Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn falch o gyhoeddi gwerthusiad canol cyfnod o Gronfa Trawsnewid Cymru Iachach.

Mae dau nod i'r gwerthusiad:

  • gwerthuso i ba raddau y mae'r Gronfa Trawsnewid wedi cyflymu'r broses ehangach o fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a’u hehangu i ddisodli neu ad-drefnu gwasanaethau presennol er mwyn gwella canlyniadau i bobl
  • gwerthuso rhannau o fodelau newydd sydd wedi arwain at allu mabwysiadu ac ehangu ffyrdd newydd o weithio yn llwyddiannus (ac yn aflwyddiannus)

Er mwyn sicrhau cyd-ddealltwriaeth ynghylch a yw gwahanol fodelau gofal a chymorth yn arwain at well canlyniadau, cyflawnwyd gwaith ar y cyd â’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i lunio Fframwaith Gwerthuso sy'n nodi’r dull cyffredinol y mae’n ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ei ddilyn yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae'r dull gwerthuso hwn yn:

  • helpu prosiectau'r Gronfa Trawsnewid i wella eu tystiolaeth o effaith er mwyn iddynt allu ehangu
  • cefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'u gwerthuswyr annibynnol i ddatblygu a mireinio eu damcaniaethau newid - gan weithio gyda phartneriaid i asesu'r hyn sydd wirioneddol yn gwneud i'w model weithio ac i lunio gwerthusiad a fydd yn darparu data o ansawdd uchel am eu heffaith
  • datblygu dull cyson ar draws rhanbarthau er mwyn sicrhau darlun cydlynol o'r effaith genedlaethol ledled Cymru
  • bod yn gyfaill beirniadol ar adegau adolygu allweddol drwy gydol y cyfnod o weithredu’r Gronfa Trawsnewid

Elfen bwysig o'r dull gwerthuso yw ei fod yn ffurfiannol a’i fod yn cael ei gynnal bob hyn a hyn drwy gydol y cyfnod gweithredu yn hytrach nag ar ddiwedd y cyfnod yn unig.

Mae'r Adroddiad Gwerthuso Canol Cyfnod Cenedlaethol cyntaf bellach wedi cael ei gwblhau gan Ymchwil Old Bell 3 ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa cyn COVID-19. Mae'r canfyddiadau wedi'u llywio gan Adroddiadau Gwerthuso Canol Cyfnod Rhanbarthol a gyflwynwyd gan bob un o'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, ynghyd â gwaith maes a chyfweliadau a gynhaliwyd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr Trawsnewid y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Fel rhan o'r broses barhaus o werthuso'r Gronfa Trawsnewid, mae'r gofynion wedi cael eu haddasu yn sgil COVID-19. Bydd hyn yn rhoi cyfle inni ddarparu barn annibynnol ynghylch effaith COVID-19 ar weithgarwch trawsnewid. Mae cymunedau maes wedi cael eu sefydlu hefyd i helpu i rannu’r dysgu a’r arferion gorau ac i helpu i hwyluso’r gwaith o ddatrys problemau ledled Cymru.

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ar 24 Awst 2020 am ymestyn y Gronfa Gofal Integredig a'r Gronfa Trawsnewid, bydd y gweithgarwch gwerthuso yn darparu sylfaen dystiolaeth bwysig ar gyfer cynllunio a blaenoriaethu unrhyw gyllid a rhaglenni trawsnewid yn y dyfodol ar ôl mis Mawrth 2022.

Y gronfa trawsnewid iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 2018 i 2021: gwerthusiad

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr aelodau eisiau inni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddem yn falch o wneud hynny.