Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn credu y dylai pawb ddysgu am hanes ein gwlad a’i holl amrywiaeth a gallu ymdrin â’r pwnc yn feirniadol. Ein gweledigaeth yw y bydd ein dinasyddion, gan gynnwys pob person ifanc, yn deall sut mae hanes, iaith, amrywiaeth a diwylliant wedi llunio’r Gymru fodern, y genedl unigryw a balch yr ydym yn rhan ohoni heddiw. Rydym am i’n holl ddysgwyr ddeall hanes Cymru, gan gynnwys  hanes y  Gymraeg. Rydym hefyd am i’n holl ddysgwyr deimlo eu bod yn cael eu hysbrydoli i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, ni waeth lle y maent ar eu taith i ddysgu’r Gymraeg.

Drwy’r datganiadau o'r hyn sy’n bwysig  a Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, mae hanes Cymru yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd.

Aeth Llywodraeth Cymru ati i gryfhau’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer y Dyniaethau, ar ôl ymgynghoriad yn nhymor yr gwanwyn 2021 er mwyn sicrhau bod astudiaethau o hanes  Cymru yn glir a gorfodol ar gyfer pob ysgol a lleoliad. Maent nawr yn dweud:

“Drwy glywed straeon eu hardal leol a straeon Cymru yn gyson, yn ogystal â straeon y byd ehangach, gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, lluosieithog ac amrywiol cymunedau ddoe a heddiw. Mae’r straeon hyn yn amrywiol, yn cwmpasu gwahanol gymunedau, yn ogystal â straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn enwedig. Mae hyn hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau eu hardal leol, Cymru a’r byd yn ehangach.”

Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn pwysleisio ei bod yn bwysig bod hanes cymhleth ac amrywiol Cymru yn orfodol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru ac yn ein ymrwymo i adolygu’r datganiadau gorfodol o’r hyn sy’n bwysig a chanllawiau atodol eraill er mwyn cryfhau’r ymrwymiad hwn ymhellach. Bydd hyn yn digwydd, yn dilyn ymgynghoriad, dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod, er mwyn darparu cyfeiriad eglur at ‘hanes Cymru a’r byd’. Bydd y canllawiau statudol sy’n sail i hyn hefyd yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newid hwn a rhoi cefnogaeth lawn iddo. 

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol am hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth ym mis Ebrill 2022. Casglodd y sgwrs hon safbwyntiau rhanddeiliaid ac ysgolion er mwyn datblygu dulliau gweithredu cyffredin ar gyfer addysgu hanes lleol a hanes Cymru a sut y gall y Gymraeg a chymunedau amrywiol chwarae rôl hanfodol mewn hunaniaeth a’r ymdeimlad o berthyn. Rydym bellach yn edrych ar sut y gallwn ni gefnogi athrawon yn fwy. Bydd hyn yn cynnwys  gan gynnwys cynnal rhagor o sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar hanes a diwylliant Cymru; gan gynnwys hanesion a diwylliant Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru; a hanes a sefyllfa bresennol y Gymraeg o ran cyd-destunau cenedlaethol a lleol.

Rydym hefyd yn comisiynu deunyddiau atodol er mwyn galluogi athrawon i gynllunio’u cwricwlwm i adlewyrchu hanes a chymunedau amrywiol Cymru. Mae hyn yn cynnwys llinell amser benodol i gefnogi addysgu a dysgu am hanes a chyfraniad Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leafrifol, a map rhyngweithiol o Gymru.

Byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid, gan gynnwys haneswyr ac academyddion, dros y misoedd nesaf i edrych ar ffyrdd pellach o gefnogi athrawon wrth i ni nesáu at weithredu’r Cwricwlwm i Gymru yn llawn.

Bydd cyflawni’r argymhellion a wnaed gan y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd yn greiddiol i addysgu hanes Cymru. Ym mis Mehefin cyhoeddais Adroddiad Blynyddol ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar weithredu’r argymhellion.

Heddiw, rwyf hefyd yn cyhoeddi ein hymateb ffurfiol i adroddiad thematig Estyn ar Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Bydd yn bwysig i ni ymdrin â’r argymhellion hyn fel rhan o weithredu'r camau uchod. Rwy’n  falch iawn o gadarnhau bod yr Athro Charlotte Williams OBE wedi cytuno i estyn ei rôl gynghori gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r gwaith o sicrhau bod yr argymhellion yn magu gwreiddiau.

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i hybu a chefnogi’r gwaith o gyflwyno hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn gallu ymchwilio i hanes amrywiol Cymru, canfod eu treftadaeth, deall pwysigrwydd y Gymraeg a datblygu dealltwriaeth o’u cynefin.