Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n falch o gyhoeddi Adroddiad Gwerthuso Prosiectau’r Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru heddiw, sy'n dangos llwyddiant prosiectau'r Economi Sylfaenol (FoEc) a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru rhwng 2023 a 2025.
Roedd y prosiectau'n canolbwyntio ar sectorau allweddol FoEc yng Nghymru, fel Bwyd a Thai ac Adeiladu gydag ychydig dros £2m o gyllid yn cael ei ddyrannu.
Mae'r rhain yn sectorau hanfodol yng Nghymru. Mae 18,190 o fusnesau yn y sector bwyd, sy’n cynhyrchu £21,721bn o drosiant. Mae Tai ac Adeiladu gyda'i gilydd yn cynnwys 31,160 o fusnesau, gan gynhyrchu trosiant o bron i £24bn.
Po fwyaf y gallwn ni feithrin y sectorau hyn, ail-leoleiddio cadwyni cyflenwi a meithrin sgiliau, y mwyaf o arian a thalent rydyn ni'n eu cadw yng Nghymru a'r cryfaf a'r mwyaf cadarn y byddwn ni. Mae'r prosiectau wedi dangos effeithiolrwydd ymyriadau economaidd ac ymyriadau yn y gadwyn gyflenwi wedi'u targedu, ynghyd â nodau newid hinsawdd, ac maent yn dangos faint yn union y gellir ei gyflawni, heb fawr o gyllid, drwy ddulliau arloesol a chydweithio.
Helpodd y prosiectau i gefnogi'r amcanion a nodwyd yn Natganiad Cenhadaeth FoEc a lansiwyd gennyf ym mis Ebrill eleni. Mae cyfleoedd i hybu cyflogaeth a meithrin sgiliau yn nodau allweddol, ac rwy'n falch y cofnodwyd bod 1,251 o swyddi wedi cael eu creu/cadw drwy'r prosiectau. Rhoddwyd hwb i alluogrwydd pob prosiect i feithrin gwydnwch a diogelu'r sectorau at y dyfodol, gan ddod â budd i gymunedau, sefydliadau'r sector cyhoeddus a'n busnesau cynhenid.
Cynyddodd cyflenwyr yn y sectorau Tai ac Adeiladu eu hachrediadau ôl-osod a'u sgiliau trydanol a phlymio, gyda 24 o fusnesau bach a chanolig yn cael cymorth i ennill ardystiad PAS2030 drwy NetRet a 120 o bobl ifanc yn cael sgiliau plymio a thrydanol sero net gyda Cyfle, gydag 80% wedi sicrhau prentisiaeth neu gyflogaeth.
Mae arloesi ym maes tai cymdeithasol wedi arwain at gytuno ar ddylunio cartrefi safonol, patrwm tai Sero Net Tai ar y Cyd (TAYC) yn cael ei lansio, a channoedd o gyflenwyr newydd ac anhysbys yng Nghymru wedi cael eu canfod a'u huwchsgilio, gan sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gontractau yng Nghymru.
Mae'r prosiectau Bwyd wedi arwain at bartneriaethau newydd ac arloesol rhwng tyfwyr, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyfanwerthwyr, gan alluogi mwy o gyflenwad o gynnyrch Cymreig, cynaliadwy a thymhorol, addysg bwyd bellgyrhaeddol a newid mewn patrymau caffael bwyd.
Mae prosiect Llysiau o Gymru mewn Ysgolion wedi dosbarthu dros 200,000 o brydau llysiau organig o Gymru i ysgolion mewn saith awdurdod lleol. Mae ail-ddylunio bwydlenni ysgol Larder Cymru wedi golygu bod Cyngor Caerffili bron wedi dyblu ei wariant ar fwyd o Gymru. Mae'r cyfanwerthwyr o Gymru, Castell Howell a Harlech, yn nodi cynnydd sylweddol mewn gwariant ar fwyd o Gymru.
Mae'r rhain yn ganlyniadau pendant, sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl, cymunedau a busnesau Cymru ac rwy'n falch iawn o weld llawer ohonynt eisoes yn tyfu. Rwy'n gobeithio y bydd y profiadau a rennir yn yr adroddiad hwn, a'r gwersi a ddysgwyd, yn helpu i lywio prosiectau yn y dyfodol ac yn ysbrydoli eraill i efelychu'r dulliau hyn.
