Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dyma ddatganiad ysgrifenedig sy’n disgrifio’r diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i hyrwyddo a marchnata Cymru. 

Mae marchnata yn elfen bwysig o’n hymdrechion i godi proffil Cymru ac o ganlyniad iddo, i gynyddu nifer y cwmnïau sy’n dangos diddordeb yng Nghymru fel lle i fuddsoddi ynddo. Mae gennym swyddfeydd yng Ngogledd America, India, Tsieina, Brwsel, Japan, Llundain ac Iwerddon, ac rydym yn cydweithio’n glos ag UKTI i sicrhau bod grwpiau allweddol yn cael clywed ein neges. 

Mae gennym raglen eang o deithiau a sioeau masnach i helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd dramor.  Mae dros 40 o ddigwyddiadau tramor o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn rhaglen 2013/14, yn amrywio o deithiau masnach ar gyfer sectorau penodol i rai amlsector.  Ewch i wefan Busnes Cymru i weld y rhaglen: https://business.wales.gov.uk/cy/teithiau-masnach-llywodraeth-cymru

Cafodd yr ymgyrch farchnata ‘Just Ask Wales’ ei lansio ar 13 Ionawr 2014.  Amcan yr ymgyrch yw cael mwy o gwmnïau tramor sydd am dyfu ac ehangu i ystyried dyfodol yng Nghymru.  Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at y sgiliau, y cymorth a’r lle sydd ar gael yng Nghymru, cyflymder y broses benderfynu a’r cwmnïau llwyddiannus niferus sydd eisoes wedi ymgartrefu yma ac elwa ar nawdd Llywodraeth Cymru.  Cewch weld y manylion ar wefan Just Ask Wales: http://justask.wales.com/.

Mae cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru yn tyfu’n rhan fwyfwy pwysig o’r ymgyrch i godi proffil Cymru ledled y byd a denu pobl i ddod ac aros yng Nghymru, gan wasgaru’r manteision economaidd i’r ardaloedd o gwmpas.  Mae gennym eisoes nifer o ymgyrchoedd i hyrwyddo a marchnata Cymru yn y marchnadoedd rydym yn rhoi blaenoriaeth iddynt yn y DU, Iwerddon, yr Almaen ac America.  Er enghraifft, ar 1 Mawrth, lansion ni ymgyrch newydd £4m Croeso Cymru.  Rydym yn cydweithio’n glos hefyd â VisitBritain i wneud yn siŵr bod Cymru’n cael ei chynrychioli yn ei holl waith cyhoeddusrwydd, hysbysebu a marchnata mewn marchnadoedd rhyngwladol eraill. Cewch weld mwy am y gwaith marchnata twristiaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.