Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch iawn o gyhoeddi cyfres o fentrau, rhai eisoes ar droed ac eraill ar fin cychwyn, i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Y gyntaf ohonynt yw deddfwriaeth a fydd yn cynnwys gosod fframwaith ar gyfer ein gwaith, nawr ac yn y dyfodol, i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Rwy'n edrych ymlaen at gael cyflwyno Bil yn ddiweddarach eleni a fydd yn gosod Cymru ar drywydd newydd i ddatblygu codau cyfraith cynhwysfawr a threfnus - y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gymryd y cam hwn.

Pwrpas Bil Deddfwriaeth (Cymru) yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i’w defnyddio.

Bydd y Bil yn cynnig, ar gyfer pob tymor Cynulliad, bod rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddatblygu rhaglen o weithgarwch wedi'i chynllunio i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mater i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol ar y pryd fydd union gynnwys y rhaglen. Fodd bynnag, bydd rhaid i bob rhaglen wneud darpariaeth i gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cynnal cyfraith sydd wedi'i chodeiddio a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn y gyfraith ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yn gyffredinol.

Rydw i hefyd am hysbysu’r Aelodau y bydd tacsonomeg ddrafft yn cyd-fynd â’r Bil, yn nodi’r pynciau y gellid trefnu Codau Cyfraith Cymru yn unol â hwy. Er bod y setliad datganoli yn cyfyngu'n sylweddol ar yr hyn y gallwn ei wneud, rydym wedi cael ein hysbrydoli gan awdurdodaethau eraill sy'n trefnu eu cyfraith yn y modd hwn. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr Aelodau yn ystyried ein cynlluniau pan fyddant wedi cael eu cyhoeddi. Mae’r gwaith rydym ni’n ei wneud er budd defnyddwyr deddfwriaeth yn y pen draw, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod modd i’r defnyddwyr hynny weld y manteision yn ein cynigion.

Hefyd yn y Bil bydd darpariaethau ar ddehongli cyfraith Cymru, menter arall a fyddai'n gosod yr un sylfaen gyfreithiol i Gymru â'r Alban a Gogledd Iwerddon, sydd eisoes â deddfwriaeth o'r fath. Mae'r darpariaethau hyn, er yn dechnegol ac yn aml yn fanwl, yn bwysig tu hwnt gan eu bod yn pennu sut mae'r ddeddfwriaeth yn gweithio. Mae'r rheolau hyn yn aros yn y cefndir, yn barod i gael eu defnyddio pan fydd unrhyw broblemau. Caiff y rhain eu pennu un waith, fel nad oes angen eu hailadrodd bob tro y byddwn yn deddfu.

Yn ogystal â'r Bil, bydd yr Aelodau am wybod ein bod yn gweithio ar brosiectau eraill a fydd yn y pen draw yn ffurfio rhan o'r rhaglen waith sy'n ofynnol gan y Bil. Rydym yn canolbwyntio'n bennaf yma ar gyhoeddi a hyrwyddo cyfraith Cymru yn well. Er ei bod yn ddyddiau cymharol gynnar o hyd yn ein hanes fel deddfwrfa a llywodraeth, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio 59 o Fesurau neu Ddeddfau ers 2007 ac mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud tua 6,000 o offerynnau statudol ers 1999.

