Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cafodd ymgynghoriad pwysig ei lansio gan Lywodraeth Cymru ar sut y gellir gwella ansawdd gofal cymdeithasol drwy fynd i'r afael â materion allweddol yn ymwneud â'r gweithlu, megis isafswm cyflog a chontractau dim oriau. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwn ar gael i'r Llywodraeth newydd yn ddiweddarach eleni.

Ar 7 Gorffennaf, cyhoeddodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus fod ymchwil wedi cael ei chyhoeddi ar ddefnyddio contractau dim oriau mewn gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli. Daeth yr ymchwil honno o hyd i amrywiol amgylchiadau lle defnyddir contractau dim oriau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Tynnwyd sylw yn arbennig at ofal cartref fel sector y dylid ei ystyried ymhellach a lle dylid cymryd camau pellach.

Ar 15 Gorffennaf 2015, cyhoeddais ymchwil i'r effaith y mae materion allweddol, megis contractau dim oriau, yn ei chael ar ddenu pobl i ddilyn gyrfa mewn gofal cartref a sut y gallai'r materion hyn effeithio ar ansawdd y gofal. Edrychodd yr ymchwil ar y berthynas bosibl rhwng telerau ac amodau'r gweithlu ac ansawdd gofal cartref. Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn awr yn sail ar gyfer ymgynghori ar opsiynau polisi i gryfhau ansawdd gofal cartref drwy wella'r gwaith o recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref yng Nghymru.  

Cafodd crynodeb o ganfyddiadau'r ymchwil interim ei gyhoeddi ddoe. Bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror. Mae'r ymchwil yn dod i'r casgliad bod perthynas glir rhwng amodau a thelerau cyflogaeth yn y sector gofal cartref ac ansawdd y gofal.

Heddiw, felly, mae ymgynghoriad yn cael ei lansio ar y camau posibl i wella’r gwaith o recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref yng Nghymru. Mae'r syniadau sydd yn y ddogfen ymgynghori yn seiliedig ar yr ymchwil. Nid tasg syml fydd gwella'r gwaith o recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref a bydd rhaid mabwysiadu amryw o ddulliau i fynd i'r afael â'r mater. Rwy’n awyddus iawn, felly, i gael barn amrywiol randdeiliaid ac i glywed yn benodol farn y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cartref ac sy'n gweithio mewn gofal cartref. Dylech gyflwyno eich safbwyntiau erbyn 5 Ebrill.