Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'm haddewid i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Senedd am hynt y gwaith i ddiwygio’r gyfraith lesddaliadau, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r ymgynghoriad diweddaraf yn y rhaglen waith i roi Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 ar waith, sydd ar gael yma.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymroi i newid y drefn lesddaliadau yng Nghymru i'w gwneud yn decach, yn gliriach ac yn fwy tryloyw i lesddeiliaid sydd wedi bod yn brwydro ers rhy hir gyda system hynafol ac aneglur. Mae Deddf 2024 wedi gwneud newidiadau pwysig er lles Cymru, ac rwy'n awr yn cyflwyno rhaglen i'w rhoi ar waith. Rwy wrthi hefyd yn ystyried rhagor o newidiadau pwysig i Gymru ac yn trafod â Llywodraeth y DU am eu darpar fil i ddiwygio cyfraith cyfundddaliadau a lesddaliadau.

Rwy'n cynnal yr ymgynghoriad hwn ar y cyd â Llywodraeth y DU. Rwyf eisoes wedi gwneud fy marn yn glir mai'r ffordd orau o ddiwygio’r gyfraith lesddaliadau yng Nghymru yw trwy fanteisio ar gyfleoedd i weithio gyda Llywodraeth y DU gan ein bod yn wynebu'r un problemau ac yn rhannu amcanion cyffredin wrth geisio eu datrys. Elfen bwysig o'r ymgynghoriad i mi yw deall a oes achos dros wahaniaethu rhwng Cymru a Lloegr yn y maes hwn, neu a fyddai cael yr un system yn fwy buddiol i berchnogion tai Cymru. 

Mae ein hetholwyr yn cwyno wrthym yn gyson am eu taliadau gwasanaeth beichus ac annealladwy, a'i bod yn anodd os nad yn amhosib cael digon o wybodaeth i allu penderfynu a oes modd eu gwrthwynebu. Hefyd, yn aml, mae ofn arnynt ddefnyddio'r ychydig hawliau sydd ganddynt i fynd â'u landlord i dribiwnlys i herio'r taliadau gwasanaeth. Ac i wneud pethau’n waeth, mae perygl y bydden nhw’n gorfod ysgwyddo costau cyfreithiol eu landlord yn ogystal â'u rhai eu hunain, hyd yn oed pe baent yn ennill. 

Mae Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn gwneud newidiadau pwysig i ddelio â'r annhegwch sy'n gysylltiedig â thaliadau gwasanaeth, trwy ei gwneud hi'n ofyn ar landlordiaid a'u hasiantwyr rheoli i fod yn fwy agored am eu ffioedd, ac i beidio â'i gwneud yn rhagdybiaeth mai'r lesddeiliaid fydd yn talu costau cyfreithiol y landlord bob tro. Bydd manylion gweithredu'r drefn newydd ar gyfer taliadau gwasanaeth yn cael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae'r ymgynghoriad hwn yn disgrifio'n cynigion ar gyfer trefn newydd ac yn gyfle pwysig i wneud yn siwr bod y rheoliadau a wnawn yn mynd i'r afael ag anghenion lesddeiliaid yn effeithiol ac yn sicrhau arfer da wrth reoli tâl gwasanaeth yn y dyfodol. 

Mae hanner cyntaf yr ymgynghoriad yn ymwneud â rhoi Rhan 4 o'r Ddeddf ar waith, ac yn ystyried y wybodaeth y dylid ei chynnwys mewn adroddiad blynyddol a biliau tâl gwasanaeth, pa wybodaeth a dogfennau eraill ddylai fod ar gael yn rhwydd i lesddeiliaid o ofyn amdanynt, sut y dylid cyhoeddi taliadau gweinyddol, a sut y dylid llunio a llofnodi cyfrifon tâl gwasanaeth. Mae hefyd yn ystyried sut y dylid newid costau cyfreithiol fel eu bod yn rhoi'r eglurder a'r amddiffyniad sydd eu hangen i drefniadau rheoli trigolion allu gweithio'n effeithiol.

Mae ail hanner yr ymgynghoriad yn ystyried rhagor o newidiadau posibl i wella'r modd y rheolir tâl gwasanaeth, ar ben y newidiadau a wnaed eisoes trwy Ddeddf 2024. Er enghraifft, a oes angen newid i wella'r ffordd y mae gwaith mawr yn cael ei gynllunio ac y telir amdano, sut mae gwella'r broses ymgynghori 'adran 20' bresennol, ac a oes angen mesurau i reoli'r ffordd y mae asiantwyr rheoli'n gweithredu. Mae'r problemau y mae lesddeiliaid yn eu profi ar hyn o bryd yn y meysydd hyn yn gyfarwydd i lawer ohonom. 

Byddwn yn annog lesddeiliaid a'r rheini sydd â diddordeb yn y maes i ymateb i'r ymgynghoriad, er mwyn i mi gael y dystiolaeth orau i seilio penderfyniadau ar gyfer y camau nesaf. 

Rwy'n falch hefyd o gael cadarnhau y byddwn cyn hir yn cyhoeddi ymateb y llywodraeth i'r cyd-ymgynghoriad cyntaf ar weithredu Deddf 2024. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion i liniaru hen bryderon bod broceriaid yn codi gormod o gomisiwn ar lesddeiliaid am drefnu a rheoli yswiriant adeiladau, sydd wedyn yn cael ei roi i landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantwyr rheoli eiddo. Bydd yr ymateb yn disgrifio’r dystiolaeth o ymatebion yr ymgynghoriad, ac yn nodi’r camau nesaf tuag at gael gwared ar y drefn comisiynau a chreu system decach a mwy agored yn ei lle sy'n seiliedig ar ffioedd. 

Fy uchelgais yw gwneud y newidiadau hyn i lesddaliadau yn gyflym, fel bod perchnogion tai Cymru yn teimlo'r manteision a ddaw yn eu sgil cyn gynted â phosibl. Bydd angen i Weinidogion Cymru a'r DU gynnal rhagor o ymgynghori ar y rhaglen waith a datblygu is-ddeddfwriaeth fanwl dros y misoedd nesaf. Byddaf yn hysbysu'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau, a byddwn yn ddiolchgar am unrhyw help i gael pobl i ymwneud â'r rhaglen wrth iddi fynd rhagddo.