Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy a mwy o ymdrech ac egni i sicrhau bod Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddefnyddio fel cerbyd ar gyfer hyrwyddo Cymru ledled y byd. Ein neges yw bod Cymru ar agor ar gyfer busnes a’i bod eisoes yn lleoliad deniadol i fuddsoddwyr ac ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Rydym yn cydweithio’n agos â llysgenadaethau a swyddfeydd consyliaid y Deyrnas Unedig i elwa ar adnoddau a sicrhau ein bod yn meithrin y cyfleoedd gorau posibl i hyrwyddo Cymru.

Cynhaliais dderbyniad yn Lancaster House ar gyfer y Corfflu Diplomataidd yn Llundain. Roedd pobl fusnes, llunwyr barn ac Aelodau Cymru o Dŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin ymhlith y gwesteion.

Wedi hynny, ymwelais â Washington ac Efrog Newydd lle cefais gyfarfodydd â buddsoddwyr a Chymdeithas Busnes Prydain America. Yn ystod fy ymweliad, cyhoeddodd GE Aviation fuddsoddiad newydd gwerth 20 miliwn o bunnoedd, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer cynnal a chadw injan GE9X y genhedlaeth nesaf yn Nantgarw. Bydd y prosiect hwn yn diogelu mwy na 400 o swyddi. Roeddwn hefyd yn falch o gyfarfod â chynrychiolwyr o Wheelabrator Technologies, sydd wedi dechrau ar y gwaith o adeiladu cyfleuster a fydd yn troi gwastraff yn ynni yng Nglannau Dyfrdwy. Diolch i’r buddsoddiad hwn, bydd cannoedd o swyddi yn cael eu creu yn ystod y cam adeiladu, a bydd tua 40 o swyddi parhaol yn y ffatri pan fydd yn weithredol. Yn Pennsylvania, cefais fy nhywys o amgylch cyfleuster IQE, cwmni sydd â’i bencadlys yng Nghymru, sy’n arwain y ffordd yn y maes lled-ddargludyddion cyfansawdd uwch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi IQE wrth i’r cwmni weithio gyda Phrifysgol Caerdydd ac eraill i helpu i sefydlu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd o’r radd flaenaf yma yng Nghymru.

Cyfarfûm â’r Cyngreswr Mike Conaway, Cadeirydd Pwyllgor Amaethyddol y Tŷ, i gyflwyno’r achos o blaid allforio cig oen Cymru i Unol Daleithiau America ac i drafod y rhagolygon ehangach i’n sector amaethyddol. Roeddwn yn falch hefyd o gyfarfod â Cawcws Cyfeillion Cymru ac o gynnal derbyniad Gŵyl Dewi yn Capitol Hill ar gyfer unigolion o’r byd gwleidyddol a busnes. Yn Efrog Newydd, cefais y fraint o ganu’r gloch i gau Cyfnewidfa Stoc NASDAQ, a oedd yn ffordd unigryw o godi proffil Cymru ymhlith cymuned fusnes yr Unol Daleithiau. Cynhaliais dderbynfa arall ar gyfer cysylltiadau busnes yn y ddinas. Yn ystod fy ymweliad, cyhoeddwyd bod mwy na 550 o swyddi naill ai’n cael eu diogelu neu’n cael eu creu o’r newydd. Mae’r ymrwymiadau hyn, ynghyd ag eraill, yn dangos pa mor gadarn yw ein perthynas fusnes â chwmnïau yn America.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, ynghyd â thaith fasnach a dirprwyaeth ddiwylliannol, â Tsieina. Yno, cynhaliodd dderbyniadau Gŵyl Dewi yn Chongqing a Shanghai. Yn ystod ei ymweliad, cafodd gyfarfod â chynrychiolwyr o Acerchem International sy’n creu 38 o swyddi o safon sy’n galw am sgiliau uchel drwy sefydlu cyfleuster Ymchwil a Datblygu yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig â Dubai lle aeth i Sioe Fasnach Gulfood i hyrwyddo cynnyrch o Gymru. Cafodd gyfarfodydd busnes hefyd a chynnal Derbyniad Gŵyl Dewi i werthu Cymru fel partner busnes. Roedd wythnos o berfformiadau yn cael eu cynnal gan gwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn Nhŷ Opera Dubai ar yr un adeg â’i hymweliad – enghraifft ragorol o ddefnyddio’r diwylliant arbennig sydd gennym i hyrwyddo busnesau Cymru.

Cafodd derbyniad ei gynnal ym Mrwsel gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Yno, cynhaliodd gyfarfodydd â sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd (UE) a Syr Tim Barrow, Chynrychiolydd Parhaol y DU yn yr UE, i drafod y blaenoriaethau cyn y negodiadau ynglŷn ag ymadawiad y DU o’r UE.

Yn ogystal â hyn, cafodd derbyniadau eu cynnal ar y cyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn llysgenadaethau Prydain yn Nulyn, Paris, Madrid a Rhufain. Cynhaliodd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru dramor, gan gydweithio â llysgenadaethau Prydain, ddigwyddiadau yn Japan ac India ac mewn gwledydd eraill, gan ddefnyddio cynnyrch o Gymru. Cydweithiodd Llywodraeth Cymru â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad hefyd i hyrwyddo Cymru drwy sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.

Nid yw erioed wedi bod mor bwysig i godi proffil Cymru yn rhyngwladol. Rydym wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad ac ymwelwyr i Gymru, ac rydym yn cefnogi busnesau Cymru yn eu hymdrechion i allforio mwy o’u cynnyrch a’u gwasanaethau. Mae gan Gymru olygon byd-eand ac yn y dyfodol bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy, nid llai, i hyrwyddo ein gwlad a’r cyfleoedd economaidd sydd ar gael inni. Heddiw, fwy nag erioed, rhaid inni fod yn hyderus am ein safle yn y byd, a rhaid inni fwrw ati’n rhagweithiol i ledaenu’r neges bod Cymru yn lle arbennig i ymweld ag ef, ac i astudio a buddsoddi ynddo.