Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau’n ymwybodol o’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Carchardai EF yn dilyn ei arolwg dirybudd yn HMP/YOI Eastwood Park, yn Swydd Gaerloyw.

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw’r gwasanaeth carchardai mae’r canfyddiadau yn destun pryder mawr, yn enwedig gan fod llawer o fenywod o Gymru sydd yn y ddalfa yn cael eu lleoli yng ngharchar Eastwood Park.

Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda’r Prif Arolygydd a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF i drafod yr adroddiad ar frys. Mae’r adroddiad yn gwneud ar gyfer darllen dirdynnol ac yn tynnu sylw at fylchau sylweddol mewn gofal, a diffyg cymorth i fenywod agored i niwed sydd mewn trallod. Mae’n hanfodol bwysig bod menywod o Gymru sydd yn y ddalfa yn cael eu cadw mewn cyfleusterau saff a diogel, sy’n addas at y diben.

Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF wedi rhoi gwybod i ni am rai o’r camau a gymerwyd ers cynnal yr arolwg ym mis Hydref. Mae hyn wedi cynnwys ailwampio’r bloc lle gwelwyd y materion mwyaf brawychus. Mewn ymateb i adnoddau staffio, mae staff ychwanegol wedi’u penodi sy’n cynnwys swyddogion carchar profiadol o garchardai lleol eraill. Mae Tasglu Diogelwch penodedig hefyd wedi’i sefydlu gyda’r nod o wella canlyniadau ar gyfer menywod yng ngofal y gwasanaeth carchardai, ynghyd â chynlluniau gofal newydd sy’n adnabod anghenion allweddol yr unigolyn ac yn cynnig gofal pwrpasol.

Rwy’n ymwybodol o ymdrech barhaus y carchar i wella gofal ar gyfer menywod yn ei ddalfa. Aeth y Cwnsler Cyffredinol a minnau ar ymweliad â charchar Eastwood Park ar 19 Ionawr ac roedd gennym bryderon yn dilyn yr adborth a gafwyd, gan gynnwys y diffyg mynediad at addysg. Rwy’n ymwybodol bod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi mynegi pryder am ddiffyg staff a materion tebyg drwy ymchwiliad y Senedd i brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Byddwn yn parhau i geisio diweddariadau rheolaidd ar y camau gweithredu i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.

Mae’r canfyddiadau’n tanlinellu pwysigrwydd peidio â lleoli menywod yn y ddalfa lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mae’r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod a ddatblygwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a Phlismona yng Nghymru, yn cefnogi cynlluniau fel y cynllun dargyfeirio Braenaru Menywod a gwaith meithrin cysylltiadau gydag ynadon i helpu i sicrhau nad yw menywod yn wynebu dedfryd carchar diangen ac aflonyddol am fân droseddau.

Yn ystod fy ymweliad diweddar gwelais drosof fy hun mor werthfawr yw rhai o’r cynlluniau Glasbrint y cyfeiriwyd atynt mor gadarnhaol yn adroddiad Arolygiaeth Carchardai EF. Mae hyn yn cynnwys y Cynllun Ymweld â Mam, sy’n helpu plant i ymweld â rhieni yn y ddalfa, a’r rôl bwysig sydd gan yr Ymgynghorydd Trais Domestig Annibynnol ar gyfer menywod o Gymru yn Eastwood Park.

Mae llawer mwy i’w wneud i wella canlyniadau i fenywod sy’n dod i gysylltiad â’r system gyfiawnder. Gan fod cyfiawnder ar hyn o bryd yn fater a gedwir yn ôl, byddwn yn parhau â’n hymrwymiad i leihau trosedd ac aildroseddu i greu Cymru well i bawb o dan y system bresennol, yn ogystal â gweithio i ddatblygu’r achos dros ddatganoli cyfiawnder yng Nghymru.