Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Bydd yr Aelodau am fod yn ymwybodol bod Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025, a gytunwyd gan y Senedd ar 21 Hydref, wedi'i wneud gan y Cyfrin Gyngor ar 12 Tachwedd addaeth i rym ar 13 Tachwedd.
Mae'r Gorchymyn i'w weld drwy ddilyn y ddolen a ganlyn: The Senedd Cymru (Disqualification) Order 2025
Mae Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 yn rhestru swyddi ac aelodaeth o gyrff sy'n anghymhwyso eu deiliaid rhag bod yn Aelod o'r Senedd (ond nid o fod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd). Disgrifir y swyddi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn.
Mae swyddi anghymhwyso ychwanegol, ynghyd â chategorïau o bersonau sydd wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd, neu’n ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd, wedi'u rhagnodi gan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 1A iddi. Dylid darllen y Gorchymyn gyda'r darpariaethau hynny.
Bydd y Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020, gan gael effaith adeg etholiad pan gynhelir y bleidlais ar 6 Ebrill 2026 neu ar ôl hynny.
Bydd y Comisiwn Etholiadol yn ystyried Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 yn ei ganllawiau i ymgeiswyr cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026. Fodd bynnag, bydd hefyd yn bwysig bod pob plaid wleidyddol yn cymryd camau i sicrhau bod eu darpar ymgeiswyr yn gwbl ymwybodol o'r Gorchymyn.
