Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Ym mis Mehefin, lansiais ymgynghoriad cyhoeddus ar waharadd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti yng Nghymru, ddaeth i ben ar 17 Awst 2020. Ceisiwyd barn a thystiolaeth ar gyfer y cynnig i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach yng Nghymru.
Caiff crynodeb o ymatebion eu cyhoeddi heddiw (5 Hydref) yn ogystal â chrynodeb o’r ymgynghoriad gyda plant a phobl ifanc a gynhaliwyd ar ein rhan gan Plant yng Nghymru, a gyda chefnogaeth sefydliadau y trydydd sector yng Nghymru.
Y pryder parhaus yw y gallai’r gwerthiant masnachol o gŵn a cathod bach fod yn gysylltiedig â safonau lles is i’r anifeiliaid o gymharu â phrynu’n uniongyrchol gan y bridiwr. Er enghraifft, gallai gorfod eu cyflwyno i nifer o amgylcheddau newydd ac anghyfarwydd, a’r ffaith ei fod yn fwy tebygol i gŵn a chathod bach o’r fath orfod gwneud nifer o siwrneau, gyfrannu at fwy o berygl o glefydau, a diffyg cymdeithasu ac ymgyfarwyddo.
Cafwyd 226 o ymatebion i’r ymgynghoriad llawn a byddai 98% o ymatebywr yn hoffi gweld diwedd ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i Plant yng Nghymru hefyd a gynhaliodd ein hymgynghoriad Plant a Phobl Ifanc a dderbyniodd 59 o ymatebion gan blant ledled Cymru. Roedd 96% o’r ymatebwyr yn cytuno gyda gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach yn fasnachol gan drydydd parti yng Nghymru.
Hoffwn eich annog i ddarllen safbwytniau plant a phobl ifanc a dreuliodd amser, yn ystod y cyfnod digynsail hwn, i ymateb i’r mater hwn o les anifeiliaid. Rwyf yn hynod falch bod gan berchnogion anifeiliaid yng Nghymru gymaint o ymwybyddiaeth a theimlad o gyfrifoldeb. Roedd lles anifeiliaid hefyd yn thema gyson drwy’r ymatebion a gofnodwyd, gyda barn gref y dylid gwarchod lles cŵn a chathod bach.
Gallaf gadarnahu y bydd gwaharddiad ar werthiant masnachol gan drydydd parti yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd y Senedd hon.