Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Darparu cartrefi gwirioneddol fforddiadwy, sy'n parhau i fod yn hygyrch i bobl a chymunedau dros y tymor hir yw ffocws y Llywodraeth hon. Er fy mod wedi blaenoriaethu darparu 20,000 o gartrefi i'w gosod ar rent cymdeithasol erbyn 2030, rwy'n cydnabod pwysigrwydd gwneud prynu cartrefi yn fwy fforddiadwy yng Nghymru i ddiwallu anghenion tai.
Mae'n bwysig bod perchnogaeth cartref yn realiti i'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny, yn enwedig prynwyr tro cyntaf. Rydw i hefyd eisiau gwneud popeth posibl i barhau i amddiffyn y rhai sy'n wynebu'r heriau mwyaf rhag costau byw sy'n cynyddu'n barhaus, gan eu cadw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Dyna pam rydw i’n falch o gadarnhau heddiw fy mod wedi cytuno i estyn Cymorth i Brynu – Cymru tan 31 Mawrth 2027, i gefnogi hyd at 400 o aelwydydd ychwanegol ledled Cymru i brynu cartref.
Rydw i hefyd wedi penderfynu estyn y Grant Cartrefi Gwag tan 31 Mawrth, gan gefnogi ailwampio hyd at 300 o gartrefi eraill a'u troi yn gartrefi diogel, ynni-effeithlon.
Yn olaf, bydd cynllun Cymorth i Aros – Cymru hefyd yn cael ei estyn tan 31 Mawrth 2027 i sicrhau bod cymorth yn parhau i fod ar gael i'r rhai sy'n cael trafferth talu eu morgais. Mae estyn y cynllun hwn yn adeiladu ar ein hymrwymiad yng Nghynllun 100 Diwrnod y Llywodraeth hon, i helpu teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae'r cyfuniad o fuddsoddi mewn cartrefi newydd fforddiadwy, grantiau i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio a chymorth i berchnogion tai presennol sy'n cael trafferth talu eu morgais, yn ymrwymiad sylweddol i bobl Cymru, ac mae hefyd yn helpu adeiladwyr cartrefi a BBaCh o fewn ein cymunedau.
Hoffwn i ddiolch i'n holl bartneriaid sy'n cyfrannu at y cynlluniau hyn, gan gynnwys adeiladwyr tai, awdurdodau lleol, benthycwyr morgeisi a Banc Datblygu Cymru, ac edrychaf ymlaen at gael eu mewnbwn a'u cefnogaeth barhaus er mwyn helpu cymaint o bobl â phosibl. Mae gwaith eisoes ar y gweill i adolygu pob cynllun, ac i ystyried sut y gellir gwneud prynu cartref yn fwy fforddiadwy yng Nghymru yn yr hirdymor.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
