gymorth ar gyfer y cwricwlwm yn gyson ledled Cymru i greu’r llwyfan ar gyfer ymgysylltu a chydlyniant cenedlaethol. Mae ein ffordd o weithio mewn partneriaeth â’r Consortia Rhanbarthol a’r Partneriaethau ac Awdurdodau Lleol wrth ddylunio ac asesu’r cwricwlwm ac wrth weithio ar egwyddorion gwneud cynnydd yn datblygu i gefnogi ysgolion. 

Yn y cyd-destun hwn, a chan gyfaddef bod y system addysg yn gymhleth am fod gan bartneriaid wahanol statws, swyddogaethau, blaenoriaethau a strwythurau, cydnabyddir mai nawr yw’r amser iawn i adolygu cyfeiriad a rolau a chyfrifoldebau partneriaid yn y dyfodol, a datblygu trefniadau cydweithredol pellach i wella ysgolion i gefnogi ein cenhadaeth genedlaethol.  Bydd hyn yn fodd i ystyried beth sydd ei angen ar y system mewn ffordd gyfunol, amserol a thryloyw wrth inni edrych tua’r dyfodol. Mae hyn yn ategu ac yn gydnaws â’r gwaith pwysig rydym yn ei wneud gyda phartneriaid i edrych ar y pwysau o ran llwyth gwaith, ac mae’r adolygiad yn hwyluso’r ffordd i greu cyfle ar gyfer cydweithio cadarnhaol, cefnogol, pwrpasol drwy leihau biwrocratiaeth ddiangen.

.Heddiw rwy’n amlinellu sut byddwn yn symud ymlaen ar sail ymrwymiad cynllun gweithredu cenhadaeth ein cenedl – i adolygu llwybrau cyfeiriad partneriaid i’r dyfodol, a’u rolau a’u cyfrifoldebau, ac i ddatblygu ymhellach drefniadau cydweithredol i wella ysgolion.  Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod yr Athro Dylan E Jones wedi cytuno i arwain yr adolygiad pwysig ac amserol hwn. Ei amcanion yw: 

  • Rhoi eglurder ar rolau a chyfrifoldebau sefydliadau a phartneriaid yn y system addysg, sut gallant gydweithio i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr a meithrin cydweithrediad o fewn a rhwng clystyrau.
  • Pennu disgwyliadau o ran trefniadau gwella ysgolion ar gyfer system addysg Cymru, gan adeiladu ar arferion effeithiol presennol, ac adlewyrchu tystiolaeth a phrofiadau o Gymru ac yn rhyngwladol yn y maes hwn.
  • Archwilio nodweddion y system bresennol, nodi beth sy’n gweithio’n dda ac yn llai da, a sut y gellid gwneud gwelliannau.
  • Deall ehangder y safbwyntiau a’r profiadau o bob rhan o’r system, gan fod yn ystyriol o’r pwysau ac o’r gweithgareddau o ddydd i ddydd sy’n parhau.
  • Nodi sut y gellir gwella capasiti, dulliau cydweithio a ffyrdd o weithio er budd dysgwyr a phawb sy’n cefnogi dysgwyr ledled Cymru.
  • Helpu i lywio barn fel bod dull clir wrth symud ymlaen; a bod gennym ddull y gallwn fod yn hyderus ohono sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Mae gan yr Athro Jones wybodaeth unigryw, fanwl ac eang o’n system addysg. Ef yw Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Arweiniodd y Grŵp Cyflwyno Addysg Strategol yn ystod y cyfnod o ddiwygio addysg – grŵp a sefydlwyd i hwyluso cydweithio ac alinio gweithgareddau; gan hyrwyddo effeithlonrwydd pob sefydliad sydd â rolau hanfodol. Mae wedi cadeirio Panel Ymarferwyr Ysgolion i Lywodraeth Cymru, a bu’n Arolygydd Cymheiriaid Annibynnol i Estyn. Mae hefyd yn gyn-bennaeth uchel ei barch mewn ysgol cyfrwng Cymraeg fawr i ddysgwyr 3-19. Wrth ymgymryd â’r adolygiad, bydd yr Athro Jones yn cydweithio’n agos ag ysgolion a phartneriaid addysg, gan roi’r lle blaenaf i anghenion y dysgwr.

Rwy’n disgwyl cael adroddiad ar sail yr adolygiad mewn pryd imi gael rhannu ei gasgliadau ym mis Mawrth 2024.