Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd dau adroddiad yn cael eu cyhoeddi heddiw – Gwerthusiad Ffurfiannol o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid: Dull o Werthuso Effaith.

Nod y gwerthusiad ffurfiannol yw ceisio deall y modd y mae’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid wedi’i weithredu; llywio ei ddatblygiad parhaus; a chefnogi datblygiad manyleb fanwl y bydd modd ei defnyddio i fesur effaith y Fframwaith.

Ymgymerodd y contractwyr, ICF International, â nifer o weithgareddau er mwyn cwblhau’r gwaith hwn gan gynnwys:

  • Cyfweliadau â 162 o staff gweithredu ar draws ardaloedd awdurdodau lleol gan gynnwys cynrychiolwyr o blith darparwyr ôl-16; ysgolion; Gyrfa Cymru; Canolfan Byd Gwaith; a sefydliadau’r sector gwirfoddol. 
  • Ymchwil manwl yn cynnwys astudiaethau achos o fewn wyth awdurdod lleol, gan ganolbwyntio ar agwedd benodol ar waith gweithredu’r Fframwaith lle y mae llawer o gynnydd wedi’i gyflawni.
  • Arolwg ymysg y rhanddeiliaid a fu’n rhan o’r gwaith o weithredu’r Fframwaith er mwyn ceisio barn ynghylch y trefniadau a’r systemau o ran cyfranogiad a gwelliannau ers lansio’r Fframwaith.

Prif gasgliadau’r gwerthusiad oedd fod pob awdurdod lleol wedi cyflawni cryn gynnydd wrth weithredu’r Fframwaith ers iddo gael ei lansio ym mis Hydref 2013. Gwnaeth sawl person a gafodd eu cyfweld ganmol y Fframwaith a’i ddisgrifio fel y canllaw/strategaeth orau gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phobl ifanc. Credai’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc a gafodd eu cyfweld fod y Fframwaith wedi cyflawni cryn wahaniaeth o safbwynt y cydweithio rhwng pob partner a’r ymgysylltu ag arweinwyr y sefydliadau allweddol.

Ymysg y prif gasgliadau mae’r canlynol:

  • Mae pob awdurdod lleol wedi datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer rhoi’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid ar waith. Maent hefyd wedi penodi Cydgysylltydd Ymgysylltu a Datblygu sy’n cydgysylltu’r cynllun gweithredu.
  • At ei gilydd mae awdurdodau lleol wedi cymryd camau i ddatblygu trefniadau llywodraethu strategol effeithiol ar gyfer y Fframwaith. Er ei bod hi’n anodd asesu’n llawn effeithiolrwydd y trefniadau llywio, mae tystiolaeth yn bodoli sy’n dangos bod grwpiau mwy strategol yn gweithio’n dda, gyda phresenoldeb da, enghreifftiau o arweinyddiaeth flaengar, gwaith partneriaeth da a gwell arferion ar gyfer rhannu data a gwybodaeth.
  • Ers mis Chwefror 2015 mae bron i bob awdurdod yng Nghymru (20 o blith 22) wedi datblygu system adnabod yn gynnar ar gyfer pobl ifanc a allai ymddieithrio o addysg.
  • Mae oddeutu dwy ran o dair o awdurdodau lleol wedi datblygu cynlluniau a threfniadau ar gyfer gwaith arweiniol. Mae cryn heriau wedi’u hwynebu yn sgil oedi o ran sefydlu protocolau rhannu gwybodaeth; anawsterau wrth gyfleu’r neges fod gwaith arweiniol eisoes yn digwydd ac nad yw’n ddull newydd; ac anawsterau o ran annog pob partner i fod yn rhan o grwpiau gweithredol er mwyn ei gwneud hi’n haws i gynnig cefnogaeth. Mae’r awdurdodau lleol sydd eisoes wedi mabwysiadu egwyddorion gwaith arweiniol wedi gorchfygu’r rhan fwyaf o’r heriau hyn.  
  • Yn gyffredinol, mae gan awdurdodau lleol sydd â system adnabod yn gynnar a gaiff ei harwain gan ddata ar gyfer pobl ifanc cyn 16 oed yn yr ysgol brosesau pendant ar gyfer gwaith dilynol ac adolygu bob tymor man lleiaf.
  • Mae pob awdurdod lleol wedi cyflawni cryn gynnydd o safbwynt mapio’r ddarpariaeth yn erbyn y model ymgysylltu ag iddo bum haen, a hynny’n unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru.
  • Er nad oes unrhyw brosiectau cyflogadwyedd newydd wedi’u datblygu o dan y Fframwaith, cyflwynodd awdurdodau lleol a phartneriaid enghreifftiau o fentrau presennol a roedd yn rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am yrfaoedd a chyfleoedd profiad gwaith y byddant yn eu cynnal neu’n ceisio eu hestyn.
  • At ei gilydd mae’r awdurdodau lleol a’r partneriaid wedi barnu bod y negeseuon cyfathrebu, y cyfleoedd rhwydweithio.a’r gefnogaeth gan dîm rhaglen Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddefnyddiol ac yn amserol.

