Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 (‘Mesur’) yn ddarn o ddeddfwriaeth arloesol sy’n gwneud darpariaeth i blant yng Nghymru gael yr hawl i gyflwyno apêl mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig a hefyd yr hawl i wneud honiad bod ysgol yn gwahaniaethu ar sail anabledd, gerbron Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru eu hunain. Mae’r Mesur yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i sicrhau bod yr hawliau newydd hyn yn effeithiol.  

Yn sgil y Mesur, gwnaed  Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 (‘Rheoliadau Treialu’) er mwyn treialu’r hawliau a dyletswyddau newydd a gyflwynir gan y Mesur yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam, a hynny nes ddiwedd Mehefin 2015. Ar ôl i gyfnod y rheoliadau treialu ddod i ben, bydd yr hawliau a’r dyletswyddau wedyn yn dod yn berthnasol yn awtomatig i Gymru gyfan.

Yn dilyn gwerthusiad y cyfnod treialu, cafodd adroddiad ei lunio ym mis Mehefin
2014 ar sut y cafodd y darpariaethau a dreialwyd eu gweithredu, a pha mor effeithiol oeddent o ran hybu lles plant. Gosodwyd yr adroddiad hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar yr un pryd, cyhoeddais hefyd fy mhenderfyniad o ddwyn ymlaen yr hawliau a’r dyletswyddau newydd fel y byddant yn dod i rym ledled Cymru ym mis Ionawr 2015.

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) (Dirymiad) 2014 heddiw yn cael ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y rheoliad hwn yn dirymu’r rheoliadau treialu yn eu cyfanrwydd. Yr effaith o hyn fydd i ddwyn ymlaen yr hawliau a’r dyletswyddau a roddir gan y mesur ledled Cymru o 5 Ionawr 2015.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio efo awdurdodau lleol, Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru a Comisiynydd Plant Cymru I sicrhau fod y gwybodaeth priodol, arweiniad ar cymorth ar gael i ddosbarthu y swyddi hyn.  Er mwyn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau mae canllawiau statudol newydd wedi ei  datblygu a mi fydd y fersiwn terfynol yn cael ei gyhoeddi ar 5 Ionawr 2015.

Drwy’r ddeddfwriaeth hon rydym yn darparu hawliau o rai o’r plant hynny sydd fwyaf agored i niwed a mae hyn yn arddangos ein ymrwymiad parhaus i Gytunbed y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn, fel sydd wedi ei grynhoi yn ein Mesur Hawliau plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Rydw i yn edrych ymlaen i’r darn pwysig o’r ddeddfwriaeth yma i ddod i rym ledled Cymru.

Mae’r datganiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau, byddaf yn fodlon gwneud hynny pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd.