Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru a mawr yw fy niolch i’r pump am ei gwaith parhaol ar ran pobl anabl Cymru.

Mae'r pum Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl yn dod â'u profiad bywyd personol a'u gwybodaeth arbenigol i'w gwaith wrth hyrwyddo recriwtio, cadw a chynnydd gweithwyr anabl ledled Cymru. 

Mae eu rhaglen waith yn cael ei ysgogi gan yr Ymrwymiad yn ein Rhaglen  Llywodraethu i ddefnyddio'r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu cau'r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth mewn gweithleoedd, ac erbyn y Garreg Filltir Genedlaethol ar gyfer dileu'r bwlch cyflog o ran rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050.

Mae eu gwaith hefyd yn cyd-fynd â'r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl a'n hymateb i'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn ei adroddiad 'Os yw'r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i'r Afael â'r Bwlch Cyflogaeth Anabledd'. 

Mae yna lawer o gyflawniadau o bwys. 

Mae'r Hyrwyddwyr wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i gefnogi cyflogwyr i gyflogi pobl anabl, gan gynnwys rhai am wneud addasiadau rhesymol yn y gweithle, gweithredu arferion recriwtio a chyflogaeth cynhwysol, a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd. 

Mae'r Hyrwyddwyr wedi ymgysylltu â mwy na mil o gyfranogwyr trwy weminarau y maent wedi'u cyflwyno ar y 'Model Cymdeithasol o Anabledd' ac 'Addasiadau yn y Gweithle ar gyfer Gweithwyr Niwrowahanol'. Mae'r rhain wedi bod yn hynod boblogaidd ac er mwyn cwrdd â'r galw mae amserlen barhaus o sesiynau bellach ar waith

Ym mis Ionawr, lansiodd yr Hyrwyddwyr Fforwm Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd i Gymru hefyd. Mae'r fenter newydd hon yn dod â chyflogwyr sydd wedi cyflawni statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd at ei gilydd i rannu arferion gorau ac ysbrydoli eraill i ymuno â'r cynllun a symud ymlaen i statws Arweinydd. Mae'r Hyrwyddwyr hefyd yn parhau i ddarparu cefnogaeth un i un i'r sector cyhoeddus a chyflogwyr mawr i'w hannog ar eu taith i ddod yn Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd.  Er enghraifft, fe fuont yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i symud y sefydliad i Statws Arweinydd. Mae hyn yn ategu gwaith Cynghorwyr Cyflogwyr Pobl Anabl Busnes Cymru mewn perthynas â busnesau bach a chanolig. 

Mae'r Hyrwyddwyr wedi adeiladu partneriaethau cryf gyda sefydliadau allweddol gyda'r nod o wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru. Mae'r dull cydweithredol hwn i'w weld yn glir drwy'r Gweithgor Cyflogaeth Pobl Anabl sy'n cael ei arwain gan yr Hyrwyddwyr, ac sy'n helpu i feithrin ymgysylltu a deialog rhwng Llywodraeth Cymru, Sefydliadau Pobl Anabl, yr Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid allweddol eraill. 

Mae'r Hyrwyddwyr wedi gweithio'n agos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau  i bwyso am gynllun Hyderus o ran  Anabledd mwy cadarn ac effeithiol.  Wrth wneud hynny, tynnwyd ar eu hymgysylltiad â rhanddeiliaid Cymru ac ar yr adroddiad ymchwil a gynhyrchwyd ar y cyd gan aelodau o'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd, gan archwilio gwelliannau posibl i'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus i Anabledd yng Nghymru. Ers hynny, mae'r Adran wedi cyhoeddi eu bwriad i ddiwygio'r cynllun mewn cam yr wyf yn ei groesawu. 

Ochr yn ochr â'u gwaith ar gyfer y cyhoedd, mae'r Hyrwyddwyr yn chwarae rôl bwysig o fewn Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar bolisi ehangach sy'n effeithio ar gyflogaeth pobl anabl a helpu i wneud rhaglenni a gwasanaethau yn fwy addas i bobl anabl. Er enghraifft, maent yn helpu yn weithredol i lunio ein Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd a chyflawni'r prosiectau Blaengaredd ym maes Anweithgarwch Economaidd. 

Mae llwyddiannau'r Hyrwyddwyr hyd yma yn adlewyrchu eu harbenigedd, eu hymroddiad a'u gwaith partneriaeth cryf. Rwy'n hyderus y bydd eu cyfraniad parhaus yn helpu i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru.