Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar Adolygiad Brys Aled Roberts ym mis Awst 2017, sefydlwyd Bwrdd Cynghori i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar gynlluniau i gryfhau'r seilwaith cynllunio ar gyfer addysg Gymraeg.

Mae'r Bwrdd wedi cwblhau eu gwaith bellach, ac wedi cyflwyno adroddiad i mi yn amlinellu sut maent wedi ymateb i argymhellion yr Adolygiad Brys a'r newidiadau sydd eu hangen er mwyn gwella'r broses. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi meysydd lle mae angen gwneud gwaith yn y dyfodol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Bwrdd am ei waith a hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses.  Rwy'n sicr y bydd y rheoliadau diwygiedig arfaethedig a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mai yn gwella'r broses o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn ystod gwaith y Bwrdd Cynghori, daeth yn eglur bod angen edrych o'r newydd ar y ffordd y caiff ysgolion eu categoreiddio yn ôl eu natur ieithyddol a darpariaeth iaith gan nad oedd hyn wedi’i ystyried ers dros 10 mlynedd.  Cytunwyd y dylid gwneud hyn yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd.

Rwyf wedi gofyn, felly, i Meirion Prys Jones i arwain prosiect ymchwil i adolygu y diffiniadau presennol a chategorïau o ysgolion yng Nghymru yn ôl eu natur ieithyddol a’u darpariaeth iaith er mwyn i'r rhain gefnogi ymhellach y gwaith o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Rydym felly yn bwriadu ymgynghori ar ddull newydd o gategoreiddio ysgolion yn yr hydref, a chyflwyno cynnig terfynol erbyn Rhagfyr 2019 mewn pryd i gefnogi'r ymgynghoriadau ar y Cynlluniau Strategol newydd ar gyfer Cymraeg mewn Addysg.

Hoffwn ddiolch i Aled Roberts am ei arweiniad a hoffwn ddiolch i'r Bwrdd am ei ymrwymiad a’i broffesiynoldeb wrth gynghori ynghylch y newidiadau gofynnol a'r camau nesaf.  Hoffwn ddiolch hefyd i Dylan Foster Evans am fod mor barod i gadeirio'r Bwrdd yn absenoldeb Aled.

Gellir dod o hyd i argymhellion y Bwrdd Cynghori Strategol y Gymraeg Mewn Addysg ar:

https://llyw.cymru/gwellar-broses-cynllunio-addysg-gymraeg