Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn fy Natganiad Llafar i'r Cyfarfod Llawn fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddais, o 1 Ionawr 2022, y byddai'n ofynnol i bob prosiect adeiladu, adnewyddu mawr ac ymestyn yn gofyn am gymorth ariannol drwy'r rhaglen ddangos darparu carbon sero-net ar waith, ynghyd â gostyngiad o 20 y cant ar faint o garbon sydd wedi'i ymgorffori - hynny yw, y carbon a allyrrir trwy ddeunyddiau adeiladu a'r broses adeiladu.

Wrth gefnogi hyn, cytunais i arriannu 100 y cant o'r costau ychwanegol i gyflawni'r ymrwymiad carbon sero-net o dan y don bresennol hon o fuddsoddiad..

Ers fy Natganiad, rwy'n falch o gadarnhau bod ein partneriaid darparu awdurdodau lleol wedi ymateb i'r her o ran cysoni'r ymrwymiad hwn ar draws eu piblinellau prosiect ysgol.  Agorodd ysgol gynradd Sero Carbon Net gyntaf Cymru, Ysgol Gynradd South Point, ei drysau i ddysgwyr ym mis Mawrth eleni; mae hyn yn dyst tuag at ein hymrwymiad ar y cyd tuag at leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. 

Mae fy Natganiad hefyd yn nodi fy nisgwyliad o awdurdodau lleol a'u timau dylunio a dosbarthu i weithio ar y cyd gyda'n plant, pobl ifanc, Athrawon, staff a chymunedau fel eu bod yn cael y cyfle i helpu dylunio, adeiladu, a rheoli eu hamgylchedd dysgu; Cyfeiriais at 'Her Ysgolion Cynaliadwy'.

I'r perwyl hwnnw, rwy'n falch iawn o gadarnhau bod gwahoddiadau wedi cael eu hymestyn i awdurdodau lleol ar gyfer cyflwyno prosiectau ymgeiswyr o'u Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu sy'n gallu cydweithio i ddarparu ysgol gynradd arloesol, gynaliadwy sydd yn un â'r gymuned a'r amgylchoedd naturiol.

Bydd disgwyl i brosiectau ymgeiswyr fod yn arloesol a dangos cydweithrediad â chymunedau lleol, gan gynnwys disgyblion a theuluoedd, wrth ddylunio, darparu a rheoli'r ysgol. Dyma gyfle gwych i ymgorffori dyluniad ac adeiladu ysgol yn y cwricwlwm.

Gwahoddwyd cynigion gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gydag un ysgol i'w chodi yng ngogledd Cymru ac un yn y de, gyda hyd at £15m ar gyfer pob ysgol, sef cyfanswm o £30m o gyllid yn cael ei ddarparu i dalu costau pob prosiect.

Bydd disgwyl i'r dyluniadau gyfrannu'n gadarnhaol at yr amgylchedd lleol a'r tirweddau cyfagos, gan gynnwys hyrwyddo teithio llesol. Defnyddir deunyddiau naturiol lleol lle bo hynny'n bosibl.

Bydd angen dangos ystod o feini prawf amgylcheddol, fel defnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu neu ddeunyddiau naturiol, a darparu lefelau uchel o olau dydd naturiol, ynni isel a defnydd dŵr, a gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at fioamrywiaeth.

Mae ysgolion wrth galon ein cymunedau. Mae'n rhaid i ni fod yn uchelgeisiol yn y ffordd yr ydym yn adeiladu ysgolion newydd, gan alluogi eu dyluniad i wneud cyfraniad cadarnhaol at ddysgwyr a staff, cymunedau lleol ac i'r amgylchedd naturiol.

Bydd y ddau brosiect peilot hyn yn gweithredu fel glasbrint i bob ysgol yn y dyfodol, felly maent ar un â'u hamgylchoedd naturiol, gan gryfhau ein hymrwymiad tuag at ddatgarboneiddio a diogelu'r amgylchedd.

Mae cynaliadwyedd yn orfodol o fewn cwricwlwm newydd Cymru a bydd yn rhan o addysg pob dysgwr drwy gydol eu taith ddysgu. Bydd ysgolion sy'n elwa o'r gronfa yn cynnwys dysgwyr wrth ddatblygu neu weithredu atebion cynaliadwy ac amgylcheddol fel rhan o'u dysgu.

Byddaf yn cyhoeddi'r ddau brosiect llwyddiannus yn gynnar yn 2023.