Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r wythnos hon yn wythnos y Parciau Cenedlaethol a heddiw rwy'n cyhoeddi fy mlaenoriaethau ar gyfer y Parciau Cenedlaethol a'r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), ac yn cyhoeddi adfer cyllidebau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol i gefnogi cyflenwi.

Yn fy Natganiad Llafar ar 13 Mawrth, bu imi gadarnhau bod holl tirweddau dynodedig presennol yng Nghymru yn cael eu cadw a ni fydd eu diben presennol o warchod a gwella harddwch naturiol yn cael ei wanhau.

Mae Tirweddau Dynodedig: Gwerthfawr a Chydnerth yn amlinellu'r ardaloedd o flaenoriaeth allweddol ar ôl ystyried y canlyniadau gan yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig, Rhaglen Tirweddau Dyfodol Cymru a'r ymatebion i’r ymgynghoriad Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Maent yn darparu eglurder pwrpas ar gyfer y Parciau Cenedlaethol ac AHNE yng nghyd-destun y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac ar ddiwedd cyfnod o adolygiad.

Mae'n galw ar reolwyr cyrff tirweddau dynodedig i gyflawni nifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cynllun Adfer Natur, strategaeth coetir newydd, yr agenda datgarboneiddio, a Cymraeg 2050. Mae ei deg thema drawsbynciol yn anelu at wella cydnerthedd a sylweddoli gwerth llawn tirweddau Cymru:

  • Tirweddau i bawb
  • Enghreifftiau o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
  • Atal colli bioamrywiaeth
  • Ynni gwyrdd a datgarboneiddio
  • Gwireddu potensial economaidd tirweddau
  • Datblygu twristiaeth a hamdden awyr agored
  • Y Gymraeg yn ffynnu
  • Pob tirwedd yn bwysig
  • Chyflenwi drwy gydweithio
  • Arloesi mewn adnoddau

Yn gynharach eleni, cyhoeddais dros £3.4 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer y Parciau Cenedlaethol ac AHNE i gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys gwella mynediad i’r awyr agored, hyrwyddo cadwraeth ac adfywio rhai o'u hardaloedd mwyaf bregus.

 

Dwi eisiau rhoi sicrwydd o adnoddau ar gyfer y tirweddau dynodedig yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau hyn, yr wyf yn adfer cyllidebau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol i lefel llynedd (2017/18), sy'n golygu £1.5 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd. Mae hyn yn brawf o 'm hymrwymiad iddynt.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru o £1miliwn ychwanegol ar gyfer y partneriaethau AHNE drwy setliad ariannu grant craidd 3 blynedd. Mae hyn yn ychwanegol i’r £550,000 a gânt gan Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf drwy'r Gronfa Datblygiad Cynaliadwy. Yr wyf ar hyn o bryd yn gweithio gyda hwy i fynd i'r afael â materion cydraddoldeb gyda'r Parciau Cenedlaethol.

Gyda'r cyllid hwn rwy'n disgwyl i’r cyrff rheoli tirweddau dynodedig weithio'n effeithlon, gan ddefnyddio partneriaethau cydweithredol, i gyflawni'r blaenoriaethau hyn a gyrru ymlaen â rheolaeth cynaliadwy yr adnoddau naturiol yn eu hardaloedd.

Yr wyf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr AHNE a Parciau Cenedlaethol yn cael eu gwerthfawrogi am eu harddwch naturiol gan ein pobl, ein cymunedau a’n gwlad – a, bod ein tirweddau dynodedig yn darparu ecosystemau cyfoethog, cymunedau cryf a bywiog, a cyfleoedd ar gyfer hamddena awyr agored ar gyfer holl bobl Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.