Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn datblygu gwasanaethau newydd ac arloesol ar gyfer awtistiaeth er mwyn gwella’r ddarpariaeth.  Er mwyn sicrhau bod ein diwygiadau’n arwain at y canlyniadau rydym oll yn dymuno eu gweld, rydym wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol o weithrediad ac effaith y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol.  Er mwyn rhoi gwybod i’n rhanddeiliaid sut mae pethau’n dod yn eu blaen, cyn cyhoeddi’r adroddiad gwerthuso’n llawn, cyhoeddwyd papur ar y canfyddiadau cychwynnol ym mis Chwefror. Cyhoeddwyd yr adroddiad llawn, sydd wedi’i atodi i’r datganiad hwn, ar 1 Ebrill.

Cafodd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol ei roi ar waith fesul cam yn ystod 2016. Erbyn hyn, mae’r gwasanaeth ar gael yng Nghaerdydd a’r Fro, Cwm Taf, Gwent, Gogledd Cymru a Phowys a bydd ar gael yn llwyr yn y rhanbarthau eraill, sef Gorllewin Cymru a Bae'r Gorllewin erbyn mis Ebrill eleni.  Mae’r gwasanaeth wedi ymateb i adborth gan randdeiliaid ynghylch bylchau parhaus yn y cymorth sydd ar gael, gan gynnig gwasanaethau a chymorth asesu ar gyfer oedolion awtistig a chymorth  i rieni a gofalwyr. Mae’n cael ei ddarparu ochr yn ochr â Gwasanaethau Niwroddatblygiadol i blant a gwasanaethau awtistiaeth sy’n cael cymorth yn lleol. 

Comisiynwyd yr astudiaeth annibynnol hon yn 2017 i werthuso’r Cynllun Gweithredu Strategol Newydd ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig a'r cynllun cyflawni perthnasol, gan ganolbwyntio’n benodol ar weithrediad ac effaith y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Cyhoeddwyd adroddiad interim, a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yng Nghaerdydd a’r Fro, Cwm Taf, Gwent a Phowys, ym mis Mawrth 2018. Mae'r adroddiad nesaf, yn bennaf yn defnyddio’r data ansoddol a gafwyd mewn cyfweliadau a thrafodaethau ag oedolion awtistig (roedd gan rai ohonynt blant awtistig hefyd), aelodau o’r teulu a gofalwyr. Roedd y gwerthusiad hefyd yn ceisio nodi sut cafodd y Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig eu sefydlu ym mhob ardal, a deall eu rhyngwyneb â gwasanaethau eraill yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a’r trydydd sector a’u heffaith ar y gwasanaethau hyn.

Mae’r gwerthusiad yn canfod bod y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn wasanaeth gwerthfawr, y mae galw mawr amdano, yn yr ardaloedd y mae ar gael.  Yn fras, mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cyflawni’r hyn y bwriadwyd iddo ei gyflawni, ac mae’r rhan fwyaf o ffactorau llwyddiant allweddol Llywodraeth Cymru wedi’u bodloni. Er gwaethaf anawsterau ar y cychwyn, mae’r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig yng Nghaerdydd a’r Fro, Cwm Taf, Gwent a Phowys yn darparu’n fras yr un model o gymorth, yn unol â chanllawiau NICE. Mae disgwyl y bydd y gwasanaethau yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Cymru a Bae'r Gorllewin yn gwneud hynny hefyd. Bellach, mae llwybrau diagnosteg cyson ar gael i oedolion ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, er bod angen gwneud gwaith ychwanegol i egluro llwybrau at wasanaethau eraill, fel iechyd meddwl.  Mae hyn wedi cymryd amser, ac mae cyfraniad oedolion awtistig ac aelodau’r teulu tuag at ddatblygu’r gwasanaethau wedi bod yn gymysg. Ond, erbyn hyn mae trefniadau llywodraethu clir ar gael ar gyfer y Gwasanaeth ym mhob ardal, ac mae rhanddeiliaid allweddol wedi cael eu cynnwys yn y broses. Mae’r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig yn cysylltu â gwasanaethau sy’n bodoli’n barod, pan fydd hynny ar gael, ond mae model staffio ac ariannu y Gwasanaeth yn cyfyngu ar yr integreiddio â gwasanaethau’r sector gwirfoddol. Mae’r cysylltiadau â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi gwella dros amser. Erbyn hyn, mae’n cael ei weithredu, ei oruchwylio a’i gefnogi’n effeithiol yn genedlaethol.

