Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn falch o gyhoeddi cynnydd sylweddol yng nghyfradd y lleoedd y llwyddwyd i'w llenwi ar gyfer hyfforddi Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru ar ddiwedd cylch recriwtio 2. Mae hyn yn tanlinellu llwyddiant yr ymgyrch genedlaethol wrth gefnogi Deoniaeth Cymru i ddenu hyfforddeion ychwanegol ym maes ymarfer cyffredinol i Gymru.

Mae’r ymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw yn cefnogi ymrwymiad  Llywodraeth Cymru i gymryd camau i ddenu a hyfforddi mwy o Ymarferwyr Cyffredinol, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ledled Cymru”.

Mae'r ymgyrch yn cynnwys dau gynllun cymhelliant ariannol: cynllun wedi'i dargedu sy'n cynnig cymhelliant o £20,000 i hyfforddeion ym maes ymarfer cyffredinol sy'n derbyn swyddi mewn ardaloedd penodedig lle bu'n anodd llenwi swyddi, a chynllun cyffredinol sy'n cynnig taliad untro i bawb sy'n hyfforddi i fod yn ymarferydd cyffredinol i dalu cost sefyll eu harholiadau terfynol unwaith.

Ers i'r ymgyrch gael ei lansio yn Hydref 2016 rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Deoniaeth Cymru, i sefydlu Cymru leded y DU fel lle ardderchog i feddygon, gan gynnwys Ymarferwyr Cyffredinol, hyfforddi, gweithio a byw. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r ymgyrch yn dwyn ffrwyth.

Ar ddiwedd ail-hysbyseb cylch 1, fe wneuthum gadarnhau i 91% o'n lleoedd hyfforddi ar gyfer ymarferwyr cyffredinol gael eu llenwi (llwyddwyd i lenwi 124 lle o 136). Ar ddiwedd y tri chylch recriwtio (cylch 1, ail-hysbyseb cylch 1 a chylch 2), mae Deoniaeth Cymru bellach wedi cadarnhau penodiadau i 144 o leoedd, gan ragori ar y 136 o leoedd hyfforddi a oedd ar gael ar ddechrau'r cylch recriwtio.

Yn y DU, mae gan feddygon sy'n llwyddo i gael lle ar raglen hyfforddi Ymarferwyr Cyffredinol hawl i ohirio dechrau eu hyfforddiant am hyd at 12 mis; gall rhai hyfforddeion a dderbyniodd le mewn unrhyw un o'r tri chylch recriwtio ddewis gohirio eu dyddiad dechrau.

O'r ardaloedd hynny sydd wedi'i chael yn anodd recriwtio a lle cyflwynwyd y cymhelliant wedi'i dargedu, llwyddwyd i lenwi 100% o leoedd yng Ngheredigion,  Gogledd-ddwyrain Cymru, Gogledd-orllewin Cymru a Sir Benfro.

Y mis diwethaf, ymwelais â Meddygfa Winch Lane yn Hwlffordd i ail-lansio'r ymgyrch feddygol, gyda ‘wynebau’ newydd yr ymgyrch, llyfryn meddygol wedi'i diweddaru a gwefan wedi'i diweddaru yn dangos astudiaethau achos bywyd go iawn. Bydd yr ymgyrch yn parhau i dargedu darpar hyfforddeion ymarfer cyffredinol ac ymarferwyr cyffredinol cymwysedig a hynny yn y DU ac yn rhyngwladol.

Yn dilyn llwyddiant cyffredinol y cynlluniau cymhelliant ariannol wrth gynyddu nifer y lleoedd hyfforddiant sy'n cael eu llenwi ar gyfer 2017, rwyf wedi cytuno i ymestyn y cynllun cyffredinol a'r cynllun cymhelliant wedi'i dargedu am flwyddyn arall.