Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r galw am wasanaethau cymorth cartref yn parhau i fod yn uchel ac mae anawsterau hirdymor o ran recriwtio a chadw staff yn golygu bod awdurdodau lleol yn wynebu heriau sylweddol i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn ddigonol i ymateb i’r angen.

Rwy’n falch iawn ein bod yn darparu £10m o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol drwy’r ail gyllideb atodol. Bwriad y cyllid hwn yw cefnogi eu huchelgais i wella gallu eu gwasanaethau cymorth cartref mewn ffyrdd arloesol fel y cyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn y Senedd ar 8 Mawrth.

Mae darparwyr gwasanaethau cymorth cartref wedi dweud wrthym fod anallu gweithwyr gofal cartref i yrru yn cyfyngu ar yr hyn y gall eu gwasanaeth ei ddarparu, a’i fod yn rhwystr i recriwtio. Mae’r Asiantaeth Gyrwyr a Safonau Cerbydau wedi cytuno i flaenoriaethu dyddiadau prawf ar gyfer gweithwyr gofal cartref o Gymru sy’n aros i sefyll eu prawf gyrru. Dylai gweithwyr gofal cartref siarad gyda’u cyflogwr am y broses hon.

Rydym eisiau i awdurdodau lleol ddefnyddio’r cyllid ychwanegol hwn i dalu am wersi gyrru ar gyfer gweithwyr gofal cartref a phrynu cerbydau fflyd trydan i weithwyr gofal cartref eu defnyddio. Hoffem i’r cymorth hwn fod ar gael i wasanaethau sy’n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol a gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu o fewn y sector annibynnol.

Efallai na fydd y cyllid hwn yn gallu diwallu’r galw am wersi gyrru na cherbydau yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, rwy’n gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio lle caiff y budd mwyaf i wella darpariaeth gwasanaeth gofal cartref.

Mae prynu cerbydau trydan yn cyd-fynd â’n hagenda datgarboneiddio. Gellir defnyddio’r cyllid hwn er lles llawer, drwy ddarparu mwy o wasanaethau a chyfrannu at ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.