Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn disgrifio pecyn o ofal sy’n cael ei drefnu a’i ariannu’n llwyr gan y GIG, ar gyfer y rheini sydd angen gofal sylfaenol ar sail iechyd. Mewn rhai achosion, os pennwyd cymhwysedd ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yn anghyson, gall unigolion wneud cais ôl-weithredol am ad-dalu’r costau a gyfrannwyd ganddynt tuag at eu gofal. Yn unol â’r trefniadau ar gyfer hawliadau Gofal Iechyd Parhaus ôl-weithredol a gyflwynwyd fis Mehefin y llynedd, mae Tîm Prosiect o Fwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys yn rheoli’r hawliadau a gyflwynwyd drwy Gymru hyd at 16 Awst 2010. Y Bwrdd Iechyd perthnasol sy’n delio â hawliadau a gyflwynwyd ar ôl y dyddiad hwn.  

Mae rheoli hawliadau Gofal Iechyd Parhaus ôl-weithredol yn waith cymhleth, ond eto’n waith pwysig a sensitif. Rwy’n gwerthfawrogi bod amgylchiadau unigol pob achos a’r dulliau lleol amrywiol o reoli’r hawliadau hyn, yn golygu nad yw mesur pob agwedd ar berfformiad yn ymarferol, ac y gallai fod yn gamarweiniol. Er hynny, rwyf wedi gofyn i’r Byrddau Iechyd roi gwybodaeth imi, i ddangos i ba raddau y maent yn llwyddo i reoli’r hawliadau hyn.  

Derbyniodd y Tîm Prosiect ym Mwrdd Iechyd Powys gyfanswm o 2,519 o hawliadau ôl-weithredol. Fel rhan o’u harchwiliad cychwynnol o’r achosion hyn, caeodd Powys 536 o hawliadau gan nad oedd digon o dystiolaeth o’r tâl neu ddigon o awdurdod cyfreithiol i gyfiawnhau’r hawliad. Gorffennwyd prosesu 244 o achosion pellach, ac o’r rheini, roedd 85 achos yn gymwys am ad-daliad llawn, roedd 141 yn rhannol gymwys, ac roedd 18 yn anghymwys. Mae 1,739 o achosion yn dal heb eu datrys felly, ac o’r rheini, mae gwaith ar y gweill i ymchwilio i 1,121. Ad-dalwyd £1,038,759 i’r hawlwyr hyd yn hyn.

Cyflwynwyd 1,232 o hawliadau i’r Byrddau Iechyd ar ôl Awst 2010, gan ddilyn y prosesau a nodwyd yn Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus Llywodraeth Cymru 2010, a chwblhawyd y gwaith o brosesu 53 ohonynt. O’r rhain, roedd 21 achos yn gymwys am ad-daliad llwyr, roedd 16 yn rhannol gymwys ac roedd 16 yn anghymwys. Mae gwaith ar y gweill i ymchwilio i 97 ohonynt ar hyn o bryd, ac ad-dalwyd £346,166 i’r hawlwyr.  

Rwy’n disgwyl i’r Byrddau Iechyd reoli’r hawliadau hyn yn effeithiol ac yn brydlon. Rwyf wedi nodi gofynion a cherrig milltir penodol ar gyfer Tîm Prosiect Powys, er mwyn iddo reoli ei holl hawliadau erbyn mis Mehefin 2014, fel y cytunwyd ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Darparu cyfeiriad strategol i’r Byrddau Iechyd drwy’r Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus oedd swyddogaeth Llywodraeth Cymru, ynghyd â chanllawiau ar gymhwysedd ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Tîm Prosiect Powys ar y targedau sydd i’w cyrraedd ar adegau allweddol yn ystod y misoedd i ddod. Maent hefyd yn gweithio’n fwy eang gyda’r holl Fyrddau Iechyd, i sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle i archwilio a rheoli perfformiad yr hawliadau hyn.  

Yn fwy cyffredinol, mae’r GIG yn gweithio i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch cymhwysedd yn gywir y tro cyntaf, eu bod yn glir a bod dogfennau ar gael i’w hategu, fel bod adolygiadau ôl-weithredol yn dod i ben. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn drwy gyflwyno trefniadau mwy effeithiol ar gyfer hawliadau ôl-weithredol, gan gynnwys dyddiad cau treigl ar gyfer hawliadau yn y dyfodol.  

Sylweddolaf hefyd fod angen ystyried y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau Gofal Iechyd Parhaus yn ofalus. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wrthi’n cynnal Astudiaeth Genedlaethol o effeithiolrwydd trefniadau Gofal Iechyd Parhaus a’r ffordd y cânt eu gweithredu ar hyn o bryd. Bydd ei gasgliadau ar gael yn y gwanwyn, a bydd y rhain yn cynnwys argymhellion ar gyfer Gweinidogion Cymru, yn ogystal â’r Byrddau Iechyd a’r Awdurdodau Lleol. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru i nodi a thrafod materion sy’n dod i’r amlwg fel rhan o’r broses hon. Byddaf yn bwrw ymlaen â’m hymrwymiad fy hun i gynnal adolygiad o’r Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus, ac yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion cysylltiedig sydd heb dderbyn sylw cyn gynted ag y bydd argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ar gael y gwanwyn nesaf.