Rydym yn gweithio gyda'r Archifau Gwladol, sy’n gyfrifol am gyhoeddi cyfreithiau Cymru, i ddatblygu system fwy clir a hygyrch o gategoreiddio cyfraith cyn ei chydgrynhoi yn y dyfodol. Bydd hyn yn ein galluogi i drefnu'r ddeddfwriaeth hon yn unol â'r cynnwys yn hytrach na phryd y cafodd ei gwneud - sy'n ffordd anghyfleus o weithio. Rydym yn bwriadu, felly, cyhoeddi ein deddfwriaeth mewn ffordd wahanol, a fydd yn ei gwneud yn haws dod o hyd iddi ac, yn y bôn, yn tynnu sylw at ei bodolaeth. Mae Offerynnau Statudol mor niferus ac yn cael eu gwneud mor aml nes ei bod yn anodd iawn cadw'n gyfoes. Nid oes cysylltiad clir rhwng yr offerynnau hyn a'r Deddfau sy'n arwain atynt. Bydd trefnu'r ddeddfwriaeth hon yn ôl pwnc, hyd yn oed os nad yw wedi’i hail-wneud eto ar ffurf wedi’i chydgrynhoi, yn gam sylweddol ymlaen – yn arbennig pan fo'r offerynnau'n gweithredu cyfraith Ewropeaidd,.

Rydym hefyd yn trafod â'r Archifau Gwladol ynghylch cymryd rôl amlycach yn y ffordd y mae cyfreithiau Cymru yn cael eu cyhoeddi. Cyfrifoldeb Argraffydd y Frenhines yw hyn, a thîm deddfwriaeth yr Archifau Gwladol sy'n cyflawni’r gwaith yn ymarferol. Gwnaed gwaith da ganddynt yn ddiweddar fel rhan o’u nod i gyhoeddi’r llyfr statud ar ei ffurf fwyaf cyfoes, sy’n gofyn am ymgorffori diwygiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol i ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli. Fodd bynnag, mae'r cynnydd hwn wedi'i gyfyngu’n bennaf i ddeddfwriaeth sylfaenol, a thestun Saesneg deddfwriaeth (sylfaenol) Cymru yn unig yn anffodus. Rydym ynghanol y broses o gytuno ar drefniadau newydd lle bydd y dasg o ddiweddaru deddfwriaeth Cymru - yn Gymraeg ac yn Saesneg - yn cael ei hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru. Ein prif flaenoriaeth pan fyddwn yn gwneud hyn fydd mynd i'r afael â'r anghysonder sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng testun Cymraeg a Saesneg y gyfraith sy'n cael ei chyhoeddi. Ond fe fyddwn ni’n mynd ymhellach na hynny - fy nod yw sicrhau bod holl ddeddfwriaeth Cymru ar y llyfr statud yn cael ei chyhoeddi ar ei ffurf fwyaf diweddar.

Y flwyddyn nesaf rwyf hefyd yn bwriadu ail-lansio gwefan Cyfraith Cymru. Mae'r wefan hon eisoes yn ddefnyddiol, ond mae'r gwaith arni yn parhau a'r cynnwys yn gyfyngedig. Rwy'n cydnabod nad yw'r hyn sydd ar y safle ar hyn o bryd yn bodloni disgwyliadau pobl, gan gynnwys fy nisgwyliadau i fy hun. Ond rydw i hefyd wedi dweud yn glir, fel fy rhagflaenwyr yn y swydd hon, nad yw hyn yn rhywbeth y gall nac y dylai’r llywodraeth ei wneud wrth ei hun. Rydym yn cydnabod bod cyfrifoldeb arnom i wneud mwy i sicrhau bod cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, ac rydym yn mynd mor bell â chynnig gosod dyletswydd statudol arnom ein hunain mewn perthynas â hynny. Ond mae cyfrifoldeb hefyd ar y gymdeithas ddinesig ehangach i gyfrannu. Dyma rywbeth y mae'n rhaid ei ddatblygu ar y cyd, ac rwy'n galw ar gymuned gyfreithiol Cymru i chwarae ei rhan, gyda Llywodraeth Cymru, i wneud yr adnodd hwn gystal â phosib.

Ni fydd y broses o wneud cyfreithiau yng Nghymru, i Gymru, yn dod i ben, ac ni fydd y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr yn dod i ben.

Rhaid gwneud y gwaith hwn, felly, i gyfrannu tuag at y seilwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol sydd ei angen arnom nawr yng Nghymru ac i wneud cyfreithiau Cymru mor hygyrch â phosib i bobl Cymru.