Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae ystadegau sydd wedi’u cadarnhau a gaiff eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod disgyblion Cymru wedi cyflawni’r canlyniadau TGAU gorau erioed yn y flwyddyn academaidd 2014/15.

Yn ychwanegol at hyn, gwn y bydd gan yr Aelodau Cynulliad ddiddordeb mawr mewn clywed y diweddaraf am Her Ysgolion Cymru o ystyried yr arian sydd wedi’i fuddsoddi yn y rhaglen. Mae'n bleser gen i gyflwyno'r tabl isod i chi sy'n nodi canlyniadau TGAU yn 2014 a 2015, ac yn benodol o safbwynt cyrhaeddiad Trothwy Lefel 2 cynhwysol, yr Ysgolion Llwybrau Llwyddiant sy'n gweithredu ein rhaglen Her. Yn hanesyddol, mae'r 40 ysgol hyn wedi'i chael hi'n anodd efelychu llwyddiant ysgolion sy'n wynebu amgylchiadau llai heriol ac er nad canlyniadau TGAU yw’r unig fesur o welliant neu lwyddiant mae'n bleser gen i  gadarnhau bod dros ddau draean ohonynt wedi nodi gwelliannau ers dechrau eu blwyddyn gyntaf o fewn y rhaglen.

Fel y nodwyd ynghynt, gallaf bellach gadarnhau bod y rhan fwyaf o'r ysgolion wedi nodi gwelliannau o'i gymharu â chanlyniadau'r flwyddyn flaenorol, a bod canlyniadau rhai ohonynt ddwywaith yn well. Cafodd rhai ohonynt yn ogystal eu canlyniadau gorau erioed. O ystyried y ffaith bod llawer o'r ysgolion hyn wedi wynebu anawsterau sylweddol yn y gorffennol o safbwynt ceisio gwella eu perfformiad mae'n galonogol iawn i weld y cynnydd y maent wedi'i gyflawni ar ôl blwyddyn yn unig. I roi hyn mewn cyd-destun ehangach, mae ein Hyrwyddwr sef Yr Athro Mel Ainscow wedi nodi na lwyddodd yr ysgolion a fu'n rhan o Her Llundain na Her Manceinion Fwyaf, sef yr heriau y mae athroniaeth ddysgu Her Ysgolion Cymru'n seiliedig arnynt, i gyflawni cynnydd cystal ar ôl blwyddyn yn unig.

Ar draws y rhaglen roedd canlyniadau ysgolion Llwybrau Llwyddiant, ar gyfartaledd, dri phwynt canran yn uwch. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol iawn â chynnydd ysgolion o fewn y system ehangach a lwyddodd i gyflawni gwelliant cyfartalog o 2.5 pwynt canran.

Eto i gyd, er bod llawer o'r ysgolion hyn wedi cyflawni cryn gynnydd rwy'n cydnabod bod llawer iawn i'w wneud o hyd. Canolbwyntiodd blwyddyn gyntaf Her Ysgolion Cymru ar sicrhau bod gan yr holl ysgolion y sylfeini cywir ar gyfer meithrin gwelliannau cyflym a chynaliadwy yn yr hirdymor. Mae pob ysgol yn datblygu ar wahanol gyflymder, fodd bynnag, ac felly mae pob un wedi elwa ar ddull sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar eu cyfer. Roedd gofyn i rai ysgolion gyflawni newidiadau sylweddol a strwythurol er mwyn mynd i'r afael â'r materion a oedd wedi bodoli ers amser hir ac a oedd wedi arwain at eu hamgylchiadau heriol, a hynny weithiau dros gyfnod hir o amser. Yn naturiol felly mae’r cynnydd o fewn yr ysgolion hyn o ran canlyniadau arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf wedi bod yn gyfyngedig. O ystyried y newidiadau strwythurol sydd wedi’u hysgogi rhagwelir y bydd gwelliannau pellach yn cael eu gweld yn ystod ail flwyddyn y rhaglen.

Wrth i ni symud tuag at yr ail flwyddyn, fodd bynnag, rwy'n hyderus fod yr Her yn cefnogi'r ysgolion hyn i wella, a hynny nid yn unig yn ystod oes y rhaglen ond hefyd yn y tymor hwy. Yn ystod yr ail flwyddyn byddwn yn parhau i ganolbwyntio’n ddi-wyro ar wella ansawdd yr arweinyddiaeth, yr addysgu a’r dysgu o fewn pob un o’r ysgolion Llwybrau Llwyddiant. Ar yr un pryd rydym yn sicrhau bod ymgysylltu’n effeithiol â’r ysgolion cynradd clwstwr yn datblygu’n agwedd bwysicach ar y rhaglen a bod cefnogaeth barhaus yn cael ei chynnig i ddisgyblion o gefndiroedd llai breintiedig. Bydd hyn oll yn sicrhau gwelliant cynaliadwy i ddeilliannau’r holl ddysgwyr. Yn ogystal â'r holl waith â'r 40 ysgol hyn, mae Her Ysgolion Cymru hefyd wedi hybu gwelliannau o fewn y system ehangach. Mae wedi buddsoddi llawer iawn o arian er mwyn cyflawni hyn a bydd yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith hwn yn ystod yr ail flwyddyn.  

Mae'n bwysig ein bod yn mynd ati yn awr i adeiladu ar y cynnydd rhagorol yma a pharhau i weithio mewn modd adeiladol â phob ysgol sy'n rhan o'r Her er mwyn gwella safonau a sicrhau'r addysg orau bosibl i ddysgwyr ar draws Cymru.