Yr hyn yr oedd defnyddwyr gwasanaeth a oedd yn cyfrannu at yr astudiaeth yn ei werthfawrogi fwyaf oedd y ffordd yr oedd y Gwasanaeth Awtistiaeth Cenedlaethol yn eu deall ac yn eu derbyn. Roedd nifer yn sôn am eu rhyddhad o ganfod y Gwasanaeth ar ôl blynyddoedd o “guddio” eu cyflwr, gan gelu eu pryderon a pheidio siarad amdanynt. Mae’r gwerthusiad yn cydnabod bod rhai rhanddeiliaid yn teimlo’n rhwystredig oherwydd nad oedd modd i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Cenedlaethol fodloni eu disgwyliadau neu gynnig rhagor o gymorth. Ond ar y cyfan, mae safbwyntiau unigolion wedi dod yn fwy cadarnhaol ar ôl iddynt ddod i gyswllt â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Cenedlaethol.  Roeddent yn canmol y cymorth un-i-un gan weithwyr cymorth, a’r grwpiau a’r hyfforddiant a oedd ar gael, gan eu canmol i'r cymylau yn aml iawn.

Mae’r gwerthusiad yn canfod bod y Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig wedi arwain at ragor o asesiadau a gwasanaethau diagnosis ar gyfer oedolion, ac wedi gwella eu safon. Mae nifer a safon asesiadau a gwasanaethau diagnosis ar gyfer plant wedi gwella hefyd, drwy sefydlu Gwasanaethau Niwroddatblygiadol newydd i blant a phobl ifanc. Mae sefydlu’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi tynnu sylw at alw nad oedd yn cael ei fodloni yn flaenorol am wasanaethau awtistiaeth. Fel sy’n wir ar gyfer gwasanaethau Niwroddatblygiadol hefyd, mae’r galw am wasanaethau wedi arwain at (neu ychwanegu at) restrau aros hir. Ar hyn o bryd, mae’r gwerthusiad yn nodi bod y rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn galonogol.

Ym mis Medi 2018, cytunwyd i ymestyn y gwerthusiad hwn i ganolbwyntio ar ymchwilio i'r rhesymau dros yr amseroedd aros hir ar gyfer Gwasanaethau Niwroddatblygiadol plant a phobl ifanc a’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, yn ogystal ag edrych ar gyfleoedd i wella aliniad gwasanaethau Niwroddatblygiadol. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ddechrau’r haf. Bydd gwybodaeth werthfawr o’r astudiaethau annibynnol hyn yn ein dysgu ni beth ddylai sail diwygiadau fod yn y dyfodol, er mwyn arwain at y gwelliannau sydd eu hangen ar bobl awtistig a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae’r gwerthusiad yn sylfaen gadarn i ni ystyried datblygu a chyflwyno polisi yn y dyfodol, gan gyflwyno cyfres o argymhellion ynghylch sicrhau eglurder ynghylch rôl y gwasanaeth integredig, sut dylid datblygu gwasanaethau yn y dyfodol, gan gynnwys ystyried cwmpas ac uchelgais y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a’r dull cyllido cyffredinol sydd ei angen i fynd i’r afael â’r amrywiaeth eang o anghenion sy’n cael eu cyflwyno. 

Rydym yn ystyried yr holl argymhellion yn ofalus, wrth i ni weithio gyda’n partneriaid i sefydlu’r gwasanaeth a pharhau i ddiwygio’r gwasanaeth awtistiaeth yn y tymor hir.   Bydd yr adolygiad a’r argymhellion a wneir yn sail ar gyfer datblygu ein Cod Ymarfer ar gyfer Darparu’r Gwasanaethau Awtistiaeth. Bydd hyn yn cryfhau ac yn ategu’r gwelliannau rydym wrthi’n eu cyflawni, a bydd yn ein galluogi ni i ganfod a rhoi sylw i unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gynyddu cyflymder y broses o ddiwygio awtistiaeth.  Rydym wedi adnewyddu'r cyllid ar gyfer y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol dros y tair blynedd nesaf er mwyn parhau i gefnogi rhanbarthau i gydweithio i sefydlu gwasanaethau a helpu i sicrhau y bydd gwasanaethau yn deall eu cyfrifoldebau, a fydd yn cael eu cyflwyno yn y cod ymarfer nesaf ar gyfer awtistiaeth.