Amlygodd casgliadau’r astudiaethau achos y materion canlynol:

  • Mae’r adborth gan ysgolion a staff awdurdodau lleol ynghylch cyflwyno’r dull adnabod yn gynnar yn bositif. Teimlwyd bod cyflwyno dull safonol ar gyfer yr awdurdod lleol cyfan ‘yn helpu i sicrhau nad yw rhai pobl ifanc yn cael eu colli gan na chredid ynghynt eu bod mewn perygl o ymddieithrio’ (person o ALl a gafodd ei gyfweld).
  • Mae cyflwyno’r grŵp gweithredol NEET er mwyn trafod y bobl ifanc y barnwyd eu bod mewn perygl wedi lleihau unrhyw ddyblygu o ran gwasanaethau ac wedi gwella’r cydgysylltu rhwng asiantaethau. Mae hefyd wedi sicrhau rhagor o atebolrwydd, wrth i asiantaethau adrodd yn ôl wrth y grŵp ar y cynnydd y maent wedi’i gyflawni gyda phobl ifanc. 
  • Yn sgil y camau a gymerwyd ers cyflwyno’r Fframwaith mae’r trefniadau presennol wedi’u hatgyfnerthu ac mae gwell cydgysylltu a chydweithio rhwng partneriaid. Bernir bod partneriaid yn cydweithio’n dda wrth rannu gwybodaeth fel bod pobl ifanc yn cael eu hadnabod yn gynnar ac yna’n derbyn y gefnogaeth briodol a gaiff ei chydgysylltu gan weithiwr arweiniol.
  • Yn sgil mapio’r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 19 a 24 mlwydd oed a newidiadau dilynol i atgyfeiriadau, nododd rhanddeiliaid fod gwell prosesau ar gyfer atgyfeiriadau o’r Ganolfan Byd Gwaith i Gyrfa Cymru a gwell arferion rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid.


Mae’r adroddiad yn cyflwyno 23 o argymhellion sy’n cynnwys newidiadau a gaiff eu hawgrymu i drefniadau monitro ar gyfer yr agweddau gweithredol ar y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Pobl Ifanc, newidiadau i’r cyngor, y gefnogaeth a’r cyfarwyddyd a roddir i bartneriaid, ac awgrymiadau ynghylch pa gamau y mae angen eu cymryd er mwyn sicrhau bod modd gwerthuso effaith y Fframwaith yn llwyddiannus. Bydd swyddogion yn defnyddio casgliadau’r ddau adroddiad er mwyn ffurfio gwerthusiad o’r Fframwaith.

Mae cyfnod gweithredu dros ddwy flynedd ynghlwm wrth y Fframwaith a fydd yn dod i ben ym mis Hydref 2015. Rwy’n awyddus i gynnal momentwm positif ac adeiladu ar y cynnydd sydd wedi’i gyflawni hyd yma. Wrth i’r camau gael eu datblygu ar gyfer cyfnod ôl-weithredu’r Fframwaith, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried casgliadau ac argymhellion yr adroddiad gwerthuso, ar y cyd â chasgliadau ac argymhellion adroddiad Swyddfa Cymru sef ‘Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant’ ac adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ‘Helpu pobl ifanc i gael gwaith’.  

Byddaf yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf ynghylch y gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo.