Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Bwyd a Ffermio adolygiad annibynnol o Hybu Cig Cymru. Hybu Cig Cymru yw’r corff lefi amaethyddol ar gyfer y sector cig coch yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n berchen arno ond mae’n cael ei redeg yn annibynnol. Mae’n hyrwyddo ac yn marchnata cynhyrchion cig coch o Gymru ym Mhrydain a thramor ac yn gweithio i ddatblygu safonau gwell yn y sector cig coch yng Nghymru. Mae'n gwneud hynny drwy gynnig hyfforddiant, trosglwyddo technoleg a darparu gwybodaeth i ffermwyr a chyrff eraill yn y diwydiant, a hefyd drwy wneud gwaith ymchwil a datblygu.  

Mae'n briodol bod cyrff hyd braich Llywodraeth Cymru yn cael eu hadolygu o bryd i'w gilydd i sicrhau bod eu hangen o hyd ac os felly, sicrhau eu bod yn parhau i roi gwerth da am arian. Crëwyd Hybu Cig Cymru yn 2003 a chafodd ei ailgyfansoddi yn 2007. Bryd hynny, daeth yn gwmni cyfyngedig trwy warant a oedd ym mherchnogaeth lwyr Gweinidogion Cymru.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan Kevin Roberts, sef Cadeirydd annibynnol presennol Grŵp Partneriaeth y Fframwaith Strategol. Er mwyn gwerthuso rôl Hybu Cig Cymru, siaradodd Kevin ag amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion o blith y diwydiant am allu Hybu Cig Cymru i ymgymryd â'i swyddogaethau a sicrhau gwerth am arian ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r rheini sy’n talu lefi. Cyhoeddwyd y canfyddiadau cychwynnol ym mis Mawrth 2016 ac mae Kevin bellach wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol a'i argymhellion imi.

Mae Kevin yn dod i’r casgliad bod angen codi lefi ar gig coch o hyd yng Nghymru ac mai Hybu Cig Cymru yw’r corff sydd yn y lle gorau i gasglu’r lefi a gwario’r arian ac i ymgymryd â’i swyddogaethau eraill ar ran y rheini sy’n talu’r lefi a Llywodraeth Cymru. Mae Kevin wedi nodi nifer o feysydd i'w gwella ac mae ei adroddiad yn cyflwyno 21 o argymhellion i Lywodraeth Cymru a Hybu Cig Cymru.

Mae'r argymhellion yn canolbwyntio'n bennaf ar sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn sy'n cael ei wario adref a thramor wrth fynd ati i hyrwyddo cig coch o Gymru, gwella'r modd y mae Hybu Cig Cymru, sefydliadau sy'n bartneriaid, a Llywodraeth Cymru yn cydweithio, a sicrhau bod Bwrdd Hybu Cig Cymru'n cyfrannu mwy at y gwaith o osod cyfeiriad y sefydliad. Mae Kevin wedi dwyn sylw penodol at fesurau i wella cynrychiolaeth ar lefel y Bwrdd a chryfhau'r cysylltiad gyda gweithrediaeth Hybu Cig Cymru er mwyn sicrhau bod prosesau craffu cadarn yn eu lle a’i bod yn cael ei herio. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu nifer o fesurau i wella'r berthynas lywodraethu ffurfiol rhwng Hybu Cig Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn yr adroddiad terfynol a gyflwynodd imi, mae Kevin wedi ystyried goblygiadau canlyniad refferendwm yr UE, ac mae hynny'n fater pwysig. Bydd trefniadau masnach wedi Brexit yn hanfodol bwysig ac yng nghyd-destun ein diwydiant ffermio, bydd rôl Hybu Cig Cymru yn y gwaith o gynorthwyo i ehangu’r farchnad allforio ar gyfer Cig Oen a Chig Eidion o Gymru yn parhau i fod yn hanfodol bwysig.

Mae'n bleser gennyf dderbyn yr argymhellion hynny  y bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am eu gweithredu. Gwelwyd cynnydd da eisoes, yn enwedig o ran y modd y caiff Hybu Cig Cymru ei lywodraethu. Mae fy swyddogion wedi llunio fframwaith newydd ac fe rannwyd a thrafodwyd hwnnw gyda Hybu Cig Cymru. Wrth wneud hynny, amlinellwyd y trefniadau llywodraethu sydd eu hangen yn y dyfodol ar gyfer symud ymlaen.

Rwyf wedi ysgrifennu at Fwrdd Hybu Cig Cymru i wahodd aelodau i barhau â'u rôl bwysig am gyfnod o chwe mis arall gan sicrhau parhad wrth i'r ddau sefydliad gydweithio i roi argymhellion Kevin ar waith. Yr hydref hwn, byddaf yn lansio ymarfer recriwtio i sicrhau bod Bwrdd newydd wedi'i sefydlu erbyn 1 Ebrill 2017.

Yn y dyfodol, rwyf yn awyddus i weld mwy o gydbwysedd o ran y rhywiau ar Fwrdd Hybu Cig Cymru ac i’r  perwyl hwnnw hoffwn annog mwy o fenywod i wneud cais. Hefyd, hoffwn weld pobl sydd â hanes o lwyddiant blaenorol, yn enwedig ym maes rheolaeth ariannol a marchnata, yn gwneud cais.

Rwyf wedi siarad â Chadeirydd a Phrif Weithredwr Hybu Cig Cymru ac maent wedi dweud wrthyf y byddan nhw ynghyd â Bwrdd Hybu Cig Cymru yn derbyn yr argymhellion sy’n berthnasol i Hybu Cig Cymru.  

Mae fy ymateb llawn i bob un o'r argymhellion wedi'u cyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru:

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/foodanddrink/supportforfoodproducers/hybucigcymru/?lang=cy


Hoffwn gofnodi fy niolch didwyll i Kevin Roberts am yr amser a'r ymdrech y mae wedi’u rhoi i gynnal yr adolygiad ac am ei ddealltwriaeth a'i argymhellion defnyddiol. Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl unigolion a roddodd o'u hamser, eu harbenigedd a'u sylwadau i helpu i lywio canfyddiadau Kevin.

Wrth i'r gwaith o weithredu argymhellion Kevin ddechrau o ddifrif, edrychaf ymlaen at gael adroddiadau cynnydd rheolaidd gan fy swyddogion ac oddi wrth Hybu Cig Cymru.