Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sut rydym yn gweithio i gyflawni ein huchelgais o gael gwared ar drosglwyddiadau newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030 a sicrhau bod pawb sydd â HIV yng Nghymru yn byw’n dda.

Ers fy natganiad diwethaf ym mis Tachwedd, a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu HIV, rwyf heddiw yn cadarnhau cyllid parhaus i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun dros weddill ei oes. Bydd isafswm o £4.7 miliwn y flwyddyn ar gael dros y ddwy flynedd ariannol nesaf. Bydd hyn yn rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen i adeiladu ar y cynnydd da sydd wedi’i wneud hyd yma a chryfhau cydweithio. 

Rwy’n falch o ddweud bod cyfraddau profi yn cynyddu, ond rydym am wneud mwy i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl fanteisio ar brofion. Yn rhan o’r pecyn cyllid, bydd £3.9 miliwn y flwyddyn yn parhau i gael ei ddyrannu ar gyfer ein rhaglen brofi ar-lein, sy’n cynnig profion cyfrinachol yn rhad ac am ddim. Mae’r gwasanaeth hwn, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, yn helpu i ddarparu 40,000 o brofion HIV gartref bob blwyddyn. Bydd y cyllid yn cynyddu nifer y pecynnau profi mewn cymunedau lleol ac rydym eisoes wedi dosbarthu bron i 16,000 o becynnau profi cymunedol mewn lleoliadau ledled Cymru. 

Rydym hefyd am wella’r ffordd o gael gafael ar broffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP), a’r defnydd ohono, sef cyffur sydd, o’i gymryd yn unol â’r presgripsiwn, yn lleihau’r risg o ddal HIV drwy ryw 99%. Rwyf wedi cytuno y bydd math amgen o PrEP ar gael fel mater o drefn i’r rhai na allant gymryd y math presennol sydd ar gael, a hynny am resymau clinigol.

Mae angen inni barhau i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd profi ac o PrEP i’r rhai sy’n wynebu risg, yn ogystal ag atgyfnerthu negeseuon allweddol, gan gynnwys na all pobl sydd ar driniaeth effeithiol drosglwyddo HIV i eraill. Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu i hyrwyddo’r gwaith ymgyrchu hwn. 

Rwy’n benderfynol y bydd Cymru yn dod yn Genedl Llwybr Carlam, lle y bydd pob un o’r saith ardal bwrdd iechyd wedi ymrwymo i’r Datganiad Paris. Mae pum bwrdd iechyd wedi ymrwymo i’r Datganiad hyd yma, a’r diweddaraf i wneud hynny yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Er mwyn ein helpu i gyrraedd y nod hwn a chryfhau cydweithio, ymgysylltu a rhannu arferion gorau, bydd cyllid hefyd yn cael ei ddyrannu i gefnogi clymblaid Cymru gyfan. 

Rydym eisiau i bobl sydd â HIV fyw’n dda. Mae tua 2,800 o bobl yn byw gyda HIV yng Nghymru. Byddwn yn adeiladu ar yr amrywiaeth o gymorth sydd eisoes ar gael ac yn ariannu rhaglen genedlaethol cymorth gan gymheiriaid. 

Yn ogystal â’r pecyn cyllid hwn, ceir ystod o gronfeydd ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a all gefnogi’r agenda hon ac sydd eisoes yn gwneud hynny. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyllid gwerth £3 miliwn ar gyfer Uned Firoleg Gymhwysol Cymru, a bydd bron i £230,000 yn cael ei ddyrannu i estyn y cynllun peilot ymchwil ‘texting for testing’ i feddygfeydd mewn rhannau o Gymru.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ein cynnydd tuag at gyflawni’r ymrwymiad allweddol hwn a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu yn ogystal â'n nod yn y pen draw o gael gwared ar drosglwyddiadau newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030 a sicrhau bod pobl sydd â HIV yng Nghymru yn byw’n dda.