Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn ddiweddar i hyrwyddo cadwraeth gwyddau talcenwyn yng Nghymru. Gwnaethom dderbyn 1,200 o ymatebion a hoffwn ddiolch i bawb a gyflwynodd eu barn. Mae pob ymateb i'r ymgynghoriad wedi cael ei ystyried yn ofalus.

Mae dau fath o ŵydd dalcenwyn (WfG) sy'n ymfudo i'r DU yn y gaeaf; gwyddau talcenwyn Ewrop (EWfG) a gwyddau talcenwyn yr Ynys Las (GWfG). Yn 2015, ychwanegwyd gwyddau talcenwyn (WfG) at y rhestr ryngwladol o rywogaethau o dan fygythiad (‘IUCN Red List’). Hefyd, yn 2015 amcangyfrifwyd bod poblogaeth fyd-eang GWfG wedi gostwng i lai na 20,000 o adar.

Ar ynysoedd Prydain, mae'r rhan fwyaf o GWfG yn treulio'r gaeaf yn Iwerddon a gorllewin yr Alban, gyda gorllewin Cymru ar ymyl ardal y GWfG. Mae bron pob un o'r GWfG sy'n dod i Gymru yn y gaeaf yn mynd i Aber Dyfi, i'r gogledd o Aberystwyth. Mae'r Dyfi yn un o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig Ewrop yn benodol ar gyfer ei boblogaeth o GWfG. Mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol. Ar ddechrau 2015, cofnodwyd 26 GWfG ar y Dyfi, y nifer lleiaf erioed ers 1959 pan ddechreuwyd cyfri'n rheolaidd. Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau bod pobl wedi'u gweld mewn lleoliadau eraill ar ôl sawl blwyddyn o absenoldeb.

Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth y gallwn i ddiogelu'r aderyn eiconig hwn. Rwyf wedi ystyried yr amrywiaeth o ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus er mwyn ein helpu i gyflawni hyn yng Nghymru. Nid oedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn dangos unrhyw dystiolaeth a fyddai'n awgrymu bod GWfG yn cael eu saethu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae hyn yn fy arwain at y casgliad bod y moratoriwm blwyddyn gyfan gwirfoddol ar saethu GWfG yng Nghymru, ar diroedd lle mae gan glybiau saethu hawliau saethu, yn gweithio'n effeithiol ac mae clybiau hela adar yng Nghymru yn cadw ato ar hyn o bryd.

Felly, rwyf wedi penderfynu mai'r ffordd orau o ddiogelu WfG yng Nghymru yw trwy barhau i weithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau a'r bobl sydd â gwybodaeth leol am ddiogelu WfG yng Nghymru ac sydd â'r ymrwymiad i wneud hynny. Gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, drwy barhau i weithio mewn partneriaeth ar y ddaear gyda'r rhanddeiliaid perthnasol a hyrwyddo'r moratoriwm gwirfoddol presennol ar saethu GWfG yng Nghymru ar diroedd lle mae gan glybiau hela adar hawliau saethu. Yn ail, drwy gyllido ymchwil ychwanegol ar gyfer anghenion diogelu'r aderyn eiconig hwn.

Mae’r ymchwil hwn yn cynnwys:

  • monitro niferoedd, dosbarthiad ac ymddygiad GWfG ar y Dyfi ac yn Ynys Môn
  • monitro poblogaeth, oedran, strwythur a chyflwr
  • monitro symudiadau GWfG ar draws eu hardal (olhrain â lloeren)
  • asesu cyflwr y tir mewn ardaloedd sydd wedi'u meddiannu gan GWfG sydd yma dros y gaeaf.

Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ddeall pa mor agored i niwed yw'r GWfG yng Nghymru ac i hysbysu penderfyniadau rheoli yn y dyfodol. Bydd yn gwella ein tystiolaeth yn sylweddol er mwyn hysbysu ein penderfyniadau am y ffordd fwyaf priodol i reoli'r gwyddau hyn a'u cynefin.

Yn gyffredinol bydd y dull rwyf wedi'i amlinellu yn helpu i sicrhau dyfodol gwell i GWfG yng Nghymru, er mwyn i genedlaethau presennol a'r dyfodol allu parhau i fwynhau ymweliadau gaeafol y rhywogaeth eiconig hwn yng Nghymru.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.