Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi ymrwymo mewn datganiadau i'r Senedd, ymddangosiadau gerbron pwyllgorau a darnau o ohebiaeth, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i herio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020.

Yr wythnos ddiwethaf, gwrthododd y Goruchaf Lys ein cais am ganiatâd i apelio yn erbyn Gorchymyn y Llys Apêl bod ein hawliad am adolygiad barnwrol o'r Ddeddf yn gynamserol.

Rydym wedi ein siomi gan ddyfarniad y Llys. Fodd bynnag, wrth wneud yr hyn sydd, yn ei hanfod, ar y cam hwn, yn benderfyniad gweithdrefnol, nid yw’r Llys wedi gwrthod ein dadleuon o sylwedd ac mae wedi gadael y drws yn agored i’r mater hwn gael ei ystyried ar adeg briodol yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n glir yn ei gwrthwynebiad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Mae hwn yn ymosodiad na ellir ei gyfiawnhau ar ddatganoli ac ar hawl y Senedd i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi eu datganoli i Gymru. Byddwn yn awr yn ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen orau â'n her i'r Ddeddf, er mwyn diogelu a mynnu hawl ddemocrataidd y sefydliad hwn i ddeddfu ar ran pobl Cymru.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.